Cyhuddo Cyngor y Celfyddydau o 'danseilio' y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae nifer wedi mynegi pryderon ar ôl i Gyngor Celfyddydau Cymru nodi mewn hysbyseb nad oes yn rhaid i swyddog blaenllaw a fydd yn gyfrifol am y Gymraeg fedru siarad yr iaith.
Fe all Newyddion S4C ddatgelu bod Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol ac undeb Unite - sy'n cynrychioli staff - yn bryderus nad yw'r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer rôl 'Cyfarwyddwr i Ddatblygu'r Celfyddydau'.
Mae'r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd wedi cyhuddo Cyngor y Celfyddydau o "danseilio a thanbrisio" yr iaith.
Ond mae'r corff yn dweud eu bod yn chwilio am rywun sy'n "angerddol" dros y Gymraeg.
Bydd y cyfarwyddwr yn gyfrifol am hybu'r iaith yn y sector celfyddydau ac mae'n un o brif swyddi'r sefydliad.
Bydd Sian Tomos yn olynu Nick Capaldi fel prif weithredwr y Cyngor Celfyddydau ddiwedd yr haf.
Yn wreiddiol, roedd y swydd ddisgrifiad yn dweud bod rhuglder yn y Gymraeg yn "ddymunol, er nad yn hanfodol".
Bellach, mae'n hanfodol cael "ymwybyddiaeth ymarferol da" o'r Gymraeg a chael ymrwymiad i ddysgu'r iaith yn rhugl o fewn "llinell amser rhesymol", sef 12 mis.
'Tanseilio a thanbrisio'r Gymraeg'
Mae Cyngor yr Eisteddfod yn poeni am y sefyllfa. Mewn llythyr at Gyngor y Celfyddydau a Gweinidog y Gymraeg Jeremy Miles, maen nhw'n "codi pryderon" nad oes rhaid i'r cyfarwyddwr sy'n gyfrifol am bolisi iaith a strategaeth yr iaith allu siarad Cymraeg.
Mewn llythyr mewnol at gadeirydd ac aelodau o gyngor Cyngor y Celfyddydau, mae undeb Unite hefyd yn "datgan siom" nad ydi'r sefydliad yn credu fod y Gymraeg yn hanfodol i "unrhyw un o'i uwch swyddi".
Ychwanegodd: "Pwysleisiwn ei fod yn bwysig gwrando ar lais cynrychiolwyr staff Cyngor Celfyddydau Cymru y tro hwn, sydd wedi eu siomi'n arw iawn."
Dywedodd yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd: "Maen nhw'n meddwl y bydda swyddog datblygu sydd ddim yn medru siarad Cymraeg, sydd ddim yn medru asesu'r perfformiadau a safon deialog, 'sgwennu, theatr ac ati bod rhywun felly yn medru datblygu'r celfyddydau yng Nghymru.
"Wel, ffwlbri noeth ydi meddwl hynny. Mae'r busnes yma sy'n cael ei gyflwyno o hyd ydi 'da ni'n chwilio am y person gorau i'r job. Yn yr achos yma fedrwch chi ddim gwneud y job os nad oes gynnoch chi Gymraeg."
Rhybuddiodd hefyd: "Wrth reswm bod gweld cyrff mawr, pwerus fel Cyngor Celfyddydau Cymru yn tanseilio a thanbrisio'r Gymraeg fel hyn, mae o'n cael effaith hir dymor."
Pwysleisiodd Gweinidog y Gymraeg mai "penderfyniad gweithredol i Gyngor y Celfyddydau ydi hwn" - nid i Lywodraeth Cymru.
"Rwy'n falch o weld bod y newid wedi ei wneud i'r disgrifiad o'r swydd i adlewyrchu fod gallu yn y Gymraeg yn bwysig a bod galw ar y person yma i fod yn rhugl o fewn blwyddyn," meddai Jeremy Miles.
'Cefnogi twf yr iaith'
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Ddiwylliant a'r Celfyddydau, Heledd Fychan AS: "Er fy mod yn cymeradwyo'r anogaeth i'r person fydd wedi ei benodi i ddysgu Cymraeg, mae gennyf bryderon nad yw Cyngor Celfyddydau Cymru wedi gwneud y Gymraeg yn hanfodol fel gofyniad ar gyfer y rôl Cyfarwyddwr Datblygu'r Celfyddydau.
"Mae angen mwy na ymwybyddiaeth ymarferol," meddai. "Mae angen rhywun sy'n deall hanfodion y Gymraeg, a'r ffordd y mae'n siapio ac yn dylanwadu ar y celfyddydau yng Nghymru.
"Mawr obeithiaf y bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn ystyried hyn wrth benodi, os ydynt o ddifri ynghylch cefnogi twf y Gymraeg drwy eu gwaith."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor y Celfyddydau: "Mae Cyngor y Celfyddydau yn chwilio am rywun sy'n angerddol dros yr iaith Gymraeg i ddod i weithio gyda ni.
"'Dan ni'n hynod freintiedig fel cwmni i gael cyswllt dyddiol gyda Chymry Cymraeg creadigol a thalentog ac rydym yn hollol hyderus y bydd llawer o'r rhain yn ymgeisio am y swydd hon.
"Mae rhai o'n cydweithwyr ar ddechrau eu taith yn dysgu'r iaith, eraill yn siaradwyr iaith gyntaf rhugl - bydd cyfle iddynt oll ymgeisio am y swydd yma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd19 Mai 2020
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2020