Beth sy'n gwneud arweinydd da? 'Nabod Cymry sydd wedi llwyddo

  • Cyhoeddwyd
Dr Sabrina Cohen-Hatton, Leanne Wood a Chris ColemanFfynhonnell y llun, Astud

Donald Trump, Nigel Farage, Boris Johnson - mae'r blynyddoedd diwethaf wedi gweld llu o arweinyddion lliwgar a digon o waith trafod ynglŷn â beth sy'n gwneud arweinydd da.

Nawr, mewn rhaglen radio newydd mae tri o Gymry sydd wedi cyrraedd y brig mewn meysydd gwahanol iawn yn trafod eu bywydau a'r hyn sy'n eu gyrru nhw.

Ac er bod Chris Coleman, Leanne Wood a Dr Sabrina Cohen-Hatton wedi cael gyrfaoedd gwahanol iawn i'w gilydd, mae ganddyn nhw rai pethau yn gyffredin yn ôl y newyddiadurwr Bethan Rhys Roberts, fu'n eu holi ar gyfer Tough at the Top - What makes a leader?

Bethan Rhys Roberts
"Does yr un ohonyn nhw wedi ei gael o ar blât."
Bethan Rhys Roberts
Cyflwynydd 'Tough at the Top'

"Maen nhw i gyd wedi cael cyfnodau caled, rhai wedi cael heriau ofnadwy o anodd yn bersonol ac er gwaetha hynny wedi codi i'r top," meddai.

"Does yr un ohonyn nhw wedi ei gael o ar blât a tydi nhw heb gael eu magu i feddwl mai arweinwyr ddylai nhw fod.

"Os ydych chi'n cymharu eu cefndir nhw efo arweinydd fel Boris Johnson, er enghraifft, a'r math o fagwraeth gafodd o, mynd i Eton ac eisiau bod yn frenin y byd pan oedd o'n tyfu fyny, wel does 'na'm syndod ei fod o rŵan yn Brif Weinidog, ond mae cefndir rhain yn wahanol iawn."

Chris Coleman

Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Chris Coleman yn dathlu buddugoliaeth enwog Cymru yn erbyn Gwlad Belg yn Ewro 2016

Cyn-reolwr tîm bêl-droed Cymru sy'n cael ei holi yn rhaglen gynta'r gyfres, sy'n cael ei darlledu ar Radio Wales nos Fawrth 17 Tachwedd. Ei gariad at y gêm waeth ei yrru fo o i'r brig yn hytrach nag unrhyw awch o'r cychwyn i fod yn arweinydd.

Fe dderbyniodd y swydd yn 2012 o dan amgylchiadau anodd iawn yn dilyn marwolaeth y rheolwr ar y pryd - a'i ffrind - Gary Speed.

Er gwaetha' dechrau gwael iawn ar y cae, fe wnaeth elfennau o'i bersonoliaeth ei helpu i arwain y tîm o'r dyfnderoedd i haf bythgofiadwy 2016 yn Ffrainc, meddai Bethan Rhys Roberts: "Oes, mae ganddo fo'r ego ac mae'r carisma yno, llond trol, ac mae'n sicr yn berson ysbrydoledig, ond ei ymwybyddiaeth emosiynol fel arweinydd wnaeth fy nharo i.

"Wnaeth o golli ei pum gêm gyntaf ac roedd o'n cael amser caled iawn gan y wasg, ond be' wnaeth o'i weld, yn enwedig yn y gêm yn Serbia pan wnaethon nhw golli'n drwm, oedd bod ei gapten yn galaru a doedd o ddim yn gallu ymdopi efo'r cyfrifoldeb fel capten oherwydd hynny."

Mae'n dweud mai dyna pam wnaeth o'r penderfyniad i wneud Ashley Williams, oedd yn aelod hŷn o'r sgwad, yn gapten yn lle Aaron Ramsey, oedd ddim ond yn 21 ar y pryd.

Ffynhonnell y llun, Anadolu Agency
Disgrifiad o’r llun,

Y tîm sy'n bwysig - Cymru yn dathlu yn Ewro 2016

Dywed Bethan Rhys Roberts mai un rheswm dros lwyddiant Cymru yng nghystadleuaeth Ewro 2016 oedd pwyslais Chris Coleman ar fod yn rhan o dîm:

"Mae'n dweud bod pwysigrwydd tîm yn rhywbeth gafodd o gan ei dad, ac mae'n dod i'r amlwg pan roedd o'n chwaraewr efo Fulham ac wedi cael anaf drwg ar ôl damwain car.

