Rygbi: 2020 ddim yn flwyddyn gofiadwy i Gymru
- Cyhoeddwyd
Roedd olynu Warren Gatland fel prif hyfforddwr Cymru wastad yn mynd i fod yn dalcen caled.
Ond fyddai Wayne Pivac erioed wedi gallu darogan blwyddyn mor anodd oedd o'i flaen.
Dechreuodd pethau yn addawol ar ddechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ym mis Chwefror - buddugoliaeth swmpus o 42-0 dros Yr Eidal a Josh Adams yn croesi am hat-tric o geisiau.
Colli oedd eu hanes yn erbyn Iwerddon yn Nulyn cyn i Ffrainc eu trechu mewn gêm agos yn Stadiwm y Principality.
Roedd gobeithion Cymru yn deilchion wedi iddynt ddioddef eu trydedd colled o'r bron yn Twickenham yn erbyn Lloegr.
Roedd awgrym o'r trafferthion i ddod pan gafodd y gêm rhwng Iwerddon a'r Eidal ei gohirio oherwydd pryderon am y coronafeirws.
Erbyn penwythnos olaf y gystadleuaeth dim ond y gêm rhwng Cymru a'r Alban oedd yn weddill wedi i'r gemau rhwng Yr Eidal a Lloegr a Ffrainc ac Iwerddon gael eu gohirio.
Ond lai na 24 awr cyn y gic gyntaf fe gyhoeddwyd na fyddai'r gêm yn mynd yn ei blaen ac roedd tynged y gystadleuaeth yn y fantol.
Gyda'r pandemig yn effeithio ar bob agwedd o'n bywydau fe ohiriwyd taith yr haf Cymru i Japan a Seland Newydd.
Tanlinellwyd difrifoldeb y sefyllfa wrth i Stadiwm Principality gael ei weddnewid i Ysbyty Maes - Ysbyty Calon y Ddraig.
Rybuddiodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru y byddai'r undeb yn gwneud colledion o £50m os na fyddai modd cynnal gemau'r hydref a Chwe Gwlad 2021.
Doedd dim cefnogwyr yn bresennol wrth i rygbi rhyngwladol ddychwelyd yn yr hydref, gyda Chymru yn colli yn erbyn Ffrainc wrth iddynt baratoi ar gyfer eu gem olaf yn y Chwe Gwlad.
Roedd y gêm yn erbyn Yr Alban ym Mharc y Scarlets yn garreg filltir i gapten Cymru Alun Wyn Jones, ac yntau yn ennill ei 149fed cap rhyngwladol - mwy nag unrhyw chwaraewr arall.
Ond ar brynhawn hynod siomedig i Jones a'r crysau cochion fe sicrhaodd Yr Alban eu buddugoliaeth gyntaf yng Nghymru ers 2002.
Hon oedd y tro cyntaf i Gymru golli bedair gwaith yn y gystadleuaeth ers 2007 ac roedd gallu'r hyfforddwr Pivac o dan y chwyddwydr.
Yn sgil y golled yn erbyn Yr Alban daeth y newyddion bod hyfforddwr amddiffyn rygbi Cymru, Byron Hayward, yn gadael ei rôl ar unwaith.
Doedd pethau fawr gwell yng ngêm agoriadol Cwpan Cenhedloedd yr Hydref yn erbyn Iwerddon wrth i Gymru golli o 32-9.
Trechwyd Georgia yn y gêm ganlynol i ddod a rhediad gwael i ben ond colli oedd yr hanes yn erbyn Lloegr cyn i'r flwyddyn ddod i ben fel y dechreuodd - buddugoliaeth yn erbyn Yr Eidal.
Cafodd 49 o chwaraewyr eu defnyddio yn ystod 2020, gydag 11 chwaraewr yn derbyn capiau cyntaf gan gynnwys Ioan Lloyd, Callum Sheedy, James Botham, Johnny Williams a Louis Rees-Zammit.
Cwpan y Byd 2023 yw'r nod, medd Pivac, ac fe fydd yn gobeithio am flwyddyn well yn 2021.
Felly pumed safle yn y Chwe Gwlad, pumed yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref a lawr i rif naw yn rhestr detholion y byd - fydd 2020 ddim yn flwyddyn gofiadwy am sawl rheswm.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2020
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2020