Teyrngedau i'r cyflwynydd Andrew 'Tommo' Thomas
- Cyhoeddwyd
Mae nifer wedi bod yn rhoi teyrngedau i'r cyflwynydd poblogaidd Andrew 'Tommo' Thomas fu farw ddydd Mawrth yn 53 oed.
Bu'n cyflwyno rhaglen y prynhawn ar BBC Radio Cymru rhwng 2014 a 2018.
Gadawodd bryd hynny i gyflwyno rhaglen ddyddiol ar orsaf Nation Broadcasting.
Yn 2011 enillodd wobr Cyflwynydd Radio'r Flwyddyn am ei waith ar orsafoedd Nation yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
Roedd hefyd yn llais cyfarwydd ar Barc y Scarlets, gan mai ef oedd y llais ar yr uchelseinydd yng ngemau rygbi'r rhanbarth.
'Llais y gorllewin'
Dywedodd Rhuanedd Richards, Golygydd BBC Radio Cymru: "Dyn ei filltir sgwar oedd Tommo a darlledwr unigryw a oedd wrth ei fodd yn diddanu ac yn sgwrsio gyda'i wrandawyr ar Radio Cymru.
"Roedd ganddo lais mawr a phersonoliaeth mwy, ac roedd ei gariad tuag at ei deulu, tuag at Orllewin Cymru, ac wrth gwrs tuag at y Scarlets yn dylanwadu'n drwm ar ei bresenoldeb ar yr awyr.
"Rydym yn drist iawn o glywed y newyddion yma heddiw, ac rydym yn estyn ein cydymdeimlad i deulu a ffrindiau Tommo."
Fe wnaeth Llywydd y Senedd, Elin Jones drydar: "Newyddion trist iawn yn bwrw'r gorllewin heno am farwolaeth Tommo. Ergyd greulon i'w deulu a'u ffrindiau, ac i'w annwyl dref, Aberteifi.
"Roedd yn ddarlledwr gwbwl reddfol, yn fywiog a charedig. Llais y gorllewin."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ychwanegodd y Scarlets mewn neges Twitter: "Roedd Tommo yn ffigwr hynod boblogaidd fel cyhoeddwr PA diwrnod gêm Parc y Scarlets, cefnogwr angerddol o'r Scarlets a ddaeth â'i gymeriad a'i egni i bob gêm."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr y Scarlets - Crys 16 - ar eu cyfrif Twitter: "Rydym yn drist iawn o glywed y newyddion am farwolaeth Tommo.
"Bu Tommo yn ffrind ac yn gefnogwr i'r Ymddiriedolaeth ers blynyddoedd ac yn un a oedd yn falch iawn o ddangos ei gariad at y Scarlets i'r byd, bob amser.
"Mae ein cydymdeimladau dwysaf ni gyda'i deulu."
Ymhlith y teyrngedau eraill ar y cyfryngau cymdeithasol oedd prop y Scarlets a Chymru, Rob Evans, a ddywedodd: "Newyddion trist iawn am Tommo. Meddyliau gyda'i deulu - dyn gwych oedd yn llawn hwyl."
'Fel corwynt'
Roedd yna deyrnged ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd gan Terwyn Davies - cynhyrchydd rhaglen Tommo ar Radio Cymru.
Caniatáu cynnwys Facebook?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf fore Mercher, dywedodd y cyflwynydd a'r cynhyrchydd Richard Rees ei fod wedi cael y "sioc ryfeddaf" pan glywodd y newyddion trist gan fod y cyfan wedi digwydd mor sydyn.
"Bydd colled anferth ar ei ôl," meddai, "roedd e fel corwynt. Pan o'dd e'n dod mewn i'r swyddfa roedd sŵn ymhobman.
"Roedd Tommo yn trin pawb yr un fath - pobl oedd ei bethe fe ac Aberteifi oedd canol y byd.
"Pan gafodd e gyflwyno ar Radio Cymru roedd e'n teimlo fel petai e wedi ennill cap dros Gymru. Roedd e'n Gymro i'r carn.
"Ond yn fwy na dim - roedd e'n ddyn teulu."
Mae'n gadael gwraig, Donna, a'u mab Cian.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2016
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2018