Disgwyl brechlyn i'r gwledydd tlotaf
- Cyhoeddwyd
Wrth i'r broses brechu Covid-19 ddechrau cyflymu yng Nghymru, mae un Cymro dramor yn gobeithio y bydd yr addewid i ddosbarthu'r brechlyn i wledydd llai cyfoethog y byd yn digwydd yn fuan.
Dyfan Jones ydy pennaeth swyddfa cydlynydd y Cenhedloedd Unedig ym Myanmar, sy'n cefnogi llywodraeth y wlad i gael y brechlyn trwy COVAX.
Dyma'r system ryngwladol gafodd ei chreu yn gynnar yn ystod yr argyfwng i wneud yn siŵr bod brechlyn a thriniaethau Covid-19 yn cael eu rhannu gyda phob gwlad sy'n diodde' yn ystod y pandemig byd-eang.
Yn wreiddiol o Gaerdydd, bu Dyfan Jones yn gweithio i'r Cenhedloedd Unedig yn Affrica, y Dwyrain Canol a'r Môr Tawel cyn symud i ddinas Yangon yn 2019.
"Mae'r brechlyn a pryd fydd y brechlyn yn dod yma, ac yn wir faint fydd yn dod yma, yn rhywbeth sydd ar flaen agenda'r Cenhedloedd Unedig yma," meddai wrth raglen Benbaladr ar Radio Cymru.
"Mae yna gytundeb rhyngwladol trwy COVAX bod ugain y cant o'r wlad i fod i gael y brechlyn yn rhad ac am ddim, ond y cwestiwn mawr ydi pryd fydd hyn yn dod i Myanmar.
"Mae yna obaith ac mae Aung San Suu (yr arweinydd) wedi dweud dylai'r brechlyn gyrraedd ym mis Chwefror neu fis Mawrth ac wedyn mae cynllun wedi cael ei roi mewn lle i geisio rhoi'r brechlyn mas.
"Ond wrth gwrs mewn gwlad fel Myanmar, mae'n dibynnu pa frechlyn sydd ar gael oherwydd dyw'r cyfleusterau ddim yma i sicrhau'r tymheredd oer iawn sydd angen er enghraifft, gyda'r brechlyn Pfizer."
Mae Myanmar, sydd wedi dioddef o ryfeloedd cartref ers degawdau, yn un o'r gwledydd tlotaf yn ne ddwyrain Asia.
Gan na fyddai'r gwasanaeth iechyd yn ddigon cryf i ddelio gyda niferoedd uchel o gleifion Covid-19, yn ôl Dyfan Jones fe roddwyd mesurau mewn lle yn gynnar yn y pandemig i geisio atal lledaeniad y feirws.
Drwy gau ffiniau a phrofi unrhywun oedd yn mynd i mewn i'r wlad, fe lwyddwyd i gadw'r niferoedd yn isel yn ystod misoedd cyntaf yr argyfwng, ond fe newidiodd y sefyllfa yn ystod yr haf.
"Mis Awst eleni roedd y nifer yn cynyddu yn gyflym," meddai Dyfan. "Maen nhw wedi llwyddo i atal y cynnydd hynna a rhyw 100,000 o achosion sydd wedi bod yma mas o boblogaeth o ryw 55 miliwn.
"Mae rhan helaeth o'r wlad dal gyda amodau sydd yn golygu methu gweithio o'r swyddfa, ac mae'r bwytai a bars dal ar gau. Y pryder ydi, er bod niferoedd yn eithaf bach, fyddai'r system iechyd methu ymdopi gyda rhyw gynnydd mawr.
"Dyna'r pryder mawr gyda'r llywodraeth... petai'r feirws yn dod yn gryf iawn yn y gymuned fyddai'n creu rhyw wasgedd mawr iawn ar y system iechyd a fyddai'r wlad dim yn gallu ymdopi gyda'r fath bwysau ar y system iechyd bregus iawn sydd gyda ni yma."
Gallwch wrando ar sgwrs Dyfan Jones yn llawn, a Chymry eraill sy'n byw dramor ar Benbaladr
Hefyd o ddiddordeb: