Cymru â'r ganran uchaf o anafiadau yfed a gyrru
- Cyhoeddwyd
Mae mwy yn dioddef anafiadau oherwydd gwrthdrawiadau yn sgil yfed a gyrru yng Nghymru nag yn unman arall ym Mhrydain.
Yn ôl Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU, roedd y ffigwr ar gyfer Cymru yn 6.9% o'i gymharu â 5.1% yn Lloegr a 4.6% yn Yr Alban.
O'r 5,789 a ddioddefodd anafiadau mewn damweiniau ar ffyrdd Cymru yn 2019, roedd 400 ohonynt oherwydd yfed a gyrru.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn cymryd diogelwch ar y ffyrdd ac yfed a gyrru o ddifrif.
Ond mae cymdeithas foduro'r RAC yn dweud bod y ffigyrau'n siomedig.
Ffigyrau'n 'siomedig'
Allan o 139,779 o ddioddefwyr yn Lloegr, roedd 7,060 oherwydd yfed a gyrru, ac yn Yr Alban roedd y ffigwr yn 350 allan o 7,590.
Dywedodd Nicholas Lyes ar ran yr RAC: "Rydym yn siomedig, oherwydd yn gyffredinol roedd y rhifau'n dod i lawr yn sylweddol drwy'r 1990au a'r 2000au cynnar.
"Ond ers tua 2010 maen nhw wedi bod yn weddol gyson."
Ar draws Prydain mae nifer y marwolaethau ac anafiadau difrifol oherwydd yfed a gyrru ar ei uchaf ers wyth mlynedd.
Roedd tua 7,800 o ddioddefwyr yfed a gyrru ym Mhrydain yn 2019, y flwyddyn ddiweddaraf o ran ystadegau.
O'r rhain roedd tua 2,050 o bobl wedi cael eu lladd neu wedi cael anafiadau difrifol.
Mae hynny'n gynnydd o 8% ar y flwyddyn flaenorol, pan oedd y ffigwr tua 1,900, a'r uchaf ers 2011.
Yng Nghymru cafodd tua 130 eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yn 2019, cynnydd ar y ffigwr o 110 a gofnodwyd yn 2018.
Mae'r ffigyrau'n cael eu talgrynnu i'r 10 agosaf.
'Ro'n i'n meddwl bo fi'n marw'
Gorweddodd Finley Taylor ar y stryd yn crefu i gael marw, wedi iddi gael ei thaflu i'r awyr a glanio ar ei phen ar ôl cael ei tharo gan yrrwr oedd wedi bod yn yfed.
Roedd y fodel 27 oed yn mynd â'i chi am dro, gyda'i gŵr, Eddie, pan gafodd ei tharo.
Wnaeth gyrrwr y car, Emily Down, ddim stopio wedi'r gwrthdrawiad.
"Roeddwn i ar y llawr ac fe redodd fy ngŵr drosodd ataf a dweud wrtha'i orwedd i lawr," meddai Finley, sy'n dod o Rydaman.
"Fi'n cofio meddwl, 'Dyma ni'.
"Roedd popeth yn mynd yn ddu. Fe gydies i yn ei law a dweud fy mod i'n ei garu ac iddo byth anghofio faint yr o'n i'n ei garu.
"Ro'n i'n meddwl bo fi'n marw. Ro'n i fel: 'Fi ddim yn barod, ond dyma ni'n mynd'."
Ac yna daeth y boen.
Gwelodd yfwyr y tu allan i Glwb Rygbi Penybanc yr hyn a ddigwyddodd, a galw am ambiwlans.
Erbyn iddi gyrraedd, roedd y boen mor ddrwg nes bod Finley'n crefu ar y bobl oedd o'i chwmpas i adael iddi farw.
"Pan gyrhaeddodd yr ambiwlans fe ges i'r dos mwyaf posib o morphine," meddai Finley.
Roedd angen 15 o bwythau mewn anaf drwg ar ei choes, ac nid yw wedi gallu parhau gyda'i gwaith ers y digwyddiad.
