Diffyg cysondeb ar dermau Cymraeg yn 'drysu'r cyhoedd'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Dywedodd Eluned Morgan mai'r nod ydy "dod ynghyd â'r holl waith sydd eisoes yn cael ei wneud"

Mae 'cyfnod clo' ac 'amrywiolion' ymysg rhai o'r termau Cymraeg sydd wedi cael eu bathu yn ystod y pandemig coronafeirws.

Ond pwy sy'n eu dewis, pwy sy'n eu cysoni ac o le mae cael gwybod eu hystyr?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymgynghoriad newydd, dolen allanol i "gryfhau adnoddau'r Gymraeg o ddydd i ddydd".

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru, dywedodd Gweinidog y Gymraeg mai nod y cynllun ydy ei gwneud hi'n haws i unigolion sy'n dysgu'r iaith "wybod lle i fynd i gael termau".

Ychwanegodd Eluned Morgan y byddai'r ymgynghoriad hefyd yn cyfrannu at y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

'Drysu'r cyhoedd'

"Ar hyn o bryd mae gyda ni Geiriadur Prifysgol Cymru, Uned Termau Technolegau Iaith Bangor, Byd Term Cymru," meddai Ms Morgan.

"Mae hynna yn ddryslyd i bwy bynnag sy'n defnyddio'r iaith felly beth ydan ni'n ceisio gwneud yw i greu y seilwaith ieithyddol felly mae pobl yn gwybod lle i fynd i gael y term cywir."

Yn ôl y gweinidog, y bwriad ydy creu "un wefan" i ddod â phopeth ynghyd a "sefydlu un uned yn Llywodraeth Cymru fydd yn edrych ac yn sganio'r dyfodol felly pan fyddwn ni'n cael feirws newydd, mae modd creu iaith a geiriau yn sydyn".

"Mi oedd hyn yn ddryslyd yn y cyfnod clo cyn y Nadolig gan fod Llywodraeth Cymru yn defnyddio un term ar gyfer 'fire break' ond oedd y BBC yn defnyddio term arall.

"Mae hyn yn drysu'r cyhoedd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Arwydd ffordd ym mis Hydref yn cyfeirio at y 'cyfnod atal' - y 'clo byr' neu'r 'clo tân'

Wrth lansio'r cynllun mynnodd Eluned Morgan nad "safoni'r iaith" yw'r ymgais a'i bod hi'n ceisio gwneud "pethau yn haws i'r cyhoedd".

"Ambell waith mae'n help i'r defnyddiwr i wybod pa air sydd fel arfer yn cael ei ddefnyddio yn y cyd-destun hwnnw," meddai.

Dywed mai'r bwriad ydy ei "gwneud mor hawdd ag sy'n bosibl i bawb wybod ble i fynd er mwyn cael gwybodaeth a chyngor".

"Mae'n bwysig iawn pwysleisio mai nod y ddogfen hon yw adeiladu ar seiliau sydd wedi eu gosod yn barod, nid dechrau o'r dechrau," meddai.

'Cyfoeth o adnoddau'

Wrth ymateb i'r ymgynghoriad dywedodd Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr, Dr Llion Jones fod eisoes "cyfoeth o adnoddau" ond falle "dydy'r defnyddiwr cyffredin ddim yn gwybod fod yr adnoddau yn cynnig pethau gwahanol".

"Dwi'n tybio fod y llywodraeth eisiau rhoi gwell arwyddbyst i bobl at yr adnoddau a chodi ymwybyddiaeth," meddai.

"Mae'r ap geiriaduron fel enghraifft wedi cael ei lawrlwytho chwarter miliwn o weithiau. Mae hwnna yn nifer sylweddol iawn, iawn.

"Mae 'na rai adnoddau yn haws i'w cynhyrchu a falle fod 'na le i ystyried be 'di'r llwyfannau gorau ar gyfer gwahanol adnoddau."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol