Heddlu dillad cyffredin i batrolio bariau'r gogledd

  • Cyhoeddwyd
Clwb nosFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd heddlu dillad cyffredin ar ddyletswydd mewn bariau yn Wrecsam a Sir Fflint cyn y Nadolig fel rhan o ymgyrch i ddiogelu merched gyda'r nos.

Bydd y swyddogion yn gyfrifol am adnabod merched bregus a chwilio pobl am sylweddau i sbeicio diodydd.

Hwn fydd yr ymgyrch cyntaf o'r math yma yng Nghymru.

Cafodd yr ymgyrch ei gyhoeddi gan Heddlu Gogledd Cymru a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd y Gogledd, Andy Dunbobbin.

Dywedodd Mr Dunbobbin y byddai defnyddio swyddogion dillad cyffredin yn atal troseddwyr rhag gwybod a ydyn nhw'n cael eu gwylio.

Bydd £202,000 yn mynd tuag at lansio'r ymgyrch.

Sut fydd yr ymgyrch yn gweithio?

Bydd y tîm o swyddogion yn cynnwys pedwar swyddog yn eu lifrau, dau swyddog dillad cyffredin, a sarjant. Yn ôl yr heddlu, bydd o leiaf un o'r rhain yn ferch.

Bydd swyddogion yn sicrhau fod merched bregus yn cael eu cludo adref gan unigolyn cyfrifol.

Hefyd, bydd tîm o staff drws yn cael ei osod i wylio safleoedd tacsi ar nosweithiau Gwener a Sadwrn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd tîm yn gwylio safleoedd tacsi ar nosweithiau Gwener a Sadwrn

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd fod pobl yn cael mwy o drafferth i gael tacsi adref gyda'r nos oherwydd diffyg gyrwyr, a'u bod felly'n fwy tebygol o geisio mynd adref ar ben eu hunain.

Hefyd yn rhan o'r ymgyrch bydd deunydd i addysgu bechgyn a rhieni am gam-drin rhywiol.

Bydd ffilm fer yn cael ei chreu fydd yn "rhoi'r bai ar y troseddwyr," yn ôl yr heddlu.

Cafodd yr ymgyrch ei ddyfeisio gan Heddlu Northumbria ddwy flynedd yn ôl.

Fe wnaeth Heddlu Northumbria dreialu'r ymgyrch yn ninas Newcastle. Yn dilyn y prawf, fe adroddon nhw gwymp o 30% mewn ymosodiadau rhyw difrifol.

Yn ôl Prif Arolygydd Heddlu Northumbria, Stephen Wykes, mae'r ffigyrau'n awgrymu fod yr ymgyrch yn effeithiol.

'Eisiau i bobl gallu mwynhau'n ddiogel'

"Mae nifer pryderus o ymosodiadau rhywiol wedi cael eu hadrodd dros y blynyddoedd diweddar," meddai Mr Dunbobbin, sydd wedi "effeithio ar hyder merched wrth fynd allan ar ben eu hunain."

Fis Hydref, cafodd protestiadau am ddiogelwch merched eu sbarduno gan nifer o adroddiadau o ferched yn cael eu sbeicio gyda'r nos, gan gynnwys honiadau o sbeicio drwy nodwydd.

"Rydyn ni am i bobl fedru mwynhau mewn ffordd cyfrifol a, mwy na dim, i fedru cyrraedd adref yn ddiogel," meddai Mr Dunbobbin.

"Rydyn ni'n credu gall cael mwy o lygaid ar y strydoedd wneud gwahaniaeth."

Fis diwethaf fe wnaeth Mr Dunbobbin lansio Ymgyrch Strydoedd mwy Diogel yn Wrecsam, sydd yn anelu at leihau'r nifer o achosion o drais yn erbyn merched gan 10%.