Galw am gofeb i 'frenhines llenyddiaeth rhamant'
- Cyhoeddwyd
Mae yna alw i osod cofeb yn Aberystwyth i gofio nofelydd sy'n cael ei nabod fel "brenhines llenyddiaeth rhamant".
Symudodd Marguerite Jervis i fyw yn y dref yn 1933 ar ôl priodi ei hail ŵr, Caradoc Evans - un o lenorion mwyaf dadleuol Cymru.
Roedd hefyd yn actores, yn berchennog theatr ac yn newyddiadurwr yn Fleet Street, ond ychydig iawn o bobl sy'n gwybod ei stori.
Cafodd ei geni yn Myanmar - oedd yn cael ei alw'n Burma ar y pryd - cyn cael ei haddysgu a hyfforddi fel actores yn Lloegr.
Roedd ei nofelau, oedd yn cael eu hystyried yn eithaf risqué, yn hynod boblogaidd ac fe gyhoeddodd hi bron i 150 o lyfrau.
Fe gafodd 11 o'r rheiny eu haddasu ar gyfer ffilm, gan gynnwys 'The Pleasure Garden' yn 1925 - ffilm gyntaf Alfred Hitchcock fel cyfarwyddwr.
Byddai'n ysgrifennu dan wahanol enwau yn ystod ei gyrfa o dros hanner canrif, gan gynnwys Oliver Sandys, a Iarlles Barcynska. Roedd ei llyfrau'n cynnwys cofiannau a bywgraffiad o Caradoc Evans.
Roedd yn berson "theatrig" iawn ac yn "dipyn o gymeriad" yn hoffi "dillad lliwgar, lipstick coch llachar a hetiau enfawr". Sefydlodd gwmni theatr o'r enw Rogues and Vagabonds.
Ei bwriad oedd defnyddio actorion proffesiynol i berfformio dramâu Saesneg yng nghefn gwlad mewn neuaddau yn Llambed, Llandrindod, Cei Newydd a Machynlleth.
Yn hwyrach aeth hi a Caradoc i fyw i New Cross ac yna Penrhyn-coch.
Mae hi wedi ei chladdu gyda'i gŵr ym mynwent New Cross, ond dyw enw Marguerite ddim ar y garreg fedd.
Mae'r awdur Liz Jones, sy'n diwtor dysgu gydol oes ym Mhrifysgol Aberystwyth, nawr wedi cloriannu stori ei bywyd mewn llyfr newydd 'The Queen of Romance'.
Dywedodd fod llyfrau Marguerite wedi mynd allan o ffasiwn ddiwedd y 1960au ac fel "nofelau rhamant" doedden nhw ddim yn cael eu gwerthfawrogi.
Roedd y math yma o lenyddiaeth yn diodde, meddai, oherwydd "snobyddiaeth llenyddiaeth".
Dywedodd: "Roedd hi yn sgrifennu yn dda. Trueni bod y genre yma wedi cael enw drwg, achos roedd hi yn sgrifennwr talentog iawn."
Mae Liz Jones nawr am weld rhywbeth i'w chofio yn Aberystwyth, "y dref oedd hi yn ei garu".
Mae plac ar eu cartre ym Maes y Frenhines yn barod ond plac i Caradoc Evans yw e.
"Does dim sôn am Marguerite, er bod miliyne o fenywod o bob oed yn caru ei gwaith hi, yn enwedig o'r dosbarth gweithiol," meddai.
Mae Liz Jones am i'r plac fod yn "fawr a llachar", ac yn benderfynol o gofio Marguerite, gan ddweud taw "dyma y peth lleia allwn i neud".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2016