Meddygfa gyntaf Caergybi 'daer angen achubiaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae meddygfa bwrpasol gyntaf Caergybi wedi ei chynnwys ar restr flynyddol y Gymdeithas Fictoraidd o'r 10 adeilad trwy'r DU sydd fwyaf mewn peryg.
Cafodd Plas Alltran, adeilad rhestredig Gradd II ger porthladd y dref, ei godi tua 1890 - ond mae'n wag ac yn dirywio ers y 1970au cynnar.
Dywed y Gymdeithas bod dim cynlluniau hysbys gan y perchennog, sy'n byw yn Ne Corea, a bod "daer angen arian i roi dyfodol cynaliadwy i'r adeilad anarferol yma".
Ychwanegodd Llywydd y Gymdeithas, Griff Rhys Jones: "Mae achos trist yr adeilad yma'n codi'r cwestiwn: pam prynu adeilad ben arall y byd ac yna gwneud dim byd gydag e?
"Mae'r adeilad yma o bwys hanesyddol mawr i Gaergybi ac mae taer angen nawr i'r perchennog wneud y peth cywir a'i roi ar y farchnad.
"Mae hanes cyfoethog Plas Alltran yn dangos ei fod yn adeilad hyblyg.
"Rydym yn gobeithio y bydd ei gynnwys ar ein rhestr yn help i sicrhau cyllid i achub yr adeilad gwych yma."
Y gred yw bod dyluniad y pensaer Arthur Baker wedi ei ddylanwadu gan dŷ tref Elisabethaidd Plas Mawr yng Nghonwy.
Wedi'r cyfnod cychwynnol fel meddygfa, cafodd Plas Alltran ei defnyddio o'r 1900au cynnar ymlaen fel cartref ar osod, dosbarth sefydliad hyfforddi genethod, a llety ar gyfer nyrsys ardal.
Dywed y Gymdeithas fod yr awdurdod lleol "yn cael trafferth ariannu hyd yn oed gwaith brys angenrheidiol i atal rhagor o ddirywiad".
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn: "Rydym ar hyn o bryd mewn cysylltiad gyda'r perchennog ac yn ceisio datblygu cynllun a fyddai sicrhau fod yr eiddo gwag hir dymor yma'n dod yn ôl i ddefnydd ac felly yn sicrhau ei ddyfodol.
"Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r ymdrechion yma.
"Mae swyddogion y cyngor eisoes hefyd wedi ymateb i gwynion am gyflwr yr eiddo yma ac wedi gwneud gwaith i sicrhau ei fod yn ddiogel."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2020
- Cyhoeddwyd26 Mai 2020
- Cyhoeddwyd13 Medi 2017