Petai waliau'n gallu siarad
- Cyhoeddwyd
A ninnau'n gaeth o fewn ein pedair wal yng nghanol cyfnod clo unwaith eto, mae'r archeolegydd Frank Olding o'r Fenni yn trafod y waliau mwyaf arwyddocaol yng Nghymru, a beth maen nhw'n dweud wrthom am ein hanes.
Er fod Frank Olding wedi ymddeol fel archeolegydd bellach, mae'n arwain prosiect archeoleg cymunedol, yn astudio waliau yn y cymoedd.
Mae'n dweud wrth i archeolegwyr dyrchu a darganfod wal gall ddweud cyfrolau am ein hanes, y bobl a arferai fyw yma a'u harferion.
Tre'r Ceiri ym Mhen Llŷn
Tre yw hi, gyda dros 80 o dai Celtaidd i bob pwrpas, wedi ei hamgylchynu gan y waliau anferth. Lle amddiffynnol oedd hi'n sylfaenol. Mae'r muriau mor dda eu cyflwr, mae'n le mor fendigedig ac mor arwyddocaol o ran ein treftadaeth Geltaidd ni. Os fyddaf yn meddwl am fryngaer yng Nghymru, Tre'r Ceiri sy'n dod i'r meddwl.
Gallwch gerdded trwy byrth yn y waliau anhygoel yma, lle cerddai ein hynafiaid Celtaidd ni, a chi'n dal yn gallu sefyll ar ben y waliau a'r amddiffynfeydd lle byddai milwyr y llwyth wedi sefyll 2,000 o flynyddoedd yn ôl.
Mae'n un o'r llefydd eiconig hynny, mewn lle mor braf yn edrych ar hyd Llŷn tuag Enlli.
Llys Rhosyr (Llys Llywelyn Fawr) ger Niwbwrch ar Ynys Môn
Mae Llys Rhosyr a'r stori am sut darganfuwyd y lle yn fendigedig.
Menter Treftadaeth Môn oedd wedi darganfod Llys Llywelyn Fawr, sef Llys Rhosyr yn y diwedd.
Roedd archeolegwyr wedi bod yn chwilio am y lle ers hydoedd a'r stori ydy eu bod nhw wedi gofyn i ffarmwr lleol 'beth yw enw'r cae 'cw? Ac yntau yn dweud 'r'yn ni'n galw hwnna yn Cae'r Llys' a dyna lle oedd olion Llys Llywelyn Fawr.
Dim ond seiliau waliau sydd yna bellach, ond seiliau lle troediodd Llywelyn Fawr.
Mae'n un o'r llefydd hynny yng Nghymru lle mae'r waliau mor gyfoeriog o hanes. Ychydig iawn o leoedd chi'n medru ymweld â nhw erbyn hyn sydd â'r cysylltiadau uniongyrchol hynny gyda Thywysogion Cymreig.
I fod mewn lle, lle buodd Llywelyn Fawr yn byw ac yn bod, mae'n rhywbeth arbennig iawn i fi.
Waliau'r Rhufeiniaid yng Nghaerwent
Mae muriau Caerwent yn rhyfeddol. Nhw yw'r muriau Rhufeinig gorau eu cyflwr yng ngorllewin Ewrop lle mae meini gwreiddiol yno. Chi'n gallu cerdded o'u cwmpas, mae'n dipyn o ryfeddod.
Mae arbeniwgyr wedi cloddio a mae 'na dai a theml i'w gweld. Mae'n un o'r lleoedd arbennig hynny sydd wedi goroesi yn dawel bach yng nghefn gwlad Cymru. Does dim lot o bobl yn ymweld â'r lle, ond os ydych chi am fynd i rywle sy'n cyfleu nerth ac uchelgais y Rhufeiniaid, Caerwent yw'r lle i ddod.
Castell Cas-gwent
Dyma'r castell cyntaf i gael ei adeiladu yng Nghymru yn 1067 - o fewn blwyddyn i frwydr Hastings yn 1066.
Roedd Iarll newydd Henffordd, William FitzOsbern wedi dod i Gymru a chodi'r castell Normanaidd cyntaf yma - o'r holl gestyll sy'n britho tirwedd Cymru - dechreuodd yng Nghasgwent.
Mae olion y castell gwreiddiol o 1067 yno i'w weld o hyd, mae wedi ei leoli ar ben clogwyn uwchlaw yr afon Gwy. Mae'n le dramatig iawn.
Abaty Ystrad Fflur
I Gymro, bedd Dafydd ap Gwilym yw'r atyniad i'r fan hon. I archeolegwyr mae'r holl hanes yn atynfa, mae tywysogion Dyfed wedi eu claddu yno.
Mae'n bosib taw yn yr Abaty hwn y sgwennwyd yn gyntaf fersiwn o'r Mabinogi, a falle hefyd Culhwch ac Olwen, Brut y Tywysogion a Croniclau'r Cymry.
Mae'r holl hanes hynny, yr holl ymdeimlad, i fi, wedi ei ymgorffori yn y wal enwog honno gyda phrif ddrws yr Abaty yn sefyll yno o hyd.
Mae'n lle arbennig iawn, mae rhyw dangnefedd ac unigedd braf i Ystrad Fflur.
Hefyd o ddiddordeb: