Cael agor tu mewn ond rhybudd am brinder staff

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
YfwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd chwech o bobl o chwe aelwyd wahanol yn gallu cwrdd y tu mewn i dafarn o ddydd Llun ymlaen

Bydd gan hyd at chwech o bobl o chwe aelwyd wahanol yng Nghymru hawl i gyfarfod dan do mewn caffis, tai bwyta a thafarndai o ddydd Llun ymlaen wrth i Gymru symud i lefel rhybudd dau.

Yn ogystal bydd sinemâu, orielau ac amgueddfeydd yn cael agor - tebyg i'r hyn ddigwyddodd yr haf diwethaf ond y tro hwn mae mwyafrif o oedolion Cymru wedi cael eu brechu.

Mae hi bellach yn bosib teithio i rai gwledydd tramor er nad yw Llywodraeth Cymru yn annog hynny.

Wedi tri chyfnod clo a chynllun brechu mae nifer yr achosion o Covid yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol.

Ddydd Sul cyhoeddwyd bod dwy filiwn o bobl wedi cael y dos cyntaf o'r brechlyn.

Prinder staff dybryd

Ond wrth i'r diwydiant lletygarwch ailagor y tu mewn am y tro cyntaf ers cyn y Nadolig mae yna rybudd bod prinder staff.

Dywed un cwmni recriwtio blaenllaw fod y sector yn wynebu argyfwng.

"Dwi'm wedi gweld dim byd tebyg yn ystod y 35 mlynedd dwi wedi bod yn y diwydiant," medd Simon James o asiantaeth recriwtio Atlantic.

Walnut TreeFfynhonnell y llun, Walnut Tree
Disgrifiad o’r llun,

Mae bwyty'r Walnut Tree ger Y Fenni, sydd wedi ennill sawl seren Michelin, yn ceisio dod o hyd i brif gogydd

Mae Shaun Hill o fwyty'r Walnut Tree yn Y Fenni wedi troi at y cyfryngau cymdeithasol i chwilio am brif gogydd.

Fydd bwyty Sbaenaidd yr Asador ynghanol Caerdydd ddim yn agor am nad ydynt yn gallu cael digon o staff.

Dywed y cyfarwyddwr, Natalie Isaac, bod hi'n sefyllfa "echrydus" a dywed yr asiantaeth recriwtio ei bod hi'n hynod o anodd dod o hyd i gogyddion er bod cyflog o dros £40,000 ar gael yn ardal Caerdydd.

Mae Gwesty'r Imperial yn Llandudno fel arfer yn cyflogi cant o bobl ond dim ond 65 o staff a fydd ganddynt pan yn agor ddydd Llun.

Dywed y corff sy'n cynrychioli busnesau, UKHospitality Cymru, bod yr argyfwng yn bygwth adferiad economaidd Cymru.

Ychwanega Simon James o Atlantic bod pobl ddi-waith ofn cymryd swydd yn y diwydiant rhag ofn iddynt golli'r swydd eto ac yna byddai rhaid disgwyl yn hwy am fudd-dal.

Dywedodd hefyd bod rhai cogyddion profiadol wedi cael swyddi gwahanol yn ystod y cyfnodau clo ac wedi penderfynu aros am fod yr amodau yn cynnig gwell ffordd o fyw.

Ychwanegodd fod Brexit yn broblem arall wrth i'r sector lletygarwch ddibynnu'n drwm, yn draddodiadol, ar staff o wledydd Ewrop.

Mwy am coronafeirws

Edrych ymlaen

Dywed Adrian Emmett, perchennog tafarn y Lion yn Nhreorci: "Mae'r cwsmeriaid yn edrych ymlaen, mae'r staff yn edrych ymlaen... mae wedi bod yn amser hir ry'n ni wedi bod ar gau.

"Ni'n gallu agor tu fas, ni wedi gweithio'n galed gyda'n beer gardens a'n shelters, ond dyw e ddim yr un peth â bod tu fewn.

Adrian Emmett
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Adrian Emmett, tafarnwr yn Nhreorci, ei fod wedi buddsoddi llawer mewn technoleg

"Ni wedi gwneud llawer o waith tu fewn a tu fas. Rydyn ni wedi buddsoddi yn ein technoleg - heb y dechnoleg fydden ni methu gwneud yr hyn ry'n ni yn ei wneud nawr - yr apps ry'n ni'n ei cael 'order at the table app' y 'booking system'. Ond y peth mwyaf yw'r staff, chi gorfod cael y tîm iawn - ry'n ni wedi buddsoddi yn ein tîm hefyd.

"Mae'r support ry'n ni wedi'i gael o'r llywodraeth wedi bod yn dda rili, heb hwnna falle bydde lot o fusnesau ddim yma nawr. Ond ni gorfod edrych ymlaen nawr a chadw'r VAT ar 5 y cant, edrych ar business rates ar y stryd fawr ... ni gorfod neud mwy."