Mae hi'n dal mewn poen, ac mae'n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma (post-traumatic stress disorder).
"Fi ddim yn credu mod i wedi mynd 48 awr heb gael cur pen," meddai.
"Wedyn mae'r PTSD. Rwy'n byw ar yr un ffordd a ble ges i 'nharo.
"Mae e wastad yn fy mreuddwydion a'm hunllefau a dwi'n cael flashbacks drwy'r dydd."
Ymddangosodd Emily Down gerbron Ynadon Llanelli ar 1 Gorffennaf, lle cafodd ddirwy o £153 a gwaharddiad rhag gyrru am 28 mis ar ôl pledio'n euog i yfed a gyrru, bod heb drwydded, a pheidio stopio wedi damwain.
Clywodd y llys bod Down, 27 oed, o Barc Gwernen, Fforestfach, Tycroes, yn fwy na dwy waith dros y terfyn cyfreithiol, gyda 92mg o alcohol mewn 100ml o'i hanadl. Y terfyn cyfreithiol yw 35.
Gweithred 'hunanol'
Roedd yfed a gyrru yn un o'r pethau mwyaf hunanol y gall unrhyw un ei wneud, meddai Finley.
"Dyw e ddim fel bod pobl ddim yn ymwybodol o'r perygl," meddai.
"Mae'n cael ei drwytho ynddoch chi o'r foment yr ydych chi'n dechrau clywed am alcohol. Mae e yn yn newyddion drwy'r amser.
"Mae dewis ei wneud e mor hunanol."
Beth ellid ei wneud?
Dywedodd Mr Lyes bod llawer o bethau y gellid eu gwneud i ddod â'r ffigyrau i lawr.
Awgrymodd ostwng y terfyn cyfreithiol ar gyfer yfed a gyrru; gosod teclyn mewn ceir i'w rhwystro rhag cael eu gyrru os yw'r gyrrwr dros y terfyn, a phlismona mwy effeithlon.
Roedd yn credu y gallai natur wledig rhannau o Gymru fod yn ffactor yn y ganran uchel o ddioddefwyr.
Gallai'r ganran yfed a gyrru fod yn uwch mewn llefydd lle nad yw'r system drafnidiaeth gyhoeddus mor dda â hynny, meddai.
Dywedodd Teresa Ciano, cadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru y dylai modurwyr adael y car adref os oeddynt yn mynd allan i yfed.
"Unwaith eto rydym yn siomedig i weld cymaint o bobl yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddrwg mewn gwrthdrawiadau'n ymwneud â rhywun hunanol a ddewisodd yfed ac yna gyrru car.
"Yn anffodus, er gwaethaf ymgyrchoedd proffil uchel yn y cyfryngau gan ein cydweithwyr yn yr heddlu, mae yna rai pobl o hyd sy'n penderfynu peryglu eu hunain a defnyddwyr ffyrdd diniwed, trwy yrru dan ddylanwad alcohol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cymryd diogelwch ffyrdd o ddifrif ac yn gweithio'n agos gyda phartneriaid allweddol i ddefnyddio arwyddion electroneg a dulliau cyfathrebu eraill i rybuddio gyrwyr o beryglon yfed a gyrru."
Yn ôl data 40 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr cafodd 302,281 prawf anadl eu cynnal yn 2019 - gostyngiad o 11% ar y flwyddyn flaenorol, a 57% yn llai na 2009 pan gafodd 698,688 eu cynnal.
Ond gyda 10 prawf fesul 1,000 o bobl, mae nifer y profion anadl sy'n cael eu cwblhau yng Nghymru yn uwch o lawer na Lloegr, lle mae chwe phrawf i bob 1,000 o bobl.
Yn ôl y Swyddfa Gartref roedd hyn yn rhannol oherwydd nifer y profion a gwblhawyd gan Heddlu Gogledd Cymru yn 2019 - 22 i bob 1,000 o bobl.
Mae canran profion Heddlu'r Gogledd a Heddlu Dyfed-Powys wedi bod yn uwch na gweddill Cymru mewn blynyddoedd diweddar.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd14 Awst 2018
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2016