Tystiolaeth newydd yn achos llofruddiaethau Clydach

  • Cyhoeddwyd
Cafodd David Morris ei garcharu am oes am lofruddiaethau ClydachFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd David Morris ei garcharu am oes am lofruddiaethau Clydach

Fe ddywed yr heddlu bod adolygiad fforensig o achos llofruddiaethau Clydach yn 1999 wedi darganfod "canfyddiadau sylweddol" yn cysylltu David Morris i safle'r troseddau.

Cafodd Morris, 59, a fu farw ym mis Awst, ei gyhuddo yn 2002 o lofruddio pedwar aelod o'r un teulu yn y pentref ger Abertawe yn 1999.

Dechreuodd adolygiad fforensig newydd o dystiolaeth yr achos nol ym mis Ionawr.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod yr ymchwiliad annibynnol wedi canfod cysylltiad rhwng Morris a hosan gafodd ei darganfod yn safle'r troseddau, ac mai dyma'r dystiolaeth fforensig gyntaf i gysylltu Morris gyda'r safle yn Kelvin Road, Clydach.

Cafodd amheuon eu codi dros euogfarn Morris ym mis Hydref 2020 ar ôl i fwy o lygad dystion posib gael eu canfod, ac wrth i arbenigwyr gynnig safbwyntiau gwahanol o'r achos.

Ond dywedodd Heddlu De Cymru bod yr adolygiad wedi creu cysylltiad gwyddonol rhwng Morris a'r troseddau, gyda nifer yn cytuno y cafodd yr hosan ei defnyddio gan y llofrudd.

Ychwanegodd yr heddlu er bod cysylltiad i Morris - neu berthynas gwrywaidd o'i linach dadol - wedi'i ganfod, maen nhw'n methu canfod pryd neu sut y cafodd proffil DNA Morris ei drosglwyddo i'r hosan.

Yn ôl gwyddonwyr, mae'n "fwy tebygol" na ddim bod Morris wedi cyfrannu at y proffil DNA gafodd ei ddarganfod ar yr hosan.

Pynciau cysylltiedig