Dywed Jamie Bevan, perchennog Caffi Soar, Merthyr Tudful ei fod e hefyd yn llawn cyffro.

"Ryn ni'n gyffrous iawn a dweud y gwir," meddai, "ac mae'r cwsmeriaid yn edrych ymlaen at ddod mas eto a gweld eu ffrindiau a chymdeithasu... cael coffi ac yn y blaen. A jyst gobeithio nawr y gallen ni fwrw ymlaen ac ailadeiladu rhyw fath o fusnes a bywyd cymunedol, cymdeithasol.

Jamie Bevan
Disgrifiad o’r llun,

Bydd angen mwy o gefnogaeth, medd Jamie Bevan o Gaffi Soar ym Merthyr

"Fydd pethe ddim yn mynd yn ôl i normal yn syth, a be dwi yn poeni amdano nawr yw bydd y gefnogaeth ariannol ry'n ni wedi'i weld o du'r llywodraeth yng Nghaerdydd yn sychu fyny nawr.

"Hoffwn ni bwysleisio bod angen cefnogaeth arnon ni. Ry'n ni wedi colli hanner y busnes fan hyn yng Nghaffi Soar - ry'n ni wedi colli gweithgareddau'r theatr, y cynadleddau, y buffets, y te a'r coffi i gyfarfodydd mawr.. dyw hwnna ddim yn mynd i ddod yn ôl yn syth dros y flwyddyn nesa, felly mae gwir angen i lywodraeth Cymru barhau i feddwl am sut maen nhw'n mynd i gefnogi busnesau lleol trwy'r cyfnod o ailddatblygu ac ail sefydlu."

Andy Ainscough tu allan i'r gwesty newydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gwesty newydd yr Hilton Garden Inn ar safle Adventure Parc Snowdonia yn agor ddydd Mawrth medd y rheolwr Andy Ainscough

Dydd Mawrth bydd safle Adventure Parc Snowdonia yn Nolgarrog, Dyffryn Conwy, yn ailagor.

Mae'r atyniad wedi bod ar gau ers mis Mawrth 2020, ac wrth ailagor fe fyddan nhw hefyd yn agor gwesty newydd - yr Hilton Garden Inn - ar y safle, yn dilyn buddsoddiad o £20m yn adnoddau'r parc.

"'Dan ni wastad wedi gwneud yn iawn gyda teithwyr undydd a phobl sy'n awyddus i aros mewn pods glampio, ond dydy hynny ddim i bawb," meddai'r rheolwr gyfarwyddwr Andy Ainscough.

"Efo'r gwesty rŵan, mi ydan ni'n fwy na lle i aros un noson - gobeithio bydd pobl yn aros am dair, pedair, pum noson."

Ond mae'n cydnabod bod y flwyddyn a fu wedi bod yn galed.

"Yn anffodus fe gollon ni lot o staff a 'dan ni'n ailadeiladu rŵan i ailagor y parc antur a'r Hilton Garden Inn gyda bang 'fory. Mae niferoedd yr archebiadau'n gryf ac mae 'na lot o ddiddordeb, nid yn unig yng ngogledd Cymru'n gyffredinol ond yn y parc a'r atyniadau lleol eraill, felly mae'n bositif iawn."

Mwy am coronafeirws

Wrth i lacio pellach ddigwydd dywed y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y bydd Llywodraeth Cymru yn cadw llygad manwl ar y sefyllfa.

Roedd gweinidogion wedi ystyried llacio'r cyfyngiadau ymhellach ond maent wedi penderfynu peidio oherwydd pryderon am amrywiolyn newydd o India.

Er y bydd hawl i deithio dramor o 17 Mai, bydd "camau diogelu" ychwanegol i bobl sy'n dychwelyd o rai gwledydd er mwyn atal yr haint rhag lledaenu eto.

O ddydd Llun bydd Cymru'n defnyddio system oleuadau traffig fel yn Lloegr a'r Alban.

Mae'n golygu y bydd modd teithio i rai gwledydd heb orfod hunan-ynysu pan yn cyrraedd adref ond mae'r prif weinidog wedi dweud ei bod yn well osgoi teithio os nad oes rhaid gan y gallai teithwyr fod yn cario'r haint.

Popcorn in cinemaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae sinemâu, orielau ac amgueddfeydd yn ailagor ddydd Llun

Beth sy'n digwydd ar 17 Mai?

  • Agor lletygarwch dan do i chwe pherson o chwe aelwyd;

  • Agor pob llety gwyliau;

  • Sinemâu, theatrau a lleoliadau adloniant eraill yn cael agor;

  • Atyniadau dan do fel amgueddfeydd ac orielau yn cael agor;

  • Hyd at 30 mewn digwyddiadau wedi eu trefnu dan do, a 50 y tu allan.

Mae Llywodraeth Cymru yn pwysleisio ei bod yn bwysig glynu at y rheolau o hyd ac yn rhybuddio nad yw'r pandemig ar ben.