Carcharu gyrrwr bws am achosi marwolaeth teithiwr
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr bws deulawr wedi cael ei garcharu am achosi marwolaeth teithiwr wedi i'r cerbyd daro pont rheilffordd.
Bu farw Jessica Jing Wren, academydd 36 oed o Brifysgol Huanghuai yn China, wedi'r gwrthdrawiad yn Abertawe yn Rhagfyr 2019.
Roedd Ms Ren yn treulio cyfnod gydag adran Cyllid a Chyfrifon Ysgol Rheolaeth, Prifysgol Abertawe.
Cafodd Eric Vice, 64, ddedfryd o ddwy flynedd a hanner ar ôl pledio'n euog i gyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.
Fe blediodd yn euog hefyd i achosi anaf difrifol trwy yrru'n beryglus mewn gwrandawiad yn Llys Y Goron Abertawe.
Roedd Richard Thompson, myfyriwr 20 oed, ymhlith nifer o bobl a gafodd eu hanafu yn y digwyddiad.
Dywedodd yr erlynydd Carina Hughes fod Vice wedi gyrru'r bws, oedd yn teithio i'r brifysgol ar y pryd, i gyfeiriad gwahanol i'r arfer pan darodd y dec uchaf y bont ar Ffordd Castell-nedd.
Yn eu datganiadau dywedodd teithwyr bod hi'n ymddangos bod y bws yn rhedeg yn hwyr a bod y gyrrwr yn gadael i bobl fynd arno heb sganio'u tocynnau.
Clywodd y llys fod Vice, wrth i'r bws gyrraedd fan ble roedd yna draffig, wedi penderfynu dargyfeirio - rhywbeth yr oedd wedi gwneud sawl tro yn y gorffennol ond mewn bws unllawr.
Yn ôl datganiadau'r teithwyr, aeth y bws o dan fwa maen y bont reilffordd cyn taro'r bont ddur oedd yn is.
Roedd Ms Ren yn eistedd tua blaen y bws ar y dec uchaf. Cafodd ei chludo mewn hofrennydd i ysbyty yng Nghaerdydd ond bu farw 11 diwrnod yn ddiweddarach.
Dywedodd bargyfreithiwr yr amddiffyn fod yr achos "heb amheuaeth [yn amlygu] camfarnu catastroffig".
Ychwanegodd fod y diffynnydd "wedi'i lyncu gan euogrwydd - mae wedi cael diagnosis o anhwylder straen wedi trawma ac iselder difrifol".
Wrth ddedfrydu Vice, dywedodd y barnwr ei fod yn cymryd i ystyriaeth iddo bledio'n euog, ond bod ei "gamgymeriad" wedi achosi marwolaeth "academydd ifanc addawol".
Ychwanegodd mai "lladdfa" oedd yr unig ffordd o ddisgrifio'r olygfa wedi'r gwrthdrawiad "ond fe allai wedi bod sawl gwaith gwaeth".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2020