Rhybuddion yn erbyn teithio dros y penwythnos
- Cyhoeddwyd
Mae heddluoedd Cymru wedi rhybuddio yn erbyn teithiau sydd ddim yn hanfodol dros y penwythnos, gyda disgwyl tywydd braf i lawer o'r wlad.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod "yn gwybod ei bod hi'n anodd mewn tywydd braf", ond bod y wlad yn dal i fod dan reolau lefel 4.
Mae Heddlu De Cymru wedi dweud y byddan nhw'n defnyddio pwerau ychwanegol y penwythnos yma i gynnal gwiriadau ar hap ar gerbydau.
Yn ôl rheoliadau Llywodraeth Cymru, dim ond teithiau hanfodol sy'n cael eu caniatáu, a dylai pobl aros adref fel arall.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Gyda rhagolygon o dywydd sych dros y penwythnos, yn dilyn sawl cyfnod stormus yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae'r heddluoedd yn gofyn i bobl beidio a theithio.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Alun Michael, wedi apelio ar y cyhoedd i gadw at y rheolau'r penwythnos hwn, ac i osgoi temtasiwn i gyfarfod ac eraill i fwynhau'r tywydd neu'r gêm rygbi ryngwladol rhwng Cymru a Lloegr.
"Mae'n bwysig iawn bo ni'n sylweddoli bod pobl yn dal i ddal Covid-19, mae pobl yn dal i farw ohono fo", meddai Mr Michael.
"Dylen ni bwysleisio pa mor bwysig ydy o i ni gadw tu fewn i'r rheolau, i fihafio'n hunain ac amddiffyn yr NHS, ffrindiau a teulu, a chadw ar y rheolau."
Gyda Chymru yn parhau i wynebu cyfnod clo cenedlaethol, rhybudd Lefel 4, ychwanegodd Mr Michael:
"Mae'n rhaid i mi atgyfnerthu'r hyn y mae'r prif weinidog yn ei ddweud a'r hyn y mae'r heddlu'n ei ddweud ac awdurdodau lleol, gadewch i ni wneud yr hyn y mae mwyafrif llethol y bobl yn ein cymunedau yn ei wneud, gadewch i ni lynu wrth hyn nes ein bod ni'n glir.
"Mae yna rai pobl sydd yn anwybyddu'r cyngor hwnnw. Mae hynny'n golygu bod angen i ni wneud mwy o orfodaeth a bydd yr heddlu'n gorfodi heb ofn na ffafriaeth. ond mewn gwirionedd nid yw'r ple yn gadael iddyn nhw orfod gwneud hynny, nid yw'n angenrheidiol.
"Gadewch i ni fynd trwy'r rhan hon o'r cyfnod sy'n weddill, nes i ni weld y firws yn cael ei drechu "
Mae'r heddluoedd ym mhob cwr o Gymru wedi bod yn rhannu'r un neges ar wefannau cymdeithasol gydol dydd Gwener, yn galw ar bobl i beidio a theithio i ardaloedd eraill er mwyn gwneud ymarfer corff.
Yn ôl Heddlu'r De byddan nhw'n "defnyddio pwerau ychwanegol i gynnal gwiriadau cerbydau ar hap" yn ardaloedd Abertawe, Caerdydd a Bro Morgannwg.
"Er mwyn cefnogi'r ymdrech genedlaethol i helpu i arafu lledaeniad y firws a chynorthwyo i orfodi'r cyfyngiadau, mae gan ein swyddogion awdurdod i atal unrhyw gerbyd rhag teithio" meddai'r llu mewn datganiad.
"Gall y rhai sy'n cael eu hamau o fod wedi torri'r rheolau ddisgwyl wynebu camau gorfodi."
Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod nhw'n "gwybod ei bod hi'n anodd mewn tywydd braf (enwedig ar ôl yr holl wynt a glaw diweddar).... [ond] plîs cofiwch fod Cymru ar gyfyngiadau Lefel Rhybudd 4."
"Mae hyn yn golygu teithio hanfodol yn unig. Rhaid i ni gyd gydweithio er mwyn atal lledaenu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2021