Galw am fwy o help i famau sydd am weithio llawn amser
- Cyhoeddwyd
Mae'n annheg fod yn rhaid i fenywod orfod dewis rhwng teulu a gyrfa yn ôl un fam sy'n credu mai dyna yw'r sefyllfa ar hyn o bryd.
Mae Ceri Campion, sy'n 33 oed ac o Gasnewydd, yn dweud fod hyn yn deillio o'r ffaith fod y cymorth gofal plant sydd ar gael tan fod plant yn dair oed yn "rhy gyfyng."
Dywedodd ei fod yn costio mwy i roi ei mab Benjamin, sy'n ddwy, mewn meithrinfa nag yw ei thaliadau morgais, tra byddai ail blentyn yn golygu cost fyddai'n uwch na'i chyfanswm cyflog.
Mae'r BBC wedi bod yn gofyn i bobl beth sydd angen newid ar ôl etholiadau'r Senedd, ac mae Ceri am weld mwy o help i famau sy'n gweithio.
"Mae Benjamin yn ddwy ac mae'n costio rhwng £800 a £900 i'w anfon i'r feithrinfa yn llawn amser - £300 yn fwy na'i thaliadau morgais.
"Mae hynny'n golygu fod tri chwarter o fy nghyflog yn diflannu yn syth", meddai.
"Yn ffodus mae fy ngŵr yn gweithio yn llawn amser, oni bai am hynny ni fyddwn yn gallu fforddio i mi weithio.
"Mae ychydig yn rhwystredig pe byddwn yn gweithio yn rhan amser, byddwn yn cael help ar unwaith, ond oherwydd mod i yn ceisio cael gyrfa does yna ddim byd ar gael tan fod y mab yn dair."
Ar hyn o bryd mae gofal meithrin di-dâl yn cael ei gynnig i blant yn y tymor ar ôl iddynt droi'n dair oed.
I wneud sefyllfa Ceri yn waeth, fe gafodd Benjamin ei eni ar 1 Ionawr - gan olygu nad yw'n gymwys i ddechrau yn Ionawr 2022 a hynny oherwydd mater o oriau'n unig.
Yn hytrach, o dan y drefn bresennol fe fydd yn cael cynnig lle mewn meithrinfa ysgol ar ôl y Pasg gan olygu cyfnod aros o bron i flwyddyn o nawr.
"Oherwydd iddo gael ei eni yn Ionawr, does dim cymorth iddo tan ar ôl y Pasg," meddai Ceri.
"Mae'n methu'r cyfle o bedwar mis o gyllido o 12 awr.
"Fe fyddai wedi gallu dechrau'r ysgol tymor ynghynt pe bai wedi ei eni ar 31 Rhagfyr.
Galw am fwy o gymorth
Dywedodd Ceri ei bod hi'n deall rhaid bod yna gyfnodau penodol ond fod y drefn bresennol yn ddiffygiol.
Mae Ceri yn gweithio i gwmni telegyfathrebu, gan drefnu cyrsiau hyffordd i bobl.
Golygai hyn llawer o gyfarfodydd yn ystod y diwrnod gwaith.
Tra'i bod wedi gallu ymdopi â Benjamin yn y tŷ yn ystod y cyfnodau clo, ni fyddai hyn yn rhywbeth y byddai'n gallu gwneud yn llawn amser.
"Os yw bobl sy'n gweithio yn rhan-amser yn gallu cael cefnogaeth, yna pam na allwn ni."
"Pe bai yna gyllido ychwanegol pan maen nhw'n troi'n ddwy, byddai mwy o bobl yn dychwelyd i waith."
Beth yw'r cynllun gofal plant yng Nghymru?
Mae Cynnig Gofal Plant Cymru , dolen allanol yn galluogi i rieni plant tair neu bedair oed hawlio hyd at 30 awr o addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn.
Fe gafodd y cynllun hwn ei oedi ym mis Ebrill, gydag arian yn cael ei ailgyfeirio i dalu am ofal plant gweithwyr allweddol
Fe wnaeth y cynllun ailddechrau yn Awst wrth i reolau gael eu llacio ar ôl y cyfnod clo cyntaf.
Dywedodd Ceri fod y teulu wedi bod yn trafod a ydynt yn gallu fforddio ar hyn o bryd drio am frawd neu chwaer i Benjamin.
"Rwyf wedi dweud sawl tro mai rhywun sydd ddim â phlant sy'n llunio'r rheolau hyn, neu sydd ddim yn deall beth mae fel i dderbyn toriad cyflog bob mis.
"Rydym am gael plentyn arall ond mae'n gwneud i ni ofyn a ydym yn gallu ei fforddio.
"A fyddwn ni'n gallu talu £1,600 er mwyn i mi allu gweithio?
"Mae mor rhwystredig."
POLISÏAU: Cymharwch addewidion y pleidiau
DWY GROES MEWN DAU FLWCH: Pam bod gennych chi ddwy bleidlais?
PWY SY'N SEFYLL YN FY ARDAL I?: Rhowch eich cod post yn y blwch
WEDI DRYSU?: Dysgwch fwy gyda BBC Bitesize
PODLEDIAD: Pwy sy'n pleidleisio?
BLOG VAUGHAN RODERICK: Cic o'r smotyn
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Awst 2020
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd21 Awst 2019