'Gwersyllfaoedd dros dro yn niweidio cymunedau gwledig'
- Cyhoeddwyd
Mae ofnau bod rheolau sy'n gwneud hi'n haws i agor gwersyllfaoedd dros dro yn ystod y pandemig wedi creu sefyllfa rhy benagored, gan niweidio cymunedau gwledig.
Ers llacio'r rheolau, mae perchnogion tir yn cael agor mannau gwersylla am hyd at 56 o ddiwrnodau heb orfod cael caniatâd cynllunio.
Dywed perchnogion bod y safleoedd yn hybu twristiaeth, ond mae rhai trigolion yn honni bod eu cymunedau'n cael eu niweidio wedi i wersyllfaoedd "godi'n ddirybudd dros nos".
Mae'r rheolau'n helpu'r sector twristiaeth, medd Llywodraeth Cymru.
Wrth i fwy o bobl aros yn y DU eleni yn hytrach na mynd ar wyliau dramor, mae'r galw am lefydd i wersylla wedi cynyddu yn rhannau o Gymru.
Mae rhai o'r gwersyllfaoedd mwyaf poblogaidd yn llenwi fisoedd o flaen llaw.
Cafodd y rheolau eu llacio dros dro, dolen allanol oherwydd y pandemig gan ganiatáu'r defnydd o dir ar gyfer gwersylla am 56 diwrnod, yn hytrach na'r 28 arferol, heb orfod cael caniatâd cynllunio. Daw'r newid i ben ddechrau Ionawr.
Mae Llywodraeth y DU wedi mynd gam ymhellach yn Lloegr, gan annog cynghorau i beidio â gweithredu yn erbyn perchnogion tir sy'n torri'r cyfyngiadau a chadw safleoedd ar agor am gyfnod hirach.
Wrth geisio caniatâd cynllunio rhaid ystyried yr effeithiau posib ar ffyrdd lleol a'r amgylchedd.
Yn niffyg y fath graffu yn achos gwersyllfaoedd dros dro, mae pryder eu bod yn amharu ar eu cymunedau.
'Mae'n anniogel'
Dywed un tad, sy'n byw ar gyrion parc Cenedlaethol Eryri, bod meysydd gwersylla dros dro'n creu anhrefn, ofnau mewn cysylltiad â llygredd a mwy o gerbydau ar ffyrdd gwledig.
"Dros nos roedd yna wersyllfa ar garreg y drws," meddai. "Roedd yna 40 o geir yn mynd a dod lawr y lôn, pobl nad sy'n nabod yr ardal, ble does dim man pasio na phalmant."
Mae'r tad, sy'n dymuno aros yn ddi-enw, yn ofni y bydd yna ddamwain ar y lôn, sydd â sawl tro pheryglus ac sy'n cael ei defnyddio gan bobl leol i seiclo, rhedeg a marchogaeth.
"Does wnelo hyn ddim â champio," meddai. "'Dan ni'n mwynhau campio ei hunain, ond mae mwg 40 o danau gwersyll yn llosgi ar draws y dyffryn bob nos."
Dywedodd ei fod yn ofn gadael i'w blant chwarae tu allan oherwydd y traffig, ac y bydd yn rhaid iddo symud tŷ os fydd rheolau tebyg mewn grym eto haf nesaf.
Mae'n dadlau nad pob ardal sy'n "gallu dygymod" â meysydd gwersylla dros dro "heb unrhyw rybudd nac ymgynghoriad".
Ychwanegodd: "Mae'n anniogel - os ddigwyddith eto, neith o ein lladd ni."
Dywed AS Ceidwadol Gorllewin Clwyd, Darren Millar bod nifer o drigolion wedi bod mewn cysylltiad gan fynegi ofnau'n ymwneud â diogelwch, sŵn a llygredd.
Roedd "bwriad da" wrth wraidd y newid, meddai, ond mae'n teimlo bod gweinidogion heb ragweld y canlyniadau i rai cymunedau.
"Mae gwersyllfaoedd gyda chaniatâd cynllunio'n destun craffu manwl i sicrhau mynediad priodol, seilwaith ac adnoddau, ynghyd â'r effaith ar drigolion lleol," meddai. "Mae'r rheol 56 diwrnod newydd yn golygu y gall meysydd godi unrhyw le heb ystyried y materion hyn."
Galwodd ar gynghorau i ddefnyddio'u pwerau trwyddedu i reoli safleoedd, gan sicrhau amodau tebyg i rai gwersyllfaoedd parhaol a gwarchod cymunedau.
'Segur ers blynyddoedd'
Prynodd Ingrid a John Angel ddarn o dir amaeth segur ger Hwlffordd, Sir Benfro bron i ddwy flynedd yn ôl a dechrau clirio'r safle yn ystod cyfnod clo.
Penderfynodd agor gwersyllfa dros dro yno wedi i ffrindiau ofyn am gael aros yno, a defnyddio'r arian i blannu dros 300 o goed.
Fe gwynodd nifer fach o berchnogion tai haf, meddai, ond fel arall roedd y gymuned leol yn gefnogol. Mae bellach yn paratoi i ofyn am ganiatâd cynllunio i sefydlu encilfa.
"Bu'r lle'n wag am ddeng mlynedd ac roedden nhw'n falch o'i weld yn cael ei ddefnyddio," meddai.
"Mae pobl yn dweud eu bod wedi darganfod gymaint o bethau newydd yn yr ardal, sy'n wir help i dwristiaeth."
'Incwm hanfodol'
Mae'r cynnydd mewn gwersyllfaoedd dros dro'n caniatáu i fwy o bobl fwynhau cefn gwlad mewn "ffordd sy'n cael llai o effaith" a dod ag "incwm hanfodol" i gymunedau gwledig, medd Dan Yates, sylfaenydd y wefan Pitchup.com.
O'r 385 o safleoedd yng Nghymru oedd yn derbyn archebion fis diwethaf, roedd 67 yn rhai dros dro.
Dywedodd bod y wefan yn ceisio sicrhau bod perchnogion yn mabwysiadu arferion da. Ychwanegodd bod y mwyafrif yn byw yn yr un gymuned, yn "ymwybodol o'r teimladau yn lleol" ac yn ymdrechu'n galed i'w "lliniaru".
Dywed y British Holiday and Home Parks Association, sy'n cynrychioli 448 o barciau gwyliau yng Nghymru, bod parciau parhaol yn cyfrannu'n sylweddol i'r economi ac yn gorfod cydymffurfio â rhestr hir o ofynion cynllunio.
'Helpu adferiad yr economi'
Mae llacio'r rheolau wedi caniatáu i fwy o bobl fwynhau cefn gwlad a chreu "cyfleodd arallgyfeirio ychwanegol tymor byr", medd undeb yr amaethwyr, NFU.
Dywed Llywodraeth Cymru bod estyn y cyfyngiad amser o ran defnyddio tir dros dro'n rhan o gyfres o fesurau i helpu adferiad yr economi.
"Gyda chyfyngiadau ar deithio dramor, gall yr hawliau datblygu dros dro roi capasiti ychwanegol i feysydd gwersylla ac ehangu'r ddarpariaeth twristaidd mewn ymateb i'r cynnydd mewn 'staycations'," medd llefarydd.
"Mae perchnogion tir yn gyfrifol am redeg gwersyllfaoedd dros dro mewn ffyrdd sy'n lleihau stŵr i drigolion lleol ac mae gan awdurdodau lleol bwerau i ymyrryd pe bai niwsans statudol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2021