Bethan Sayed AS ddim am sefyll yn Etholiad 2021

  • Cyhoeddwyd
Keyframe #9

Mae Bethan Sayed, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru wedi cyhoeddi na fydd yn sefyll i gael ei hail-ethol yn etholiadau'r Senedd yn 2021.

Mewn datganiad dywedodd ei bod yn camu'n ôl er mwyn treulio mwy o amser gyda'i mab ifanc.

Dywedodd y byddai'n parhau i fod yn ymgyrchydd gweithgar ym maes gwleidyddiaeth.

Cafodd ei hethol yn gyntaf yn 2007 pan roedd hi'n 25 oed.

Ymysg y meysydd yr oedd ganddi ddiddordeb ynddyn nhw fel gwleidydd oedd anhwylderau bwyta a iechyd meddwl, addysg ariannol i fyfyrwyr, tryloywder y llywodraeth a datganoli darlledu.

Dywedodd ei bod wedi "cael amser i feddwl" yn ystod y cyfnod clo ac roedd wedi dod i'r casgliad mai "nawr oedd yr amser i mi gymryd hoe o wleidyddiaeth er mwyn treulio amser gyda fy mab yn ystod y blynyddoedd cynnar gwerthfawr hyn".

'Trefn wahanol'

Ychwanegodd y gallai ei phenderfyniad i roi'r gorau iddi fod yn wahanol "petai na drefn wahanol yma yng Nghymru," gan gyfeirio at ddiffyg cyfleoedd i rannu swydd, a'r angen am gynyddu maint aelodaeth y Senedd - fyddai wedi galluogi "rhannu'r pwysau gwaith cynyddol yn well".

Ychwanegodd hefyd mai camgymeriad fyddai iddi beidio trafod natur negyddol gwleidyddiaeth heddiw wrth gyhoeddi'r newyddion ei bod am gamu'n ôl.

"Tra bod digon i fod yn flin a phryderus amdano mewn gwleidyddiaeth, mae ffyrdd o greu newid a siarad gyda'n gilydd heb ddefnyddio tôn ymosodol a chybyddlyd y mae gormod yn ei gymryd fel y cam cyntaf - yn enwedig arlein.

"Gyda gwleidyddiaeth a thrafodaeth gan fwyaf yn ymddangos mewn gofodau arlein, rhaid i ni ddarganfod y tir canol lle gallwn, a newid tôn y ddadl."

'Arloesol'

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Adam Price AS, arweinydd Plaid Cymru: "Roedd Bethan yn wleidydd arloesol o'r dechrau.

"Mae hi wedi sefyll allan fel ymgyrchydd diflino yn ei rhanbarth a thu hwnt, gan ymladd ar ran gweithwyr dur Ford, Visteon a Tata. Gan wasanaethu fel cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu mae Bethan wedi arwain gwaith y Senedd yn ddiwyd wrth graffu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru ar y materion pwysig hyn.

"Yn fwy diweddar, hyrwyddodd Bethan y syniad arloesol o gyflwyno locwm i gwmpasu absenoldeb mamolaeth Aelodau'r Senedd."