Gorchymyn dirwyn i ben i Sŵ Borth gyda dyledion o £100,000

  • Cyhoeddwyd
Tracy a Dean Tweedy
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Tracy a Dean Tweedy brynu'r sŵ am £625,000 yn 2016

Mae sŵ yng Ngheredigion yn debygol o gau wedi i'r perchnogion ymddangos yn y llys am fod ganddynt ddyledion o dros £100,000.

Mae Borth Wild Animal Kingdom wedi cael gorchymyn dirwyn i ben yn dilyn gwrandawiad yn Llundain ddydd Mercher.

Mae'r safle wedi cael cyfnod cythryblus dros y blynyddoedd diwethaf - yn 2017 bu'n rhaid difa lyncs oedd wedi dianc oddi yno.

Ychydig wythnosau'n ddiweddarach cafodd y sŵ ei atal rhag cadw rhai mathau o anifeiliaid peryglus a bu'n rhaid cau am gyfnod wedi iddo fethu â chael trwydded drylliau gan Heddlu Dyfed-Powys.

Yna, y llynedd fe lwyddodd dau antelop i ddianc o'r safle, a daeth i'r amlwg bod 20% o'r anifeiliaid oedd yn cael eu cadw yno wedi marw o fewn cyfnod o flwyddyn.

Tua chwe mis yn ôl daeth y trafferthion ariannol i'r amlwg, pan gafodd y sŵ fwy o amser i geisio talu eu dyled, oedd yn £75,000 bryd hynny.

Ffynhonnell y llun, Borth Wild Animal Kingdom
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid difa Lilleth y lyncs wedi iddi ddianc o'r sŵ yn 2017

Ond clywodd y llys ddydd Mercher bod gan y sŵ ddyledion o dros £100,000 i wasanaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) bellach, a'u bod hefyd mewn dyled o £22,000 i Gyngor Ceredigion.

Roedd y cyfarwyddwyr Dean, 52, a Tracy Tweedy, 50, wedi cynnig talu'r ddyled gyda thaliadau misol o £200, ond clywodd y llys nad oedd hynny'n dderbyniol.

Daeth i'r amlwg hefyd yn ystod y gwrandawiad fod Cyngor Ceredigion wedi gwneud cynlluniau i ailgartrefu'r anifeiliaid pe bai'r cwmni'n cael ei ddirwyn i ben.

Dywedodd Mrs Tweedy wrth y gwrandawiad bod y pandemig wedi creu "problemau ariannol enfawr", ond clywodd y llys bod dros £60,000 o'r ddyled yn dyddio 'nôl i 2017.

Mae'r sŵ wedi cyhoeddi bod y ddau lew sy'n cael eu cadw yno yn cael eu symud i sŵ arall yng Nghaint, ac y bydd hynny'n "lleddfu'r baich ariannol".

Pynciau cysylltiedig