Pum munud gyda'r bardd Siôn Aled
- Cyhoeddwyd
Mae'n gyn-enillydd Mastermind Cymru, yn caru trenau, wedi byw yn Awstralia a newydd gyhoeddi cyfrol am Brexit a Covid-19.
Siôn Aled fydd Bardd Mis Hydref ar Radio Cymru, ac mae'n ateb rhai o gwestiynau Cymru Fyw.
Beth yw eich hoff daith trên a pham?
Fy hoff daith ydy Lein Dyffryn Conwy. Roedd yr annwyl Ddr Beeching wedi cael gwared o'r rhan fwyaf o reilffyrdd gwledig Cymru cyn i mi gyrraedd fy neg oed, a hon oedd un o'r ychydig rai a oroesodd. Mae golygfeydd rywfaint yn wahanol i'w gweld bob tro ac mae croeso cynnes ar ôl cyrraedd y goleuni ar ddiwedd y twnnel hir yn arwain i Flaenau Ffestiniog.
Chi oedd enillydd Mastermind Cymru yn 2007. Petaech chi'n cystadlu eto, beth fyddai eich pwnc arbenigol, a beth fyddai'ch cas bwnc?
Addysg cyfrwng Cymraeg. Fy nghas bwnc fyddai bron unrhyw beth yn ymwneud â chwaraeon - alla i yn fy myw fagu diddordeb mewn dim heblaw snwcer!
Mae gennych chi lond trol o gymwysterau academaidd, yn cynnwys dwy ddoethuriaeth, ac eto fe wnaethoch fethu eich gradd gyntaf yn y Gymraeg yn 1978. Beth ddigwyddodd - ac ai methu fu'r sbardun am y blynyddoedd wedyn?
Yn gynharach yn fy ngyrfa yn Aber, roedd disgwyl i mi gael gradd dosbarth cyntaf. Sylweddolais yn ystod fy mlwyddyn olaf nad oedd gobaith am hynny bellach a wnes i golli diddordeb yn y gwaith academaidd, gan dreulio fy amser ar weithredu dros Gymdeithas yr Iaith a mwynhau fy hun, wir.
Doedd gen i fawr o ots pan ddaeth y canlyniad, ond roedd fy Nhad, yn arbennig, yn torri'i galon. Er ei fwyn o yn bennaf y gwnes i ail gynnig am y radd, gan gyflawni gwaith o safon 2.1, ond dim ond gradd gyffredin y gellid ei dyfarnu i mi.
Dw i ddim wedi mynd ar ôl graddau eraill i wneud iawn am fethu'r tro cynta - ddim yn ymwybodol, beth bynnag - ond roeddwn i'n falch iawn i 'Nhad fyw i 'ngweld yn ennill fy Noethuriaeth gyntaf.
Ar ôl barddoni yn yr 1970au a'r 1980au, daeth y cerddi i ben wedi i chi symud i'r Alban ac Awstralia. Ai bod i ffwrdd o Gymru laddodd yr awen, a sut daeth yn ei ôl?
Nid yn gymaint bod i ffwrdd o Gymru a laddodd yr awen ond colli cysylltiad â beirdd eraill. Dw i'n cofio'n union pryd ddihunodd yr awen. Digwydd cwrdd â Geraint Lövgreen ar drothwy Steddfod yr Wyddgrug 2007, ac yntau'n dweud bod Iwan Llwyd ar y ffôn yn chwilio am aelod arall i'w dîm ymryson. Rhoes y ffôn i mi a ches fy mhenodi. A dyna ail sefydlu fy nghysylltiad â nifer o feirdd fu'n gyfeillion cyn i mi ddiflannu i grwydro byd.
Rydych chi wedi cyd-weithio gyda'r artist Iwan Bala ar y gyfrol Rhwng Pla a Phla, sy'n ymateb i Brexit a Covid-19. Mae beirdd Cymraeg yn aml yn trafod materion cyfoes yn eu gwaith, oes digon o wleidyddiaeth yng ngwaith creadigol Cymru tu hwnt i farddoniaeth?
Dwi'n meddwl bod ein cerddoriaeth a'n celfyddydau'n gyffredinol yn adlewyrchu'n eitha' cadarn ein sefyllfa wleidyddol erbyn hyn, ond dw i'n falch ein bod yn gallu dathlu serch, cymdeithas, ffydd a phethau eraill hefyd.
Er bod fy nghyfrol ddiweddaraf i ac Iwan yn drwm o wleidyddiaeth, byddai'n celfyddydau'n o ddiflas pe na allem edrych i gyfeiriadau eraill yn ogystal!
Petaech chi'n gallu bod yn unrhyw fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?
Gerard Manley Hopkins, oherwydd ei arddull unigryw a'r modd y mae'n gallu cyfleu rhythmau'r canu caeth Cymraeg yn y Saesneg. Ond hoffwn i fod yn Hopkins a feistrolodd y gynghanedd yn y Gymraeg (fe wnaeth arbrofi, ond heb fod yn gwbl lwyddiannus), achos dw i'n credu y byddai wedi gallu creu campweithiau.
Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?
Ymson Ynghylch Amser, R Williams Parry. Mae amser wedi fy rhyfeddu a'm trwblo erioed a dw i'n credu mai'r soned hon yw un o'r myfyrdodau mwyaf ingol ar y pwnc.
Beth sydd ar y gweill ar hyn o bryd?
Mae'r cerddi ar y cyfryngau cymdeithasol yn prysur gronni tuag at gyfrol arall. Ond rhyw lun ar hunangofiant ddylai ddod nesaf, dw i'n meddwl.
Hefyd o ddiddordeb: