Arweinwyr pleidiau Cymru i fynd benben mewn dadl deledu

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mark Drakeford, Adam Price, Andrew RT Davies, Jane Dodds and Richard SuchorzewskiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mark Drakeford, Adam Price, Andrew RT Davies, Jane Dodds a Richard Suchorzewski

Bydd arweinwyr pleidiau gwleidyddol Cymru yn wynebu ei gilydd mewn dadl deledu fyw nos Iau, gydag wythnos i fynd tan etholiad y Senedd.

Arweinwyr Llafur, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Diddymu Cynulliad Cymru fydd yn ymddangos yn yr awr gyntaf.

Bydd Reform UK, y Blaid Werdd ac UKIP yn cymryd rhan yn ail ran y rhaglen, fydd yn para hanner awr.

Bydd y ddadl ar BBC One Wales ac ar BBC iPlayer o 20:30.

Dyma fydd y ddadl gyntaf o'i math i gael ei darlledu o bencadlys newydd BBC Cymru yn Sgwâr Canolog Caerdydd.

Daw'r cwestiynau gan gynulleidfa rithwir, gyda Bethan Rhys Roberts yn cyflwyno rhan un.

Dod i adnabod rhai o'r arweinwyr

Yn mynd benben â'i gilydd bydd arweinydd Llafur Cymru, Mark Drakeford, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

Bydd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds a Richard Suchorzewski, sy'n arwain Plaid Diddymu Cynulliad Cymru hefyd yn rhan gyntaf y rhaglen.

Yn yr ail ran, fe fydd Jamie Jenkins yn cynrychioli Reform UK Wales, gyda dirprwy arweinydd y Blaid Werdd Cymru a Lloegr, Amelia Womack ac arweinydd UKIP Cymru, Neil Hamilton.

Nick Servini fydd yn cyflwyno'r ail ran, gyda'r panelwyr i roi datganiadau ar y dechrau a'r diwedd, gyda coronafeirws ac adferiad Cymru yn sgil y pandemig i fod yn destunau trafod amlwg.

Beth mae'r pleidiau'n gobeithio'i gyflawni?

Yn ôl un arbenigwr, mae yna arwyddocâd ychwanegol i'r ddadl am mai "ychydig iawn o ymgyrchu ar lawr gwlad" sydd wedi bod oherwydd cyfyngiadau Covid.

"Strategaeth etholiadol Llafur sydd wedi gorfod newid leiaf oddi ar gefn y pandemig," meddai Laura McAllister, Athro Polisi Cyhoeddus yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Mae wedi bod am Mark Drakeford fel presenoldeb calonogol, pâr diogel o ddwylo, gyda Llafur Cymru yn edrych i fancio ar y gefnogaeth gafodd am ddelio â Covid.

"O ganlyniad, ac yn ddealladwy, mae ymgyrch Llafur wedi bod yn amddiffynnol ac felly nid oes angen i Drakeford wthio'n galed yn y ddadl hon. Yn y cyfamser, mae Adam Price yn gwneud. Nid dyma sut yr oedd i fod."

"Fe wnaeth Covid wneud llanast o holl gynlluniau gorau Plaid i wneud hon yn ornest ar ffurf arlywyddol," meddai'r Athro McAllister. "Mae'r pandemig wedi ailalinio barn y cyhoedd ac mae Plaid wedi stryglo i gael llawer o fynd.

"Mae angen perfformiad mawr ar Price, gan gydbwyso apêl yn ofalus i'r emosiynau a hygrededd clir ar adferiad economaidd. Mae angen iddo argyhoeddi'r etholwyr fod hwn yn amser ar gyfer newid nid parhad."

Dywedodd yr Athro McAllister y byddai Andrew RT Davies yn "parhau gyda'i apêl syml i bleidleiswyr Torïaidd 2019 yn y seddi 'wal goch' fel y'u gelwir gydag ymosodiadau ar record Llywodraeth Cymru ond efallai ei fod yn teimlo ychydig yn llai bullish ar ôl digwyddiadau yn San Steffan dros yr wythnos ddiwethaf".

"Mae'n sicr o fod yn awr brysur a chyflym a bydd Jane Dodds a Richard Suchorzewski yn gobeithio cael sylw am eu negeseuon nhw hefyd," ychwanegodd.

BBC Wales Leaders' Debate, BBC One Wales, 20:30 ddydd Iau, 29 Ebrill ac ar iPlayer