'Gall plismona'r cyfnod clo fod yn fwy heriol'
- Cyhoeddwyd
Ar ddiwrnod llawn cyntaf y cyfnod clo byr dywed Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, y gallai'r gwaith o blismona'r cyfyngiadau fod yn fwy heriol y tro hwn.
Dywed Cymdeithas y Gyfraith, sy'n cynrychioli cyfreithwyr, ei bod yn bwysig bod pobl yn gwybod am y pwerau ychwanegol sydd gan swyddogion gorfodaeth yn ystod y cyfnod clo.
Maent yn nodi bod gan blismyn y pŵer i fynd mewn i dai ac eiddo arall petai ganddynt reswm i gredu bod rhywun yn mynd yn groes neu ar fin mynd yn groes i'r cyfyngiadau clo.
Ond er bod gan yr heddlu bwerau ychwanegol, mae Mr Llywelyn yn pwysleisio mai pwerau dros dro ydyn nhw ac mai cyfrifoldeb unigolion yw cadw at y rheolau.
Fe ddaeth y cyfnod clo byr i rym yng Nghymru am 18:00 nos Wener.
"Rwy'n diolch i'r cyhoedd, meddai Dafydd Llywelyn, "mae'r cyhoedd yn gwrando ar y canllawiau.
'Pobl wedi blino ar fwy o gyfyngiadau'
"Roedd nos Wener," meddai, "yn noson dawel yn enwedig ar ôl 9 o'r gloch. Yr hyn sy'n rhaid i ni gofio yw bod angen i ni gydweithio gyda'n gilydd er mwyn atal yr haint rhag lledu.
"Wrth gwrs mae'n mynd i fod yn heriol. Mae pobl, yn gyffredinol, wedi blino ar gyfyngiadau ac hefyd mae drwgweithredwyr yn dal i fodoli ond mae'r heddlu yna i gydweithio gyda'r cyhoedd.
"Os oes rhywun yn clywed am barti neu dafarn ar agor ry'n yn gofyn i chi gysylltu," mae'n ychwanegu.
Os oes rhywun yn torri rheolau, dywed bod y plismyn yn y lle cyntaf yn addysgu ac yna yn gosod tocynnau pan fydd angen.
"Hyd yma mae 50-60% o'r tocynnau cosb sydd wedi cael eu rhannu yn Nyfed-Powys wedi cael eu rhoi i bobl sy'n byw tu allan i'r ardal - pobl sydd wedi teithio yma," meddai Dafydd Llywelyn.
"Roedd y galwadau neithiwr i blismyn Dyfed-Powys bum gwaith yn is na'r nos Wener arferol sy'n dangos fod pobl yn sicr yn gwrando."
Beth mae'r cyfnod clo byr yn ei olygu?
Fel yn achos y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf ym mis Mawrth, mae'n rhaid i bobl aros adref er mwyn mynd i'r afael â'r cynnydd diweddar mewn achosion coronafeirws.
Bydd yn rhaid cael rheswm dilys i adael eich cartref, sef:
prynu bwyd;
casglu meddyginiaethau;
darparu gofal;
ymarfer corff;
mynd i weithio, os nad yw'n bosib gweithio o adref. Mae gweithwyr allweddol yn eithriad i hyn.
Bydd yn rhaid parhau i wisgo mygydau mewn mannau dan do cyhoeddus, sy'n parhau ar agor.
Bydd archfarchnadoedd, fferyllfeydd, banciau a swyddfeydd post yn parhau ar agor, ond bydd pob siop nad sy'n gwerthu nwyddau hanfodol yn cau o 18:00 ddydd Gwener.
Fel yn achos y cyfnod clo gwreiddiol, mae busnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden hefyd yn gorfod cau, ond bydd modd i fwytai gynnig gwasanaeth prydau parod.
CYFNOD CLO BYR: Beth mae'n ei olygu i mi?
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2020