A gafodd cylch cerrig ei symud o Benfro i Gôr y Cewri?
- Cyhoeddwyd
Mae archaeolegwyr wedi darganfod gweddillion cylch cerrig hynafol y maen nhw'n credu allai fod wedi cael eu datgymalu a'u hailadeiladu fel Côr y Cewri (Stonehenge).
Cafodd y cylch, o'r enw Waun Mawn, ei ddarganfod ym Mynydd Preseli yn Sir Benfro. Mae'n wybyddus fod 'meini glas' sydd wedi eu canfod yng Nghôr y Cewri yn Wiltshire yn dod o'r un ardal.
Mae'r tîm sy'n gyfrifol am y darganfyddiad, a gafodd ei wneud wrth ffilmio rhaglen i'r BBC, yn dweud fod elfennau allweddol sy'n cysylltu Côr y Cewri i'r cylch Cymreig - un o'r cylchoedd cerrig hynaf i gael ei ddarganfod ym Mhrydain erioed.
Maen nhw'n awgrymu y gallai'r meini gleision fod wedi cael eu symud wrth i bobl ardal y Preseli fudo, gan fynd â'u henebion gyda nhw fel arwydd o'u hunaniaeth a'u hailgodi yng Nghôr y Cewri 175 milltir i ffwrdd.
Yn ôl arbenigwyr, gallai hynny egluro pan bod y meini gleision eu cludo mor bell, er bod y mwyafrif o gylchoedd cerrig yn cael eu codi yn agos at eu chwareli.
Roedd y gwaith cloddio'n rhan o brosiect sy'n cael ei arwain gan yr Athro Mike Parker Pearson o Brifysgol UCL, ac roedd eisoes wedi cloddi dwy chwarel meini gleision ym Mynydd Preseli.
Pan ddaeth yn amlwg bod y meini gleision yn dyddio nôl i cyn i Gôr y Cewri ddechrau cael ei godi yn 3000 CC, aeth y tîm i edrych eto ar feini Waun Mawn.
Dim ond pedair carreg sy'n dal ar y safle, ond yn 2018 fe ddatgelwyd tyllau lle byddai'r meini gwreiddiol wedi sefyll, gan ddangos eu bod yn rhan o gylch ehangach o 30-50 o feini.
Cafodd olion golosg o'r tyllau ei ddyddio, gan ddangos eu bod wedi eu codi oddeutu 3400 CC.
Mwy o safleoedd?
Roedd cysylltiadau amlwg eraill rhwng Côr y Cewri a Waun Mawn.
Diamedr y cylch Cymreig yw 110m, yr un fath a'r ffos sy'n amgylchynu Côr y Cewri, ac mae'r ddau gylch yn aliniedig gyda'r wawr ar hirddydd haf.
Mae gan un o feini Côr y Cewri groesdoriad anarferol sy'n cyfateb i un o'r tyllau adawyd yn Waun Mawn, sy'n awgrymu bod y maen wedi dechrau fel rhan o'r cylch yn y Preselau cyn cael ei symud.
Dywedodd yr Athro Parker Pearson: "Gydag oddeutu 80 o feini yn rhan o Gôr y Cewri, rwy'n credu nad Waun Mawn yw'r unig gylch cerrig sydd wedi cyfrannu at Gôr y Cewri.
"Efallai bod mwy yn y Preselau sy'n aros i gael eu darganfod... pwy a ŵyr? Efallai bydd rhywun yn ddigon lwcus i ddod o hyd iddyn nhw."
Gallwch weld mwy ar Stonehenge: The Lost Circle Revealed ar BBC am 21:00, nos Wener 12 Chwefror.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2015
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2018