Tai haf: Galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu
- Cyhoeddwyd
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cymeradwyo cynnig sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r sefyllfa dai haf yn Eryri.
Yn gynharach yn y mis fe alwodd y Cynghorydd Elwyn Edwards ar Lywodraeth Cymru i newid rheolau cynllunio er mwyn herio'r sefyllfa.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) bu cynnydd o 3.6% yng ngwerth y farchnad dai yng Nghymru rhwng mis Gorffennaf 2019 a Mehefin 20201, y cynnydd mwyaf o wledydd y DU.
O'r holl dai a gafodd eu gwerthu yng Ngwynedd y llynedd aeth 38% ohonynt yn dai haf.
Mae Covid-19 wedi golygu bod mwy o bobl yn gweithio o gartref ac o ganlyniad wedi cynyddu gwerth tai ymhellach ac mae ardaloedd gwledig Cymreig wedi gweld y cynnydd mwyaf ym Mhrydain.
Pryder yr Awdurdod yw fod busnesau sy'n defnyddio tai fel llety gwyliau hefyd yn lleihau'r stoc dai fyddai ar gael i bobl leol.
Mewn datganiad dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: "Rydym am i'r Llywodraeth ddeddfu i gwtogi ar y niferoedd o dai sydd yn cael eu prynu fel tai haf drwy weithredu'r angen am hawl cynllunio cyn y medr troi annedd yn ail gartref neu yn hafdy."
Dywedodd y Cynghorydd Elwyn Edwards yng nghyfarfod yr Awdurdod: "Mae hyn yn hen broblem sydd yma ers degawdau ac wedi cael ei hanwybyddu gan lywodraethau erioed.
"Yn wir mae yna lawer iawn o'r tai newydd sy'n cael eu codi yn mynd yn ail gartrefi ac mae'r polisïau presennol wedi creu diffeithwch cymdeithasol yn ein bröydd gydag ysgolion, capeli a siopau wedi cau a'r iaith yn lleihau o gyfrifiad i gyfrifiad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2020