Colli plentyn: 'Allwn i ddim byw' heb gefnogaeth elusen
- Cyhoeddwyd
"Mae bywyd wedi bod yn hunllefus ers i fi golli Kieran y mab ddechrau 'leni - ro'dd ei farwolaeth mor sydyn ac annisgwyl ond mae cael help yn lleddfu rywfaint ar y sefyllfa."
Bu farw Kieran Rhys Lewis Mattick, 21, yn annisgwyl yn Aberystwyth ar 17 Ionawr - dyw'r cwest i'w farwolaeth ddim eto wedi'i gynnal.
Mae ei fam, Rhian Lewis, ymhlith nifer sy'n derbyn cymorth gan elusen 2 Wish Upon a Star - sy'n helpu teuluoedd sy'n colli plant a phobl ifanc yn annisgwyl.
Brynhawn Mercher bydd dadl yn y Senedd wedi i filoedd arwyddo deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynorthwyo teuluoedd sy'n colli plant a phobl ifanc dan y fath amgylchiadau.
Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn ddiweddar wedi sefydlu fframwaith newydd ar gyfer sicrhau gofal yn ystod galar a bod hwnnw yn cael ei gefnogi gan grant o £1m sydd ar gael i ddarparwyr gofal y trydydd sector.
"Bydd £420,000 yn ychwanegol o arian ar gael i fyrddau iechyd," medd llefarydd.
'Meddwl amdano bob dydd'
"Allwn i ddim byw heb gefnogaeth," medd Ms Lewis.
"Dim ond ffonio yr elusen sydd eisiau ac maen nhw yna i fi o fewn dim - ma' nhw'n ffonio nôl ac yn galw i'm gweld wyneb yn wyneb hefyd.
"Mae'r cwnselydd sydd gen i yn really special - beth arall sy'n dda yw bod modd siarad â phobl eraill sy'n mynd drwy brofiad tebyg.
"Fyddai'n colli fy mhlentyn i am byth - fe oedd y pedwerydd plentyn mas o bump. 'Wi'n meddwl amdano bob dydd a methu cysgu'r nos ond mae cael rhywun yna i wrando yn help mawr."
Mae'r ddeiseb wedi casglu 5,682 o lofnodion ac yn cael ei chyflwyno gan Rhian Mannings, sefydlydd elusen 2 Wish Upon a Star.
Ym mis Chwefror 2012, bu farw ei mab, George, mewn uned frys ac o fewn dyddiau bu farw ei gŵr drwy hunanladdiad.
"Ers 2012, rwyf wedi bod yn benderfynol o sicrhau bod teuluoedd yn cael yr un cymorth wrth ffarwelio â'u plant ag a gânt pan fyddant yn cael eu croesawu i'r byd adeg eu genedigaeth," medd Ms Mannings.
Fe sefydlodd hi'r elusen yn 2015, ac mae'r cymorth yn cynnwys creu blychau atgofion, cwnsela a sefydlu llwybr cymorth ar y cyd â byrddau iechyd a heddluoedd.
Mae'r elusen wedi helpu cannoedd o deuluoedd ond mae'r tîm yn poeni nad yw pob teulu'n cael eu cyfeirio atynt.
"Rydym wedi clywed am staff sy'n 'anghofio' rhoi blychau atgofion i rieni, yn penderfynu nad oes angen cymorth ar deulu bachgen 18 oed gan ei fod 'wedi dechrau eillio' ac sy'n credu 'nad yw'n briodol' cynnig cymorth adeg marwolaeth plentyn," ychwanegodd Ms Mannings.
"Rydyn ni'n gwybod, wrth siarad â staff a theuluoedd, fod ein gwasanaeth yn newid bywydau'r rhai sydd wedi colli plentyn neu berson ifanc yn annisgwyl, ac rydym am i Lywodraeth Cymru wneud yn siŵr bod cymorth ar gael i bob teulu pan fydd ei angen fwyaf."
Un fydd yn cefnogi'r ddeiseb yn y Senedd ddydd Mercher fydd Nadine Marshall - mam Conner, a gafodd ei lofruddio yn 2015.
"Mae cael cefnogaeth mor bwysig pan mae rhywun yn colli plentyn yn sydyn," meddai wrth siarad â Cymru Fyw.
"Ry'n ni wedi cael cefnogaeth y tu hwnt i bob disgwyliad gan 2 Wish - maen nhw wedi trefnu therapi amgen, cwnsela a chyfeillgarwch."
"Mae cwrdd â theuluoedd eraill sydd, yn anffodus, yn wynebu yr un profiad â ni wedi bod o help a gwybod bod yna rywun yna sy'n fodlon gwrando ar unrhyw adeg o'r dydd.
"Mae mor bwysig bod teuluoedd yn cael cefnogaeth ar adeg sy'n newid eu bywydau am byth. Mae cymorth arbenigol yn hanfodol ac yn rhywbeth dylai pob teulu sy'n colli plant, yn sydyn, ei dderbyn."
Yn gynharach eleni fe wnaeth nifer o rieni plant a fu farw drwy hunanladdiad alw am gymorth gan Lywodraeth Cymru wedi i Lywodraeth Yr Alban ariannu cynllun peilot a fydd yn rhoi cefnogaeth i deuluoedd am ddwy flynedd.
Fore Mercher dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae colli plentyn yn brofiad erchyll ac ry'n am sicrhau ein bod yn rhoi cefnogaeth a gofal angenrheidiol i deuluoedd.
"Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ry'n wedi cydweithio â nifer o elusennau gan gynnwys 2Wish er mwyn adolygu a gwella ein gwasanaethau galaru i deuluoedd yng Nghymru.
"Ry'n hefyd wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i gael barn pobl ac o ganlyniad i hynny wedi lansio fframwaith newydd ar gyfer sicrhau gofal yn ystod galar. Mae'r fframwaith yn nodi pa gefnogaeth y dylai pobl sy'n wynebu profedigaeth ei derbyn.
"Mae'r fframwaith yn cael ei gefnogi gan grant o £1m sydd ar gael i ddarparwyr gofal y trydydd sector a bydd £420,000 yn ychwanegol o arian ar gael i fyrddau iechyd."
Cafodd y ddeiseb ei chyflwyno yn 2019. Yn 2020 fe wnaeth y Pwyllgor Deisebau benderfynu y dylai'r trothwy o 5,000 o lofnodion gynyddu i 10,000 cyn bod modd cael dadl ar ddeiseb yn y Senedd.
Mae pob deiseb sydd â thros 50 o lofnodion yn cael ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2021
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2020