Y Llewod 2021: Gorfoledd i rai, siom enfawr i eraill...

  • Cyhoeddwyd
lionsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Prif Hyfforddwr y Llewod, Warren Gatland, wedi enwi ei garfan ar gyfer y daith i Dde Affrica eleni. Capten Cymru, Alun Wyn Jones, fydd yn arwain y Llewod gyda 10 chwaraewr o Gymru wedi eu henwi yn y garfan.

Bydd gêm gynta'r Llewod yn erbyn Japan ym Murrayfield ar 26 Mehefin, cyn i'r garfan adael am Dde Affrica ble bydd wyth gêm iddyn nhw rhwng 3 Gorffennaf a 7 Awst.

Ond wrth gwrs mi fydd cefnogwyr rygbi ledled ynysoedd Prydain yn trafod a dadlau am ddetholiad Gatland. Yma mae gohebydd a sylwebydd rygbi BBC Cymru, Cennydd Davies, yn rhoi ei farn ar benderfyniadau y Kiwi.

line

Hon oedd y 'gyfrinach' waethaf yn cael ei datgelu'n swyddogol... ac er y pendroni ynglŷn â chlo Lloegr, Maro Itoje, byddai'r cefnogwr rygbi mwyaf pybyr o ochr arall Clawdd Offa'n cydnabod mai Alun Wyn Jones oedd y dewis naturiol i arwain y Llewod i Dde Affrica.

Yn 35 oed dyma fydd ei bedwerydd daith, ei ail i Dde Affrica (y cyntaf yn 2009). Mae Alun Wyn wedi cyflawni cymaint yn y gêm, gan ennill mwy o gapiau rhyngwladol (157) nag unrhywun arall, ac mae capten Cymru'n sicr o'i le ymhlith oriel yr anfarwolion wedi iddo ymddeol.

alun wynFfynhonnell y llun, David Rogers
Disgrifiad o’r llun,

Alun Wyn Jones yn rhedeg at amddiffynnwr y Crysau Duon, Joe Moody, yn Eden Park, Auckland ar 8 Gorffennaf 2017

Er y bu'n aros yn eiddgar am y gapteniaeth, doedd ei bresenoldeb ymysg y garfan byth yn y fantol, ond i eraill mae'r cyfnod diweddar wedi bod yn boenus gyda nifer ar bigau'r drain.

Mi fydd 'na gynrychiolaeth gre' o Gymru - 10 i gyd - a hynny'n gydnabyddiaeth o berfformiadau'r tîm cenedlaethol wrth ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Yn absenoldeb George North, asgellwr ifanc arall fydd yn ysu i greu ei farc y tro hwn, sef Louis Rees-Zammit. Bydd ei gyflymder trydanol yn berffaith ar gyfer caeau caled y gwrthwynebwyr.

zammitFfynhonnell y llun, Michael Steele
Disgrifiad o’r llun,

Louis Rees-Zammit, gwibiwr Caerloyw. Mae Rees-Zmmit wedi gwneud argraff fawr yn ei flwyddyn gyntaf gyda charfan genedlaethol Cymru

Un arall fydd yn bwrw'i swildod yw Josh Adams - ac mae'n rhaid cofio doedd asgellwr y Gleision ddim hyd yn oed yng ngharfan Cymru ar ddechrau'r Chwe Gwlad eleni gan iddo dorri rheolau Covid-19 y garfan.

Ond mi fydd yna orfoleddu ar gyrion Llanymddyfri o weld un o feibion yr ardal, Wyn Jones, yn hoelio'i le yn y rheng-flaen ar ôl serennu ers tro dros y Scarlets a Chymru.

wyn jonesFfynhonnell y llun, NurPhoto
Disgrifiad o’r llun,

Y ffermwr o Lanymddyfri a'r prop nerthol, Wyn Jones

Does dim syndod gweld enwau Liam Williams, Dan Biggar a Ken Owens yno - chwaraewyr a oedd eisoes wedi gwneud digon i ddarbwyllo Warren Gatland i'w cynnwys eto ar ôl mynd ar y daith bedair blynedd yn ôl.

Roedd y penderfyniadau anoddaf mae'n siŵr ymhlith y rheng-ôl, ble fydd enw Taulpe Faletau eto ymhlith y cyntaf i gael ei gadarnhau ar gyfer y gemau prawf. Bydd Justin Tipuric yn cynnig rhywbeth gwahanol er nad yw bob tro wedi bod yn un o ffefrynnau'r hyfforddwr o Seland Newydd.

Ond gyda chyn lleied â 37 yn y garfan wreiddiol roedd 'na enwau mawr yn mynd i ddioddef, a neb yn fwy na Jonathan Davies.

Davies oedd seren y gyfres i'r Llewod yn Seland Newydd bedair blynedd yn ôl, ond y tro hwn does 'na ddim lle i ganolwr Cymru - sy'n tanlinellu'r ffaith bod dewis carfan y Llewod yn dasg anodd tu hwnt.

Un arall sy'n eithriadol o anlwcus yw'r blaenasgellwr Josh Navidi sydd 'chwaith heb dderbyn yr alwad.

davies navidiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jonathan Davies a Josh Navidi; dau Gymro amlwg fydd ddim ar yr awyren i Dde Affrica

Bydd y ddau (Davies a Navidi) yn hynod siomedig ond ma' natur taith y Llewod ac anafiadau'n anochel yn golygu bod 'na bosibilrwydd bydd y ddau eto yn Ne Affrica yr haf hwn...

Yn ôl cyn hyfforddwr y Llewod, Jim Telfer, mae'r gwaith hawdd ar ben felly, a nawr mae'r cyfan yn dechrau o ddifri.

line

Hefyd o ddiddordeb: