Marwolaeth AS: 'Rhaid newid' iaith y byd cyhoeddus

  • Cyhoeddwyd
Keyframe #1
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn caledu safbwyntiau pobl, meddai Alun Michael, Comisiynydd Heddlu De Cymru

Mae "angen newid yr iaith" sy'n cael ei defnyddio yn y byd gwleidyddol, newyddiadurol ac ar y cyfryngau cymdeithasol, yn sgil marwolaeth Syr David Amess AS.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Alun Michael, bod yr iaith a ddefnyddir gan bobl wedi caledu.

Cafodd Syr David Amess AS ei drywanu tra'n cwrdd ag etholwyr ddydd Gwener, ac mae dyn wedi ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Yn y cyfamser, mae Heddlu De Cymru wedi arestio dyn mewn cysylltiad â neges yn bygwth bywyd AS Rhondda, Chris Bryant.

Pobl yn anghofio yn 'gyflym iawn'

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast dywedodd Mr Michael: "Dwi'n meddwl ei bod yn bwysig edrych ar yr iaith 'dan ni'n ddefnyddio... rhaid i ni newid iaith dadlau gwleidyddol yn gyffredinol.

"Rhaid newid yr iaith sy'n digwydd rhwng pleidiau ond hefyd mae newyddiaduraeth wedi polareiddio ac mae effaith social media lle gall pobl galedu syniadau a chymryd safbwynt heb edrych ar ffeithiau yn gyffredin - mae hynna'n broblem fawr.

"Mae social media yn rhywbeth sy'n rhoi cyfle i bobl ddadlau pethau - ond mae hynna yn gallu caledu safbwyntiau pobl ac mae'r cyfan yn arwain at ddadlau."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bwysig nad yw'r ymosodiadau ar Jo Cox ac eraill yn cael eu hanghofio, meddai Alun Michael

Ychwanegodd Mr Michael ei fod yn bwysig cofio am erchylltra digwyddiadau yn erbyn gwleidyddion, a'i fod yn poeni bod rhai digwyddiadau yn cael eu hanghofio yn rhy fuan.

"Dwi'n meddwl y bydd pobl yn gyflym iawn yn anghofio beth sydd wedi digwydd - dim just beth sydd wedi digwydd i David Amess ond Jo Cox a Stephen Timms hefyd a phobl eraill yn y gorffennol - rhaid i ni gadw hynna yn y canol."

Wrth gael ei holi beth ddylid ei wneud am ddiogelwch gwleidyddion dywedodd bod hi'n "anodd iawn cael y balans".

"Mae Aelodau Seneddol, Aelodau o'r Senedd a chynghorwyr ledled Cymru yn gweithredu ar ran etholwyr.

"Fuaswn i, fel rhywun etholedig fy hun, ddim yn hoffi colli'r elfen o gwrdd â phobl ar y stryd, rhedeg syrjeris a chael y math yna o gysylltiad gyda phobl.

"Ond mae pobl yn anghofio bod aelodau etholedig ym Mhrydain yn llawer iawn mwy agored nag yn y rhan fwyaf o'r byd - mae'n bwysig trio cadw hynna."

Disgrifiad,

Jane Dodds: 'Ges i brofiad ofnadwy bythefnos yn ôl'

Ychwanegodd: "Dros y penwythnos mae'r heddlu wedi cysylltu ag ASau i edrych ydyn nhw'n teimlo'n saff ac i weld os mwy all yr heddlu ei wneud i sicrhau diogelwch.

"Ond fel dwi'n dweud mae'r cyfan yn ymwneud â dangos parch i'r rhai sy'n cael eu hethol - mae hynna'n bwysig iawn. Rhaid i ni edrych ar iaith y ddadl."

'Pob un' wedi cael bygythiadau

Dywedodd David TC Davies, AS Mynwy sy'n weinidog yn Swyddfa Cymru, hefyd ei fod yn credu bod rhaid bod yn ofalus am y defnydd o iaith.

"Mae pob un ohonom ni'n cael death threats, rwy' wedi cael death threats - dylen ni ddim derbyn hynny ond mae'n digwydd.

"Mae'n bwysig fod pob un ohonon ni yn y Senedd yn ofalus am yr iaith ry'n ni'n ei ddefnyddio."

Wrth siarad gyda BBC Radio Wales, fe wnaeth Natasha Asghar, AS Dwyrain De Cymru, ddisgrifio ymosodiad wrth weithio yn swyddfa ei thad, Mohammad (oedd yn cael ei adnabod fel Oskar), oedd yn aelod o'r Senedd ar y pryd.

"Daeth y dyn yma i mewn, ac o'n i ar ben fy hun, a daeth y dyn lan a gofyn 'Ble mae Oskar? Ble mae Oskar?'" meddai.

"Fe wnaeth e dal fi gerfydd fy ngwddf a dwi'n cofio fo'n gwthio fi yn erbyn y wal a dywedodd 'dwi eisiau gwybod pam wnaeth o adael y blaid'.

"Mae 'na gymaint o bobl grac o gwmpas, ac mae gan bawb farn ar rywbeth.

"Mae pobl weithiau'n anghofio bod ni'n bobl yn ogystal â gwleidyddion, gyda theuluoedd, gyda ffrindiau, gyda chyd-weithwyr a staff, mae'n effeithio arnyn nhw hefyd," ychwanegodd.

Brynhawn Llun bydd ASau yn ymgynnull yn Nhŷ'r Cyffredin i roi teyrngedau i Syr David Amess ac yna fe fydd gwasanaeth yn cael ei gynnal drws nesaf yn Eglwys St Margaret's.