Penbleth wrth i Dŵr Marcwis gael ei fandaleiddio
- Cyhoeddwyd
Mae 'na gwestiynau'n cael eu gofyn wedi i atyniad twristaidd amlwg ar Ynys Môn gael ei fandaleiddio dros y penwythnos.
Cafodd côn traffig ei adael ar gopa Tŵr Marcwis yn Llanfairpwll, a'r geiriau "origin of slate" wedi'u paentio ar ochr y gofeb.
Ond mae'r cyfeiriad wedi achosi penbleth yn lleol am nad oes unrhyw gysylltiad agos gyda'r diwydiant llechi.
Fe ddigwyddodd y difrod wythnosau wedi i'r elusen sydd berchen y safle wneud cais llwyddiannus am grant er mwyn ei warchod.
Mae'r Anglesey Column Trust eisoes wedi cymryd rhai camau i ddiogelu'r safle ond maen nhw'n awyddus i wneud mwy.
Yn atyniad poblogaidd iawn gydag ymwelwyr ar un adeg, mae Tŵr Marcwis yn Llanfairpwll yn rhan amlwg o'r tirlun lleol.
Ond mae'r safle wedi dirywio a chafodd ei gau i'r cyhoedd ers 2012 oherwydd pryderon am gyflwr y grisiau a'r rheiliau.
Y gred ydy bod rhywun wedi torri mewn drwy ddrws gwaelod yr adeilad yn ystod oriau man bore Sadwrn, gan ddringo'r 115 o risiau i gopa'r tŵr 27 metr o uchder, er bod y drws wedi'i hoelio i geisio atal tresmaswyr.
Cafodd y tŵr ei adeiladu yn 1817 i goffau Marcwis cynta' Môn, Henry William Paget, a'i ran ym Mrwydr Waterloo.
Felly mae'r fandaliaeth diweddar wedi achosi penbleth yn lleol - gan nad oes unrhyw gysylltiad amlwg rhwng y safle a'r diwydiant llechi.
Meddai'r Cynghorydd Alun Mummery, sy'n cynrychioli ward Aethwy ar Gyngor Môn: "Dwi ddim yn gweld unrhyw bwrpas na sylwedd i be' sy' 'di cael ei 'sgwennu ar y tŵr.
"Dwi hefyd yn poeni am iechyd a diogelwch. Mae'r lle yn fregus iawn yn y top, mae'n dda nad oes 'na neb wedi brifo yn gwneud camweithred mor hurt.
"Mae cyflwr y steps i fyny yn bryder, ond hefyd y railings o gwmpas y top.
"Pan o'n i fyny ddiwetha', o'dd 'na rwd yn dangos ar rheiny. Dwi ddim yn gwybod pa mor saff oedd hi iddyn nhw fod yn gwneud y weithred.
"Dydy'r peth ddim yn gwneud dim synnwyr o ran be' sy' wedi cael ei 'sgwennu.
"Does 'na ddim cysylltiad efo'r diwydiant llechi mewn ffordd - yr unig gysylltiad sydd 'na yn Llanfair ydy bod llechi plant ysgol yn cael eu gwneud flynyddoedd yn ôl ym Mhwll Fanogl yn fama."
Yn 2018 fe sicrhaodd yr Anglesey Column Trust nawdd ariannol i helpu i dalu am adfer y tŵr ac maen nhw newydd wneud cais llwyddiannus am fwy o arian i ddiogelu'r safle.
Nhw fydd rŵan yn gorfod talu am lanhau'r difrod diweddar.
"Mae'n siŵr bod y pandemig wedi dal y gwaith yn ôl, a mae'n siŵr nad oedan nhw'n disgwyl y basa rhywun yn medru gwneud difrod i'r lle achos o'dd 'na ddrws reit solat yno cynt a dyna'r unig ffordd i fynd fyny," meddai'r cynghorydd Mummery.
"Mae'n safle hynod bwysig i'r ardal ac mae'n newyddion da fod yr ymddiriedolaeth yn dal i fynd ar ôl yr arian yma.
"Mae'n atyniad 'da ni wedi'i golli i'r pentre' mewn ffordd. Faint o bobl sy'n troi fyny ac yn gweld y lle wedi cau, yn enwedig pan 'da ni'n son am ddenu twristiaeth i mewn.
"Mi fasa'r twristiaid fasa'n dod yma yn cael y golygfeydd anhygoel o'r Fenai ac Eryri ond 'da ni ddim yn gallu rhoi hynny iddyn nhw ar y funud.
"Cynta'n byd fydd o'n cael ei agor ar ei newydd wedd, gorau'n byd fydd hynny."
Prosiect adnewyddu
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran yr Anglesey Column Trust: "Mae'r hyn sydd wedi digwydd i Dŵr Marcwis dros y penwythnos yn peri tristwch mawr i ni.
"Cafodd y Tŵr a'r cerflun efydd eu codi gydag arian a gasglwyd gan y gymuned leol ar Ynys Môn, a oedd yn awyddus i nodi'i balchder yng nghyfraniad a dewrder Marcwis Cyntaf Môn ym Mrwydr Waterloo yn 1815.
"Cafodd ein prosiect adnewyddu ei lansio yn 2017 ac mae wedi derbyn cefnogaeth anhygoel, gyda'n gwaith ymgynghori'n dychwelyd tystiolaeth bod Tŵr Marcwis a'r hanes o'i amgylch yn agos iawn at galonnau'r mwyafrif helaeth o bobl leol.
"Ein gobaith yn awr yw rhoi'r digwyddiad trist hwn y tu ôl i ni a chanolbwyntio ar godi'r cyllid angenrheidiol i ailagor y Tŵr yn atyniad diogel a difyr ar Ynys Môn am genedlaethau i ddod."
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru wrth BBC Cymru nad oedden nhw wedi derbyn unrhyw adroddiadau o ddifrod i'r safle ac nad oedden nhw felly yn ymchwilio i'r mater.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd24 Medi 2019
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2018