Dirwyn camau cyfreithiol yn achos RIFW i ben

  • Cyhoeddwyd
tir ger Llys-faen, Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd un o'r safleoedd wedi'i leoli ar dir ger Llys-faen yng Nghaerdydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fod camau cyfreithiol yn erbyn dau gwmni wnaeth roi cyngor i gwango mewn achos o werthu tir wedi eu dirwyn i ben.

Cafodd 15 safle oedd dan berchnogaeth gyhoeddus eu gwerthu gan Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio (RIFW) yn 2012 mewn un cytundeb gwerth £21m i South Wales Land Developments.

Roedd cwmnïau Lambert Smith Hampton ac Amber Fund Management yn cael eu herlyn am dorri cytundeb ac am esgeulustod proffesiynol wrth weithredu yn y gwerthiant.

Mewn datganiad ddydd Mawrth, cyhoeddodd Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol fod setliad yn yr achos wedi digwydd "ar sail fasnachol a heb unrhyw addefiad o atebolrwydd gan unrhyw barti.

"Roedd y Gronfa wedi dwyn achos yn erbyn Amber Fund Management a Lambert Smith Hampton mewn perthynas â gwerthu portffolio o 15 eiddo yn 2012. Rwy'n falch i allu cadarnhau bod yr anghydfod hwnnw wedi'i ddatrys erbyn hyn, heb fod angen ysgwyddo'r costau sylweddol sy'n gysylltiedig â threial.

"Mae'r telerau manwl wedi'u cynnwys mewn cytundeb setlo cyfrinachol rhwng y partïon."

Ychwanegodd y gweinidog y "bydd y £40.7 miliwn sydd hyd yma wedi'i glymu yn y Gronfa bellach ar gael i gefnogi buddsoddiadau yn y dyfodol ledled Cymru."

Archwilwyr

Fe wnaeth Swyddfa Archwilio Cymru ac adroddiad gan bwyllgor cyfrifon cyhoeddus y Cynulliad ganfod y gallai'r pwrs cyhoeddus fod wedi gwneud miliynau yn fwy o'r gwerthiant pe bai'r 15 safle wedi cael eu gwerthu mewn ffordd wahanol.

Yn ddiweddarach fe wnaeth y prif weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, ymddiheuro wrth ACau am y gwerthiant, wedi i archwilwyr ddweud y dylai fod wedi cynhyrchu o leiaf £15m yn fwy i'r trethdalwr nag y gwnaeth.

Roedd y safleoedd yn cynnwys tir ym Mharc Imperial, Casnewydd; Llys-faen yng Nghaerdydd; Parc Busnes Llantrisant; a fferm Upper House yn Y Rhws.