Anhrefn Mayhill: Cyfanswm o 15 wedi'u harestio

  • Cyhoeddwyd
Ceir wedi eu llosgi yn Mayhill
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ceir a chartrefi eu difrodi'n sylweddol yn y cythrwfl nos Iau, 20 Medi

Mae Heddlu De Cymru wedi arestio wyth yn rhagor o bobl mewn cysylltiad â'r anhrefn yn ardal Mayhill, Abertawe yr wythnos ddiwethaf.

Daw hyn â'r cyfanswm sydd wedi cael eu harestio hyd yma i 15.

Cafodd ceir a chartrefi eu difrodi'n sylweddol yn y cythrwfl nos Iau, 20 Mai.

O'r 15, mae 13 wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth llym, tra bo'r ddau arall wedi cael eu rhyddhau dan ymchwiliad.

Yn ôl y llu fe wnaeth tri o'r rheiny adrodd eu hunain i'r heddlu yn wirfoddol.

Ffynhonnell y llun, Robert Melen
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr heddlu eu bod yn credu fod tua 200 o bobl yn rhan o'r cythrwfl

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Gareth Morgan bod Heddlu De Cymru yn disgwyl arestio mwy o unigolion dros y dyddiau nesaf.

"Mae tîm o swyddogion yn canolbwyntio ar nifer fawr o glipiau fideo sydd wedi cael eu rhannu gyda ni gan aelodau'r cyhoedd," meddai.

"Mae'r tîm yma yn derbyn cefnogaeth gan yr Uned Troseddau Difrifol a staff sydd â phrofiad yn defnyddio technoleg adnabod wynebau."

Ychwanegodd ei fod eisiau diolch i'r cyhoedd am ddarparu dros 400 o luniau a fideos o'r digwyddiad iddyn nhw, sydd wedi helpu i'w harwain at y rheiny sydd wedi'u harestio.