'Gallai torwyr rheolau Covid ymestyn hyd y pandemig'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Casnewydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae heddluoedd Cymru wedi cyhoeddi bron i 3,800 o ddirwyon Covid ers dechrau'r cyfnod clo cyntaf

Mae uwch swyddog yr heddlu wedi rhybuddio y gallai lleiafrif o bobl sy'n parhau i dorri rheolau'r cyfnod clo wneud i'r pandemig "ymestyn yn hirach" yng Nghymru.

Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Mark Hobrough o Heddlu Gwent ei fod am ddiolch i'r mwyafrif helaeth am ddilyn rheolau'r gyfraith.

Ond ychwanegodd y byddai'r rhai hynny oedd yn torri'r rheolau'n gwbl amlwg yn wynebu camau gorfodi.

Mae bron i 3,800 o ddirwyon wedi'u rhoi yng Nghymru am dorri rheolau Covid-19 hyd yma.

Mae ffigyrau diweddaraf heddluoedd y DU yn dangos fod bron i dri chwarter y dirwyon yma wedi eu rhoi i ddynion, a bod y grŵp mwyaf a aeth yn groes i reolau Covid rhwng 18 a 24 oed.

Dywedodd Prif Uwch-arolygydd Hobrough, sy'n goruchwylio ymateb Heddlu Gwent i Covid-19, ei fod ef a'i swyddogion wedi gweld newid yn y ffordd y mae'r cyhoedd wedi ymateb i'r cyfyngiadau ers cyhoeddi'r cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020.

"Pan ddechreuodd gyntaf roedd yna'n sicr ddiffyg dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd," meddai.

"Roedd pobl yn ein galw am gyngor a chwestiynau am yr hyn oedd yn cael ei ganiatáu neu beidio, a rydym yn sicr wedi gweld hyn yn lleihau."

Disgrifiad o’r llun,

Un o heddweision Heddlu Gwent yn cadw llygad ar fynd a dod y cyhoedd yng Nghasnewydd

Dywedodd ar y dechrau fod ei swyddogion yn delio gyda thafarndai a bariau yn torri rheolau, neu bobl yn cynnal partïon tŷ.

"Mae hynny wedi newid dros amser. Rydym yn gweld partïon tai a phobl yn ymgynnull mewn tai o hyd, ac nid yw hynny'n cael ei ganiatáu yn amlwg.

"Ond rwy'n credu ein bod hefyd yn gweld torri rheolau gyda phobl yn ymgynnull mewn mannau harddwch ac efallai ddim yn ymddwyn yn unol â'r gofynion."

3,770 o ddirwyon

Yn ôl Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, roedd 3,770 o ddirwyon gan bedwar llu Cymru rhwng diwedd mis Mawrth a 20 Rhagfyr y llynedd.

O'r dirwyon hynny, roedd 2,188 am dorri rheolau ar gyfyngiadau symud, tra bod 823 yn wynebu cosbau am gyfarfod mewn eiddo preifat tu allan i'w cartrefi eu hunain.

Cyhoeddwyd 113 o hysbysiadau eraill i unigolion am aros yng Nghymru pan nad oedd y wlad yn gartref iddynt, a chafodd 89 eu dirwyo am fynd i mewn neu adael ardaloedd amddiffyn iechyd lleol, pan oedd gan lawer o siroedd yng Nghymru gyfyngiadau teithio unigol yn yr hydref.

Mae'r ffigyrau hefyd yn datgelu mai dim ond dau ddirwy a gyhoeddwyd yn y cyfnod am fethu â gwisgo gorchudd wyneb mewn ardaloedd penodol dan do.