Pam fod mwy o bobl ifanc y gogledd yn cael brechiad cyn rhai hŷn?
- Cyhoeddwyd
Mae cyfran uwch o bobl ifanc wedi cael brechiad Covid-19 yng ngogledd Cymru na rhai hŷn na nhw, yn ôl ffigyrau.
Yn ôl Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mae 14% o bobl rhwng 18 a 29 wedi cael eu brechu, o'i gymharu â 9% rhwng 30 a 39 oed.
Mae'r bwrdd yn cynnal dwy ffrwd o frechu - un ar gyfer pobl o 30 i 49 oed, ac un arall ar gyfer rhai 18 i 29.
Mae'r pigiad Rhydychen/AstraZeneca yn cael ei gynnig i'r rhai hŷn, tra bod y grŵp iau yn derbyn brechlyn Pfizer.
Mae hyn yn dilyn adolygiad gan reoleiddiwr cyffuriau'r DU i'r cysylltiad rhwng brechlyn AstraZeneca a cheuladau gwaed prin.
O ganlyniad mae grŵp cynghori Llywodraeth y DU, y JCVI, yn argymell cynnig brechlyn gwahanol i bobl 18 i 29, lle bo hynny'n bosib.
'Dwy ffrwd' o frechu
"Yr wythnos hon, er mwyn gwneud yn siŵr bod ein cyflenwad brechlynnau'n cael ei roi mor gyflym ag y mae'n cael ei dderbyn, fe fyddwn yn parhau i weithredu dwy ffrwd i'r rhai rhwng 18-49 oed," meddai Gill Harris, cyfarwyddwr nyrsio a bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, yr wythnos ddiwethaf.
"Bydd un [ffrwd] yn rhoi'r brechlyn i rai dan 30 oed, ac un yn rhoi'r brechlyn Rhydychen/AstraZeneca i'r rhai rhwng 30 a 49.
"Rydym yn mabwysiadu'r dull pragmataidd hwn i sicrhau bod brechlynnau ddim yn cael eu gadael heb eu defnyddio am gyfnodau hir."
Ychwanegodd y dylai pobl o dan 30 sydd eisoes wedi derbyn eu dos cyntaf o frechlyn AstraZeneca dderbyn ail ddos gan bod "dim digwyddiadau difrifol yn cael eu priodoli i ail ddosau y brechlyn".
Hyd at ddydd Mercher 21 Ebrill, roedd 6% o'r grwpiau oedran 18-29 a 30-39 wedi derbyn eu dos cyntaf o frechlyn.
Wythnos yn ddiweddarach roedd y canrannau yn 14% a 9%.
Erbyn yr wythnos hon, roedd 35% o'r grŵp 40-49 wedi derbyn eu dos cyntaf o'i gymharu â 29% yr wythnos ddiwethaf.
Yr wythnos hon dywedodd Ms Harris: "Mae tua 70% o oedolion yng ngogledd Cymru bellach wedi derbyn o leiaf un dos o'r brechlyn Covid-19, ac rydym yn dal ar y trywydd iawn i allu cynnig brechiad i weddill y boblogaeth oedolion ymhell cyn diwedd Gorffennaf sef carreg filltir Llywodraeth Cymru."
Beth am fyrddau iechyd eraill?
Dros Gymru mae 57.6% o'r boblogaeth wedi cael dos cyntaf o frechlyn, a 23.2% wedi cael ail ddos.
Gofynnodd BBC Cymru i weddill byrddau iechyd Cymru beth oedd eu polisi ynglŷn â brechu gwahanol grwpiau oedran.
Bwrdd Iechyd Powys
Mae tua 80% o bobl yn eu 40au a bron i hanner y rhai yn eu 30au wedi derbyn dos cyntaf o frechlyn Covid-19 ym Mhowys.
Mae disgwyl i weddill y rhai yn eu 30au gael gwahoddiad am frechiad yn gynnar ym mis Mai.
Mae gan y bwrdd restr "eilradd wrth gefn" i rai 18-29 a fydd yn cael gwahoddiad i dderbyn brechlyn Pfizer, yn cynnwys llenwi apwyntiadau gafodd eu canslo.
Bwrdd Iechyd Bae Abertawe
Dywed y bwrdd y bydd pobl 18-29 oed yn cael blaenoriaeth o ran eu stoc o frechlynnau Pfizer o ganol Mai ymlaen.
Yn y cyfamser mae'n cynnig unrhyw apwyntiadau sy'n cael eu canslo i bobl yn y grŵp oedran yma, sydd ar eu rhestr wrth gefn ac sy'n gallu cyrraedd y ganolfan frechu ar fyr rybudd.
Nid yw byrddau iechyd Hywel Dda, Cwm Taf Morgannwg, Caerdydd a'r Fro, nac Aneurin Bevan wedi ymateb hyd yma.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefannau'r byrddau iechyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2021