Hart: 'Diofal awgrymu bod y DU ar ben fel ag y mae'

  • Cyhoeddwyd
Simon HartFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Simon Hart fod sylwadau Mark Drakeford yn "enghraifft o fflyrtio amlwg gyda Phlaid Cymru"

Mae hi'n "ddiofal" i Brif Weinidog Cymru awgrymu bod y Deyrnas Unedig "ar ben fel ag y mae", yn ôl Ysgrifennydd Cymru.

Mae Simon Hart wedi cyhuddo Mark Drakeford o "fflyrtio amlwg gyda Phlaid Cymru".

Daw wedi i Mr Drakeford ddweud yr wythnos hon bod y DU yn "symud yn agosach at y dibyn gyda phob diwrnod" mae Boris Johnson yn brif weinidog.

Mae hefyd wedi galw am fwy o bwerau i'r Senedd ym Mae Caerdydd er mwyn i Gymru allu "rheoli ei hun fel rhan o Deyrnas Unedig lwyddiannus".

Johnson â 'gelyniaeth' tuag at ddatganoli

Tra'n rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan ddydd Iau dywedodd Mr Drakeford bod llywodraeth Boris Johnson yn dangos "gelyniaeth amlwg" tuag at ddatganoli.

Dywedodd hefyd bod ffrae ynghylch pwy fydd yn rheoli gwariant y Gronfa Ffyniant yng Nghymru yn ei gwneud hi'n "anodd i bobl sydd eisiau dadlau o blaid y Deyrnas Unedig".

Ychwanegodd wrth y pwyllgor fod y pandemig "wedi hollti'r farn yng Nghymru am sut y dylai Cymru cael ei llywodraethu".

"Heb os mae'r cyfnod yma wedi cryfhau teimladau'r rheiny sy'n credu y dylai Cymru adael y Deyrnas Unedig yn llwyr," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford fod y pandemig wedi cryfhau teimladau'r rheiny sydd o blaid annibyniaeth

Dywedodd Mr Hart wrth raglen BBC Politics Wales ddydd Sul bod y sylwadau yn "enghraifft o fflyrtio amlwg gyda Phlaid Cymru cyn yr etholiad".

"Rwy'n credu ei fod yn deall, os yw am barhau fel prif weinidog mae'n rhaid iddo wneud cytundeb gyda Plaid - dyma'r unig opsiwn sydd ar y bwrdd, a dyw e heb wadu hynny," meddai Ysgrifennydd Cymru.

"Er mwyn gwneud hynny mae'n rhaid iddo ddechrau siarad am yr undeb mewn ffordd fydd yn apelio at aelodau Plaid Cymru - ac rwy'n credu bod hynny'n ddiofal."

Dywedodd Mr Hart bod cynllun brechu'r DU yn "un enghraifft yn unig" fod aros yn rhan o'r DU yn "ddylanwad positif".

'Cyflawni ei photensial'

Mae Plaid Cymru eisiau cynnal refferendwm ar annibyniaeth i Gymru os yw'r blaid mewn pŵer yn dilyn etholiadau'r Senedd ym mis Mai, ond ar hyn o bryd mae angen caniatâd San Steffan i wneud hynny.

Yn siarad ar yr un rhaglen dywedodd yr arweinydd, Adam Price bod y blaid "wir yn credu mai annibyniaeth yn y pendraw ydy'r unig ffordd gynaliadwy y gall Cymru gyflawni ei photensial anhygoel fel gwlad".

Dywedodd Plaid Diddymu'r Cynulliad bod sylwadau Mr Drakeford wedi "datgelu nad yw Llafur o blaid yr undeb bellach" a'i fod yn "gweithio gyda Phlaid Cymru".