'Dim cynlluniau' am gyfnod clo byr i Gymru yn yr hydref
- Cyhoeddwyd
Nid oes unrhyw gynlluniau ar gyfer cyfnod clo byr yng Nghymru yn yr hydref ar hyn o bryd, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Mae 410 o gleifion Covid-19 mewn ysbytai yng Nghymru, cynnydd o 76% o fewn wythnos. Mae'r ffigwr ar ei uchaf ers Mawrth eleni, ond mae'n llawer is na'r un cyfnod yn yr ail don llynedd.
Mae 'na 50 o gleifion yn cael gofal dwys am y coronafeirws - y nifer uchaf ers 2 Mawrth.
Fis Hydref y llynedd, dywedwyd wrth bobl am aros gartref a bu'n rhaid i dafarndai, bwytai a rhai siopau gau am 17 diwrnod.
Mae un o undebau addysg amlycaf Cymru wedi cydnabod y byddai cyfnod clo byr yn "un o'r mesurau posib" os y bydd sefyllfa Covid yn cyfiawnhau hynny.
Ond dywedodd Llywodraeth Cymru: "Nid oes unrhyw gynlluniau ar gyfer toriad tân (firebreak) yng Nghymru."
Dywed UCAC ei bod yn hanfodol bod data am achosion a chyfraddau heintiau mewn ysgolion yn cael ei "gasglu, ei ddadansoddi a'i gyhoeddi'n rheolaidd".
"Bydd hyn yn caniatáu i benderfyniadau cywir am y lefelau priodol o fesurau gael eu gwneud yn gyflym ac yn effeithiol," meddai Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb, Dilwyn Roberts-Young.
"Rydyn ni'n gwybod beth yw'r mesurau hynny - rydyn ni wedi bod yn eu defnyddio dros y 18 mis diwethaf. Maent yn cynnwys gorchuddion wyneb, grwpiau cyswllt, awyru, pellter cymdeithasol ac ati.
"Er bod pawb yn awyddus i osgoi unrhyw darfu pellach ar addysg wyneb yn wyneb, mae'r defnydd doeth o doriadau tân, wrth gwrs, yn un o'r mesurau posib y gellid eu gweithredu - pe bai'r data am achosion a chyfraddau heintiau yn cyfiawnhau hynny.
"Bydd y materion hyn yn parhau i gael eu trafod yn rheolaidd rhwng Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol ac undebau'r gweithlu addysg, gyda'r bwriad o ddarparu addysg barhaus dan yr amgylchiadau mwyaf diogel posibl."
Wrth siarad ar Dros Frecwast Radio Cymru fore Mercher, dywedodd is-ysgrifennydd UCAC, Rebecca Williams, ei bod hi'n "llawer rhy gynnar i wneud penderfyniad" ar gyfnod clo byr.
"Dwi ddim yn credu mai nawr yw'r adeg i drafod cyfnod clo byr," meddai.
"Ni'n trio'n gore' i osgoi atal addysg wyneb yn wyneb - byddai hynny yn ddiflastod mawr.
"Mae 'na gyffro a phositifrwydd ond rwy'n teimlo hefyd bod angen bod yn wyliadwrus."
Parhau i fonitro
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn parhau i fonitro sefyllfa iechyd y cyhoedd yn agos ac yn adolygu'r rheoliadau coronafeirws bob tair wythnos.
"Nid yw coronafeirws wedi diflannu a byddem yn annog pawb i barhau i gymryd camau i amddiffyn eu hunain a'u hanwyliaid, gan gynnwys derbyn y brechlyn os nad ydyn nhw wedi cael un eto."
Ddydd Llun gwadodd Llywodraeth y DU adroddiadau papur newydd eu bod yn cynllunio cyfnod clo ym mis Hydref yn Lloegr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2021
- Cyhoeddwyd31 Awst 2021
- Cyhoeddwyd30 Awst 2021