'I'm a Celebrity' i ddychwelyd i Abergele am ail flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
Castell GwrychFfynhonnell y llun, PA Media

Bydd cyfres nesaf y rhaglen deledu 'I'm a Celebrity... Get Me Out of Here!' yn dychwelyd i Gastell Gwrych ar gyrion Abergele yn Sir Conwy am yr ail flwyddyn yn olynol.

Awstralia oedd lleoliad y rhaglen ITV am flynyddoedd ond daeth yr enwogion i Gymru y llynedd yn sgil y pandemig, gyda Giovanna Fletcher yn cael ei choroni yn Frenhines y Castell.

Y gyfres hon oedd yr ail fwyaf poblogaidd yn nhermau nifer y gwylwyr, gyda'r sioe ar yr awyr ers 2002.

Eleni bydd grŵp arall o enwogion yn dod i Gymru ac yn cymryd rhan mewn treialon heriol fel rhan o'r sioe.

Dyma fydd 21ain cyfres y rhaglen boblogaidd sydd yn cael ei chyflwyno gan Ant & Dec.

Ffynhonnell y llun, Ymddirideolaeth Castell Gwrych

Dywedodd Mark Baker, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych: "Rwy'n hynod falch bod 'I'm a Celebrity' wedi dewis Castell Gwrych fel ei lleoliad ar gyfer cyfres 2021.

"Mae Castell Gwrych yn dŷ hanesyddol rhestredig Gradd I ac yn leoliad y dylai twristiaid sy'n dod i Gymru fynd i'w weld.

"Bydd cael 'I'm a Celebrity' yma yn helpu i gefnogi ei adferiad parhaus yn ogystal â rhoi hwb economaidd mawr i'r ardal."

Ychwanegodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru: "Mae hyn yn newyddion gwych ac edrychwn ymlaen at groesawu tîm 'I'm a Celebrity' yn ôl i Gymru eleni, ac at weithio gyda nhw er mwyn ei wneud yn well fyth eleni."

Pynciau cysylltiedig