Cwtogi gŵyl Jazz Aberhonddu yn 'ergyd' i fusnesau
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o fusnesau yn Aberhonddu wedi mynegi siom bod digwyddiadau stryd gŵyl jazz flynyddol y dref wedi cael eu canslo eleni, er bod cyfyngiadau Covid-19 wedi cael eu codi yng Nghymru.
Mae trefnwyr yr ŵyl, sy'n cael ei chynnal gydol Awst eleni yn hytrach na thros un penwythnos, hefyd yn cyfyngu ar nifer y gynulleidfa ar gyfer perfformiadau byw yng nghanol y dref.
Dywed nifer o dafarndai a bwytai lleol bod y newidiadau'n ergyd ariannol iddyn nhw, ond mae'r trefnwyr yn pwysleisio bod angen parhau i fod yn ofalus yn sgil y pandemig
Maen nhw hefyd yn dweud bod posib i fwy o bobl nag erioed fwynhau'r arlwy eleni, sy'n cyfuno perfformiadau byw a rhai ar-lein.
'Amser od'
Fel arfer, mae'r ŵyl yn cael ei chynnal dros un penwythnos, sef ail benwythnos mis Awst, gan ddenu degau ar filoedd o ymwelwyr.
Mae rhai o gewri'r byd jazz wedi perfformio yno dros y blynyddoedd, gan gynnwys George Melly a Jools Holland, ac mae'r strydoedd yn orlawn wrth i bobl fwynhau'r gerddoriaeth, digwyddiadau ymylol a chynnyrch stondinau bwyd.
Eleni mae yna gyfres o berfformiadau drwy'r mis cyfan, ac mae perfformiadau byw ac wedi eu recordio'n cael eu dangos ar-lein.
Mae'n rhaid canmol y trefnwyr, "bod nhw wedi dod i ben gyda gwneud cymaint â hyn mor gyflym" wedi 18 mis mor anodd, medd Heulwen Thomas, sy'n cyflwyno bandiau yn ystod yr ŵyl.
"Mae wedi bod yn amser od a mae'n anodd i drefnu'r petha' ma' ta beth," meddai.
"Ni'n hapus bod e wedi dod i'r pwynt yma ble mae cynulleidfa'n gallu dod mewn a gweld be' sy'n mynd 'mlaen.
"Llynedd doedd dim byd ymlaen. Eleni mae yna fwy o bethe ymlaen. Blwyddyn nesa' gobeithio [bydd] llawer, llawer mwy eto."
Ond mae'r cyfyngu ar y trefniadau arferol, er i'r rhan helaeth o gyfyngiadau Covid ddod i ben at 7 Awst, wedi peri rhwystredigaeth.
"Dan ni mor siomedig," meddai Claire Lyndon, perchennog siop sglodion ar y stryd fawr. "Mae'r dref fel arfer yn llawn cyffro... ond fel y gwelwch chi does neb yma."
"Mae fel arfer yn dod â lot o arian mewn i'r dre' achos mae pobol yn dod o bobman," meddai Nia Morgan, un o drigolion yr ardal.
"Dwi'n credu bod e yn rhoi impact ar y pubs lleol."
Yn ôl un o drefnwyr yr ŵyl, Lynne Gornall fe fuon nhw'n ymgynghori gyda'r gymuned o flaen llaw.
"Rydym wedi cydweithio gyda Chyngor Sir Powys - maen nhw wir wedi bod o gymorth gan roi cyngor, a chael golwg ar y rhaglen, felly mae wedi ei wneud yn ofalus.
"Ni allwn ddenu niferoedd mawr o bobl i lenwi'r strydoedd a dydw i ddim yn credu y byddai pobl yn dymuno hynny eleni."
Roedd yr ŵyl wedi cael problemau ariannol a gostyngiad yn nifer ymwelwyr cyn y pandemig, ond mae'r trefnwyr yn ymdrechu i adfer ei statws, medd y cerddor a'r cyflwynydd jazz, Tomos Williams.
Gŵyl Aberhonddu, meddai oedd yr un pwysicaf ym Mhrydain, ac roedd yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw drwy Ewrop "ryw 20, 30 mlynedd yn ôl [ond] mae wedi colli tir ers hynny".
Ychwanegodd: "Mae'r trefnwyr ar hyn o bryd yn trio codi e'n ôl i fyny, maen nhw'n ei cadw i fynd.
"Maen nhw'n defnyddio nifer o gerddorion lleol ac o Gymru felly mae'n deg i 'weud bydd yn dal yn ddigon pwysig ar y calendr jazz ond dyw e ddim hanner mor bwysig ag oedd e."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2021
- Cyhoeddwyd14 Awst 2021
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2015