Gobeithio dewis olynydd Paul Davies 'o fewn dyddiau'

  • Cyhoeddwyd
Paul Davies

Mae cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gobeithio y bydd aelodau grŵp y blaid yn Senedd Cymru yn dewis eu harweinydd newydd o fewn y dyddiau nesaf.

Dywed Glyn Davies ei fod yn gobeithio osgoi gorfod cynnal gornest i benodi olynydd Paul Davies.

Mae BBC Cymru wedi cael awgrym y gallai penderfyniad ddod mor fuan â dydd Sul.

Ymddiswyddodd Mr Davies o'r swydd ddydd Sadwrn ar ôl yfed alcohol gyda gwleidyddion eraill ar dir y Senedd, ddyddiau wedi i waharddiad alcohol ddod i rym yng Nghymru i atal lledaeniad coronafeirws.

Cadarnhaodd prif chwip y Torïaid yn y Senedd, Darren Millar hefyd ei fod yn ymddiswyddo.

Mae'r ddau Aelod o'r Senedd wedi ymddiheuro am yfed alcohol gyda'u prydau ar 8 a 9 Rhagfyr, ond mae'r ddau'n gwadu torri'r rheolau Covid-19 oedd mewn grym ar y pryd.

'Sefyllfa siomedig'

Dywedodd Glyn Davies: "Mae'r ddau wedi bod yn ffrindiau i mi am gyfnod hir ond ro'n i'n gallu gweld sut roedd y stori'r datblygu ac mae'n rhaid dweud fy mod yn meddwl bod o'n anochel yn y pen draw.

"Yn amlwg, rwyf wedi bod yn eithaf siomedig gyda'r sefyllfa rydym wedi cael ein hunain ynddi, ond dyma yw gwleidyddiaeth ac mae'n her.

"Yr hyn sy'n wirioneddol cyfri yn fan hyn yw gwleidyddiaeth Cymru a gwleidyddiaeth y Senedd ac mae'n rhaid i ni symud yn eithaf cyflym i chwarae rhan lawn yn hynny a dyna wnawn ni."

Glyn Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Glyn Davies eisiau i aelodau'r grŵp Ceidwadol yn Senedd Cymru fod yn gyfrifol am ddewis eu harweinydd nesaf

Pan ofynnwyd ai Aelodau Ceidwadol o'r Senedd ddylai ddewis yr arweinydd nesaf, atebodd Glyn Davies ei fod eisiau i hynny fod yn fater i'r grŵp.

Dywedodd cyn AS Maldwyn: "Yn amlwg, mae gyda ni reolau, ond rwy'n awyddus, yn rhannol oherwydd fy mhrofiad gwleidyddol fy hun, fy mod eisiau i aelodau'r Senedd fod yn gyfrifol a bod yn gyfrifol am yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru.

"Ac rwyf yn fawr eisiau i aelodau'r Senedd fod yn gyfrifol am y broses yma ac iddo fod yn fater iddyn nhw.

"Erbyn dydd Llun, rwy'n gobeithio y bydden ni'n ôl yn llwyr mewn sefyllfa i barhau i ddelio gyda'n rôl gyfansoddiadol fel un o'r prif bleidiau yn y Senedd.

"Os oes rhaid cael ras am yr arweinyddiaeth, bydd yn rhaid cael un, ond rwy'n meddwl mai gwaeth i ni drio ffeindio ffordd o osgoi hynny, ond pwy a ŵyr? Rhaid i chi wneud beth mae'n rhaid i chi wneud a byddwn ni'n barod ar gyfer bore Llun."

'Ond un person sydd ynddi hi'

Mae BBC Cymru wedi cael gwybod y gall aelodau'r grŵp Ceidwadol gynnal cyfarfod ddydd Sul neu fore Llun i benderfynu ar yr arweinydd nesaf.

Mewn cyfweliad ar raglen BBC Politics Wales, dywedodd y cyn-bennaeth staff gyda'r Ceidwadwyr, Anthony Pickles taw "ond un person sydd ynddi hi, a hwnnw yw [rhagflaenydd Paul Davies] Andrew RT [Davies] - os yw'n fodlon gwneud e".

Ychwanegodd: "Mae'n eithriadol o boblogaidd ymhlith yr aelodau [llawr gwlad], mae gyda fe sgiliau cyfathrebu da, a phan weithiais i gydag e, mae ganddo ddychymyg pan ddaw i bolisi."

Andrew RT Davies
Disgrifiad o’r llun,

Ymddiswyddodd Andrew RT Davies fel arweinydd y grŵp Ceidwadol ym Mae Caerdydd yn 2018

Yn ôl y cyn-ymgynghorydd arbennig Ceidwadol i Ysgrifennydd Cymru, Lauren McEvatt, mae cyfyngiadau amser cyn etholiad mis Mai'n golygu mai arweinydd dros dro sydd fwyaf tebygol.

"Mae fy ngreddf yn dweud bod hi'n debygol o fod yn Andrew RT Davies, fel cyn-arweinydd nad sy'n sefyll i lawr yn yr etholiad nesaf.

"Dyna, mwya' tebyg, y pâr o ddwylo mwyaf rhesymegol am yr ychydig fisoedd nesaf."

Alun DaviesFfynhonnell y llun, Y Blaid Lafur
Disgrifiad o’r llun,

Mae's AS Alun Davies wedi cael ei atal o'r grŵp Llafur yn Senedd Cymru am ei ran yn y digwyddad

Daeth ymchwiliad gan awdurdodau'r Senedd i'r casgliad fod pum person, gan gynnwys pedwar Aelod o'r Senedd, wedi yfed alcohol yn yr adeilad yn ystod gwaharddiad ar yfed mewn lleoliadau trwyddedig.

Mae trydydd Aelod o'r Senedd, Alun Davies, wedi ymddiheuro am ei ran yntau yn y digwyddiad ac mae'r Blaid Lafur wedi ei atal o'r grŵp yn y Senedd.

Mae BBC Cymru wedi gofyn am gadarnhad pwy oedd y pedwerydd Aelod o'r Senedd oedd yn destun ymchwiliad awdurdodau'r Senedd.

Pennaeth staff y grŵp Ceidwadol, Paul Smith, oedd y pumed person oedd yn rhan o'r achos.

Mae'r Senedd wedi cyfeirio "achos posib o dorri" rheolau Covid at Gyngor Caerdydd a Chomisiynydd Safonau'r Senedd.

BBC Politics Wales, 1000 ddydd Sul 24 Ionawr, BBC1 Wales ac yna ar iPlayer