'Cam pwysig iawn' wrth ailagor Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Mynedfa newydd Neuadd PantycelynFfynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Neuadd Pantycelyn atriwm newydd ar ochr ddwyreiniol yr adeilad

Bydd prif neuadd breswyl Cymraeg Prifysgol Aberystwyth, Neuadd Pantycelyn, yn ailagor fore Gwener, pum mlynedd ar ôl cau ei drysau.

Fel rhan o gynllun gwerth £16.5m mae pob un o'r 198 ystafell wely wedi cael eu hail-adeiladu, ac yn cynnwys ystafell ymolchi integredig.

Yn ogystal mae nifer o'r mannau cyfarfod, fel y Lolfa Fach, y Lolfa Fawr, yr Ystafell Gyffredin Hŷn a'r Ystafell Gyffredin Iau wedi cael eu hadnewyddu hefyd.

Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro Elizabeth Treasure, fod y datblygiad "yn benllanw taith bwysig i ni".

Bydd yr adeilad yn cael ei hailagor yn swyddogol gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AS, mewn seremoni fore Gwener.

Y neuadd ar ei newydd wedd

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Mae cegin fach i bob wyth preswylydd ar gyfartaledd

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth

Pam adnewyddu Neuadd Pantycelyn?

Yn ôl yn 2013 fe gyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth y byddan nhw'n cau'r neuadd yn barhaol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd honno, ac yna sefydlu canolfan newydd i'r iaith Gymraeg ar safle newydd Fferm Penglais.

Roedd Neuadd Pantycelyn, sydd yn adeilad carreg ac wedi ei gofrestru, wedi gweld dyddiau gwell ac roedd y gost o redeg y lle yn cynyddu'n flynyddol.

Ni chafodd y newyddion groeso gan fyfyrwyr ar y pryd, na chyn-fyfyrwyr chwaith, ac fe gafwyd sawl protest a chyfnod o ymprydio gan rai myfyrwyr hefyd.

Dadl Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) ar y pryd oedd na fyddai'r fflatiau yn darparu'r math o awyrgylch oedd ei angen er mwyn cynnal cymuned Gymraeg ffyniannus.

Disgrifiad o’r llun,

Bu nifer o fyfyrwyr Aberystwyth yn protestio yn erbyn cau Neuadd Pantycelyn

Yn 2014 fe gytunodd y brifysgol y byddai cynllun busnes yn cael ei ddatblygu fydd yn golygu parhad Neuadd Pantycelyn fel Canolfan Gymraeg a Diwylliant, ac fe gefnogodd Cyngor y Brifysgol y cynllun hwnnw ym mis Mehefin 2015.

Dair blynedd yn ddiweddarach, ym mis Mehefin 2017, fe roddodd Cyngor y Brifysgol eu sêl bendith i becyn cyllid er mwyn ailagor Pantycelyn yn neuadd breswyl llawn i fyfyrwyr Cymraeg erbyn mis Medi 2019.

Dechreuodd y gwaith o adnewyddu yn fuan wedi'r cyhoeddiad hwnnw, ac er peth oedi, mae'r neuadd bellach yn barod.

'Llunio'r bennod nesaf'

Ers mis Medi 2013 mae myfyrwyr a oedd yn dymuno cael llety cyfrwng Cymraeg wedi bod yn aros ar Fferm Penglais ac yn Neuadd Penbryn.

Wrth i fyfyrwyr ddychwelyd i Neuadd Pantycelyn fore Gwener dywedodd Yr Athro Elizabeth Treasure: "Mae hwn yn ddiwrnod mawr i ni yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn benllanw taith bwysig i ni.

"Wrth ailagor Pantycelyn rydym yn datgan yn glir ein hymroddiad at y Gymraeg a diwylliant Cymru, ac at ddarparu cartref cyfoes a chyffrous i do newydd o fyfyrwyr sydd wedi dewis ymuno gyda ni yma yn Aberystwyth, a phrofi rhagoriaeth academaidd ein prifysgol, mewn cymuned lle mae'r Gymraeg yn iaith naturiol dydd i ddydd."

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: "Fel rhan o'n nod i gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, rydym am ddatblygu addysg ôl-orfodol sy'n cefnogi pobl i ddatblygu sgiliau yn y Gymraeg i'w defnyddio'n gymdeithasol a thrwy gydol eu gyrfaoedd.

"Mae Pantycelyn, a chymuned ehangach Aberystwyth, yn bwysig wrth feithrin y defnydd o'r Gymraeg ym mhob sefyllfa a chan bawb sy'n medru rhywfaint o'r iaith."

Bydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn dychwelyd i'r neuadd hefyd, ac fe fydd ganddyn nhw swyddfa newydd sbon yno.

"Mae ailagor Pantycelyn yn gam pwysig iawn i bawb yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae'r cyfleusterau yn y neuadd newydd yn wych", meddai Moc Lewis, Llywydd UMCA.

"Rydym yn ymwybodol iawn o gyfraniad anhygoel y neuadd dros y degawdau; ein tro ni yw hi nawr i lunio'r bennod nesaf, ac mae heddiw yn ddechrau cyffrous i'r bennod honno yn hanes Pantycelyn."