Gofyn i ymwelwyr â safleoedd hynafol 'droedio'n ysgafn'

  • Cyhoeddwyd
Waun Mawn
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl damcaniaeth un archeolegydd, cerrig gleision o Waun Mawn ger Brynberian yw rhai Côr y Cewri

Mae ymwelwyr i rai o safleoedd hynafol Sir Benfro yn cael eu hannog i "droedio'n ysgafn" yn sgil pryder am ddifrod posib.

Mae yna gynnydd aruthrol wedi bod mewn ymwelwyr i safleoedd gafodd eu dangos ar raglen y BBC Stonehenge: The Lost Circle Revealed.

Yn ôl damcaniaeth yr Athro Mike Parker Pearson, mae'n bosib fod yna gylch o gerrig gleision yn Waun Mawn gafodd yna eu symud 150 milltir tua'r dwyrain i Gôr y Cewri ar wastadeddau Caersallog.

Mae safleoedd eraill gafodd eu dangos ar y rhaglen, fel Craig Rhosyfelin a Charn Goedog hefyd wedi bod yn boblogaidd gyda thwristiaid.

Disgrifiad o’r llun,

Mae safleoedd fel Craig Rhosyfelin wedi eu gwarchod o dan y gyfraith

Dywedodd Tomos Jones, archeolegydd cymunedol i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro: "Ers i'r rhaglen ddogfen fynd allan ym mis Chwefror, 'da ni wedi cael lot mwy o ddiddordeb yn y safleoedd.

"Mae'n really positif i weld fod pobl eisiau darganfod mwy am y safleoedd 'ma ond mae rhai problemau.

"Mae pobl yn parcio mewn llefydd ble maen nhw yn blocio ffyrdd a dyw pobl ddim yn ymwybodol bod y safleoedd hyn wedi eu cofrestru.

"Mae'r safle parcio wrth ymyl Waun Mawn wedi cyfyngu."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Tomos Jones yn gofyn i bobl adael y safleoedd "fel eich bod chi byth wedi bod yno"

Yn ôl Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro mae tanau'n cael eu cynnau, cerrig yn cael eu difrodi neu eu symud, giatiau'n cael eu gadael ar agor ar dir ffermydd a phobl yn parcio'n esgeulus ar lonydd cul ac o flaen clwydi ffermydd.

Mae Tîm Troseddu Gwledig Heddlu Dyfed-Powys yn rhan o gynllun Gwarchod Treftadaeth i ddiogelu safleoedd o fewn y parc cenedlaethol.

Dywedodd y Cwnstabl Kate Allen: "Ry'n ni wedi cael adroddiadau bod cerrig yn cael eu symud o'r safleoedd ac yna eu torri, wrth i bobl geisio chwilio am ddarnau o gerrig gleision y Preselau.

"Dyw pobl ddim yn sylwi bod y safleoedd hyn wedi eu gwarchod o dan y gyfraith.

"Mae symud neu ddifrodi'r cerrig yn drosedd."

Disgrifiad o’r llun,

Dydy pobl ddim yn sylweddoli fod symud neu ddifrodi'r cerrig yn drosedd, meddai'r Cwnstabl Kate Allen

Yn ôl Mr Jones mae yna groeso cynnes i ymwelwyr, ond rhaid iddynt barchu'r safleoedd.

"'Dan ni eisiau i bobl fwynhau ond mynd i weld nhw yn ysgafn, fel eich bod chi byth wedi bod yno."

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi mabwysiadu'r hashnod #troedionysgafn i atgoffa ymwelwyr am bwysigrwydd y safleoedd hynafol hyn.