Cyhoeddi carfan Merched Cymru i herio Belarws

  • Cyhoeddwyd
Jayne LudlowFfynhonnell y llun, Kunjan Malde
Disgrifiad o’r llun,

Gallai buddugoliaeth yn erbyn Belarws sicrhau lle yn y gemau ail-gyfle i garfan Jayne Ludlow

Mae rheolwr tîm Merched Cymru, Jayne Ludlow wedi cyhoeddi'r garfan i wynebu Belarws yng ngêm olaf y rownd ragbrofol Euro 2022 ar ddydd Mawrth, 1 Rhagfyr.

Mae Ludlow wedi cynnwys Esther Morgan a Caitlin Morris yn y garfan am y tro gyntaf.

Mae'r ddwy wedi cynrychioli timau dan oedran Cymru ac roedd Morgan yn gapten ar y tîm dan-19 yn ystod pencampwriaeth Euro Merched Dan-19 y llynedd.

Bydd gan Gymru llawer o brofiad yn y garfan, yn cynnwys y capten Sophie Ingle, Jess Fishlock a Natasha Harding - a sgoriodd ddwy gôl yn y fuddugoliaeth 4-0 yn erbyn Ynysoedd y Ffaro fis diwethaf.

Ni fydd Anna Filbey na Megan Wynne ar gael oherwydd anafiadau.

Sicrhau lle yn y gemau ail-gyfle?

Gallai buddugoliaeth yn erbyn Belarws sicrhau lle i Gymru yn y gemau ail-gyfle am y tro cyntaf erioed, ond dim ond os fydd Gogledd Iwerddon yn methu â churo Belarws yn ei gêm nhw ar 27 Tachwedd.

Byddai hynny'n galluogi Cymru i orffen y grŵp yn yr ail safle.

Bydd y naw tîm sydd yn ennill eu grwpiau a'r tri thîm gorau yn yr ail safle (heb ystyried gemau yn erbyn y tîm yn y chweched safle) yn cyrraedd rowndiau terfynol Euro Merched 2022, gyda'r chwe thîm arall yn yr ail safle yn cystadlu yn y gemau ail-gyfle.

Carfan Cymru yn llawn:

Laura O'SULLIVAN (Caerdydd), Claire SKINNER (Caerdydd), Olivia CLARK (Coventry United), Jess FISHLOCK (Reading- ar fenthyg o OL Reign), Sophie INGLE (Chelsea), Hayley LADD (Manchester United), Gemma EVANS (Bristol City), Rhiannon ROBERTS (Lerpwl), Angharad JAMES (Reading), Nadia LAWRENCE (Caerdydd), Rachel ROWE (Reading), Natasha HARDING (Reading), Elise HUGHES (Blackburn Rovers - ar fenthyg o Everton), Helen WARD (Watford), Kayleigh GREEN (Brighton & Hove Albion), Josie GREEN (Tottenham Hotspur), Lily WOODHAM (Reading), Maria FRANCIS-JONES (Caerdydd), Ffion MORGAN (Crystal Palace), Kylie NOLAN (Caerdydd), Carrie JONES (Manchester United), Georgia WALTERS (Blackburn Rovers), Chloe WILLIAMS (Manchester United), Esther MORGAN (Tottenham Hotspur), Caitlin MORRIS (Southampton), Charlie ESTCOURT (London Bees).