Cannoedd yn rhagor o brofion positif Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Cit profi gartref ar gyfer Covid-19Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cit profi yn y cartref ar gyfer Covid-19

Mae cannoedd o achosion o coronafeirws bellach wedi'u hychwanegu at ffigurau swyddogol Iechyd Cyhoeddus Cymru yng Nghymru.

Hyd yn hyn mae canlyniadau mwy na 70,000 o brofion o labordai masnachol wedi cael eu harddangos ar wahân i'r prif ystadegau.

Ond mae'r rhain bellach yn cael eu hychwanegu, gan ddangos 1,049 o achosion positif.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru mae "wedi bod yn gweithio ers cyn amser i gyflwyno darlun mor gyflawn â phosib" o ddata Covid-19.

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos 20 achos newydd - saith wedi'u prosesu gan labordai ICC ac 13 o labordai masnachol y tu allan i'r gwasanaeth iechyd.

Cyfaddefodd ICC fod cyfuno'r data newydd ochr yn ochr â'i system adrodd ei hun wedi bod yn "gymhleth".

Ond dywedodd ei fod wedi gwneud "cynnydd da" ac o ddydd Sadwrn ymlaen roedd wedi gallu cyflwyno adroddiadau yn ychwanegol i'r wybodaeth ddyddiol.

Gwaredu cofnodion dyblyg

"O ganlyniad rydym yn cyhoeddi cynnydd yng nghyfanswm ein hachosion ac i'n cyfanswm dyddiol o achosion newydd," meddai llefarydd.

"Mae hyn i'w ddisgwyl pan fyddwn yn cynnwys canlyniadau o brofion cynyddol, gyda mwy o bobl yn cael eu hannog i gael eu profi.

"Mae'r data wedi cael eu harddangos ar wahân yn flaenorol ar ein dangosfwrdd ar y wefan."

Dywedodd ei bod yn debygol o fod yn goramcangyfrif achosion unigol ar hyn o bryd, a bod gwaith yn "mynd rhagddo i gael gwared ar gofnodion dyblyg cyn gynted ag y gallwn".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae pedair gwlad y DU wedi defnyddio profion labordy masnachol i hybu y gallu i brofi.

Mae citiau cartref a phrofion sy'n cael eu cynnal mewn rhai canolfannau prawf yng Nghymru yn cael eu prosesu yn labordai cwmni Lighthouse yn Lloegr, tra bod y rhai sy'n cael eu cynnal mewn ysbytai a chanolfannau prawf eraill yn cael eu prosesu gan GIG Cymru.

Angen data da

Cyn y cyhoeddiad yma gan Iechyd Cyhoeddus Cymru roedd yr epidemiolegydd yr Athro Gabriel Scally - aelod o grŵp annibynnol o wyddonwyr - yn rhybuddio bod y methiant yma i gynnwys y canlyniadau cadarnhaol hynny yn "anfantais bellach" i'r ymgais i ddileu coronafeirws yng Nghymru.

"Dylai Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon fod yn anelu at ostwng nifer yr achosion i ddim a dileu'r trosglwyddiad yn y gymuned", meddai.

"Dyna'r ffordd ymlaen - ac i wneud hynny mae angen profion da a data da arnoch chi."

Ychwanegodd: "Mae unrhyw ddiffygion ynghylch gwybodaeth sydd ddim yn gyflawn neu ddim ar gael, neu fod nifer y profion yn hytrach na nifer yr unigolion yn cael eu cyfrif, yn ymyrryd â'r broses."

Dywedodd er bod defnyddio labordai masnachol yn golygu bod modd gwneud mwy o brofion, nid yw'r system yn 'addas at y diben' oherwydd ei bod yn cymryd gormod o amser i'w prosesu - gan arwain at oedi wrth olrhain cyswllt.

Disgrifiad o’r llun,

Rhaid cael data da er mwyn lleihau nifer yr achosion meddai'r Athro Gabriel Scally

"Nid yw hi o fudd i'r amserlen olrhain os ydy pethau'n cael eu postio i'r labordai yma neu eu hanfon yn ôl gyda negeswyr," meddai'r Athro Scally.

"Mae gwir angen iddo fod yn gyflym. Felly mae cael labordy sydd yn agosach at yr achosion mor bwysig.

Ychwanegodd: "Dylai'r system gyffredinol gael ei hailstrwythuro. Dylai fod wedi'i lleoli'n lleol a gweithredu'n lleol a bod yn llwyddiannus yn lleol."

Mae dangosfwrdd ICC yn dangos mwy na 155,500 o brofion gan ei labordai ei hun ond cafodd 70,186 o brofion eu cynnal hefyd mewn labordai y tu allan i'r gwasanaeth iechyd.

Fe ddarganfyddodd y profion yna 13 prawf positif, gan ddod â'r cyfanswm o'r ffynhonnell hon i 1,049.

Eglurodd epidemiolegydd ICC, Dr Chris Williams, fod y data labordy masnachol cadarnhaol yn dal i gael ei ddefnyddio fel rhan o'r system Profi, Olrhain, Diogelu gan ychwanegu bod defnyddio labordai y tu allan i Gymru yn golygu y gallai unrhyw un gael prawf.

"Cynigiwyd profion i bawb yn y DU yn ôl y galw," meddai Dr Williams.

"Fe wnaethon ni i gyd ymuno â hynny oherwydd mae'n syniad da cynnig profion i bobl.

"Roedd hynny trwy borth y DU - yr hyn a elwir yn 'Lighthouse Labs'. Roedd hynny'n golygu y gallai pobl gofrestru i gael prawf wedi'i bostio atyn nhw neu drefnu i'w wneud mewn dull arall.

"Manteisiodd y boblogaeth gyffredinol ar y cyfle i gael y profion hynny, a hefyd mae rhai o'n byrddau iechyd wedi bod yn defnyddio'r gallu hwnnw i wneud rhywfaint o'u profion lleol."

Dywedodd llywodraeth Cymru ei bod yn cydnabod "pwysigrwydd amseroedd troi cyflym".

"I'r perwyl hwnnw, ac i helpu i amddiffyn ein gweithwyr beirniadol gan gynnwys gweithwyr iechyd a gofal, rydyn ni'n defnyddio labordai Cymru a'r system Labordy Goleudai ledled y DU."

Gwledydd eraill

Mae'r Alban wedi bod yn cynnwys data masnachol Lighthouse Labs gyda'i wybodaeth ei hun ers 15 Mehefin, tra bod Gogledd Iwerddon wedi cyfuno'r wybodaeth ers 25 Mehefin.

Ar 2 Gorffennaf, fe ddechreuodd Iechyd Cyhoeddus Lloegr roi mynediad i'r cyhoedd i ddata achosion cadarnhaol, gan gynnwys profion cymunedol, yn dilyn beirniadaeth nad oedd ei ffigurau'n adlewyrchu gwir nifer yr achosion newydd.

Yn y cyfamser, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod y cwymp yn nifer y profion positif am fod llai o coronafeirws o gwmpas, ond roedd yn cydnabod bod sichrau canlyniadau cyflymach yn bwysig.

"Rydyn ni eisiau sicrhau bod y profion yn dod yn ôl yn gyflymach ac rydyn ni'n dechrau gweld arwyddion ein bod yn symud i'r cyfeiriad hwnnw," meddai.

"Lle mae pethau ar frys, fel yr oeddent yng Ngogledd Cymru yn y ddau achos a gawsom yno, yna roeddem yn gallu sicrhau bod canlyniadau'r mwyafrif helaeth o'r profion yn ôl o fewn 24 awr."