"Roedd o yn dal i fynd i'r holl gemau er nad oedd o'n gallu chwarae, a hynny gan ei fod yn aelod o'r tîm felly roedd o'n mynd ac roedd o yno i gefnogi pawb arall. Roedd y syniad o dîm yn bwysig efo Cymru hefyd - felly roedd yn bwysig bod pawb yn gorfod dysgu'r anthem er enghraifft."

Dr Sabrina Cohen-Hatton

Tra bod Chris Coleman yn enwog yng Nghymru erbyn hyn, mae enw Dr Sabrina Cohen-Hatton yn dipyn llai cyfarwydd - ond mae ei thaith i fod yn arweinydd yn fwy dramatig nag unrhyw gêm Cymru yn yr Ewros.

Ffynhonnell y llun, Sabrina Cohen-Hatton

Yn ddigartref yn dilyn marwolaeth ei thad, roedd hi'n gwerthu'r Big Issue ar strydoedd Casnewydd wrth astudio ar gyfer ei harholiadau TGAU. Doedd dim help ar gael ac ar un pwynt fe wnaeth athro yn ei hysgol gerdded heibio iddi tra'r roedd hi'n gwerthu'r cylchgrawn.

Penderfynodd geisio dianc o'i sefyllfa a chael gwaith fyddai'n golygu achub pobl. Casglodd ddigon o arian drwy werthu'r Big Issue i rentu fflat a cheisiodd am 31 swydd fel diffoddwr tân cyn llwyddo.

Ffynhonnell y llun, Sabrina Cohen-Hatton
Disgrifiad o’r llun,

Sabrina ydi un o un o brif ddiffoddwyr tân benywaidd y Deyrnas Unedig

Mae hi bellach yn brif swyddog gyda'r gwasanaeth tân yn Ne Lloegr ac mae ei doethuriaeth ar sut mae staff gwasanaethau brys yn gwneud penderfyniadau tyngedfennol mewn sefyllfaoedd o argyfwng yn cael ei ddefnyddio ledled y byd.

"Mae ei stori hi yn hynod ddifyr ac mae ei harweinyddiaeth hi i gyd i wneud efo achub pobl - achub bywydau ydi'r peth sy'n ei gyrru hi fel arweinydd," meddai Bethan Rhys Roberts.

"Mae ganddi'r empathi anhygoel fel arweinydd - allwch chi ddim ei ddysgu na'i brynu, ond mae o ganddi hi oherwydd ei chefndir."

Leanne Wood

Mae'r drydedd raglen hefyd yn holi rhywun sydd wedi mynd yn groes i'r disgwyliadau ohonyn nhw pan yn ieuengach.

Fel merch o'r Cymoedd oedd ddim yn siarad Cymraeg yn rhugl, roedd hi'n annhebygol y byddai Leanne Wood yn tyfu fyny i fod yn arweinydd Plaid Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Leanne Wood oedd y ferch gyntaf i arwain Plaid Cymru

Ond mae'r elfen o wrthryfela wnaeth wneud iddi ymuno efo Plaid Cymru yn hytrach na'r Blaid Lafur yn rhan annatod ohoni, meddai Bethan Rhys Roberts:

"Beth sy'n ei gyrru hi ydi'r angerdd i ymgyrchu, mae hi'n ymgyrchydd greddfol yn hytrach na'n arweinydd wrth reddf.

"Nid arwain oedd y nod ond ymgyrchu, ac mae'r angerdd dal yno i newid pethau boed hi ar y meinciau cefn neu yn arwain; mae ganddi dân yn y bol."

Yn ôl y newyddiadurwr, mae un peth ddaeth i'r amlwg yng nghyfweliad Leanne Wood sy'n gyffredin i'r tri arweinydd.

"Doedd y gymuned ddim eisiau i Leanne Wood newid. Roedd hi'n teithio nôl o ddadl fawr yn Llundain ac yn mynd nôl i'r un ardal lle cafodd ei magu, i'r un stryd lle gafodd ei magu felly doedd hi methu teimlo'n bwysig - doedd hi ddim yn cael teimlo'n bwysig. Mae yna anwyldeb yno a wnaeth y peth ddim mynd i'w phen hi.

"Mae gan y tri empathi sydd wedi eu gwneud nhw i gyd yn arweinwyr gwell. Tydi nhw heb adael i'r gofod dyfu rhwng y rhai sy'n arwain ar y top a phawb arall."

  • Tough at the Top - What makes a leader?, 17 Tachwedd ar BBC Radio Wales am 18:30, ac yna ar BBC Sounds.

Hefyd o ddiddordeb: