Cysgodi: 'Carcharorion gartref' ar ôl colli hyder

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Amy-Claire Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Amy-Claire Davies ei bod hi'n bryderus am fynd allan yn dilyn misoedd o aros adref

Gallai pobl sydd wedi bod yn cysgodi deimlo fel "carcharorion yn eu cartrefi" ar ôl colli'r hyder i fynd allan yn ystod y cyfnodau clo, meddai arbenigwr.

Dywedodd Dr Deborah Morgan bod angen strategaeth genedlaethol i helpu pobl fod yn rhan o'u cymunedau eto.

Daeth y cyngor i aros adref i 130,000 o bobl gyda chyflyrau iechyd sy'n eu gwneud yn fregus i ben am y tro ddydd Mercher.

Maen nhw bellach yn cael eu hannog i leihau cysylltiad gydag eraill, gweithio o adref a chadw pellter cymdeithasol.

Dywedodd y llywodraeth y byddai gan awdurdodau lleol a grwpiau gwirfoddol rannau pwysig wrth lacio'r drefn gysgodi.

Mae Amy-Claire Davies, 26, wedi bod yn cysgodi gyda'i rhieni yn Abertawe ers dechrau'r pandemig.

Yn nhermau meddygol mae hi'n fregus iawn. Mae'n byw gyda chyflwr genetig sy'n achosi gwewyr poenus.

Dywed ei bod yn teimlo'n bryderus am fynd allan, a bod pobl ifanc eraill sy'n byw gyda chyflyrau cyfyngu bywyd, yn teimlo'r un fath.

"Dwi'n credu y byddwn yn cael trafferth mynd i unman lle mae 'na lot o bobl, byddwn yn mynd yn bryderus am hynny oherwydd ei fod o wedi mynd yn rhan ohonaf, fel greddf goroesi, dros y flwyddyn diwethaf, a dwi ddim wedi bod i unman llawn pobl yn ystod y flwyddyn.

"Mae lot o'r bobl ifanc dwi'n eu hadnabod mewn perygl o gael trafferth i fynd yn ôl allan i'r byd, yn y ffordd yr oeddem ni cynt."

Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl ifanc yn "rhy bryderus" i fynd allan, meddai Dr Deborah Morgan

Mae arbenigwyr yn credu na fydd rhai byth yn gadael eu cartrefi eto, oni bai eu bod yn cael cymorth.

Yn ôl Dr Deborah Morgan o'r Ganolfan Am Heneiddio Arloesol ym Mhrifysgol Abertawe, y gallai dychwelyd i'r byd tu allan fod yn rhy frawychus iddynt, heb y cymorth priodol.

"Pan rydym yn siarad gyda phobl ifanc, yn ogystal â rhai hŷn am y profiad yma, dyna'n union sut maen nhw'n teimlo. Maen nhw'n rhy bryderus i fynd allan eto.

"Mae'r rhain yn bobl sydd wedi bod yn brysur mewn grwpiau cymdeithasol ac sydd wedi bod yn rhan o'u cymunedau ond nawr maent yn bryderus ynglŷn â mynd yn ôl allan yna.

"Mae gennym strategaeth economaidd am y ffordd yr ydym yn mynd i ddod dros hyn, a dwi'n wir yn credu ein bod ni angen strategaeth ar gyfer agwedd gymdeithasol hyn i gyd, nid dim ond yr un economaidd."

Disgrifiad,

Fideos i roi 'hyder' yn ôl i'r rhai sydd wedi cysgodi

Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo i gyflwyno rhai o'r grwpiau mwyaf bregus i fyw mewn byd o orchuddion gwyneb, ymbellhau cymdeithasol, a thaliadau digyswllt yn y siopau.

Mae cynllun Mentro Gyda'n Gilydd yn brosiect gan y GIG yng Nghymru sy'n ceisio dangos sut le ydy'r byd erbyn hyn.

Mae cyfres o ffilmiau a deunydd darllen dwyieithog wedi cael eu cynhyrchu i ddangos sut mae siopau, llyfrgelloedd a thrafnidiaeth gyhoeddus wedi addasu ers dechrau'r pandemig.

Mirain Llwyd Roberts ydy Cydlynydd Pontio'r Cenedlaethau i Gyngor Gwynedd, ac mae hi wedi bod ynghlwm â'r gwaith o gynhyrchu'r fideos.

Y bwriad oedd helpu pobl sydd â dementia yn y lle cyntaf, ond sylweddolodd y tîm "bod nhw'n mynd i helpu llawer mwy o bobl yn ein cymunedau".

"A'r gobaith ydy bod ni'n gallu dangos be' sy'n mynd i wynebu nhw pan maen nhw'n ymweld â mannau yn y gymuned yn dilyn y cyfyngiadau clo."

Mae'r fideos yn dangos sefyllfaoedd all fod yn newydd i'r rhai sydd wedi cysgodi - fel cadw dau fetr ar wahân a glanhau dwylo'n fwy cyson.

"'Da ni yn gobeithio bod y fideos yn mynd i dawelu meddwl, yn mynd i helpu bobl, i w'bod be' sydd o'u blaenau nhw, ond hefyd yn mynd i roi hyder iddyn nhw ail-ymweld a llefydd."

'Gweithio'n ddiflino'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Drwy gydol y pandemig mae awdurdodau lleol wedi gweithio'n ddiflino gyda'r trydydd sector a'r sector wirfoddol, i gydlynu cymorth i ystod eang o grwpiau bregus.

"Byddant yn parhau i chwarae rhan bwysig mewn cefnogi'r mwyaf bregus yn ein cymunedau.

"Yn ystod y pandemig rydym wedi cyflwyno nifer o syniadau i gefnogi pobl fregus, yn cynnwys gwasanaeth cyfeillio cenedlaethol ar gyfer pobl hŷn, a'r ymgyrch Edrych Ar Ôl Ein Gilydd Yn Ddiogel, sy'n darparu cyngor ynglŷn â sut i gadw mewn cysylltiad er mwyn atal teimladau o unigrwydd neu arwahanrwydd."