Pum munud gyda'r bardd Grug Muse
- Cyhoeddwyd
Mae hi wedi astudio gwleidyddiaeth yn y Weriniaeth Siec, sefydlu gwasg annibynnol yng Nghymru ac yn credu bod angen diogi a sgwrsio cyn mynd ymlaen i achub y byd.
Bardd Mis Rhagfyr Radio Cymru ydi Grug Muse, o Ddyffryn Nantlle.
Diwrnod i'r Brenin oedd un o straeon byr Kate Roberts, gafodd ei magu yn eich ardal chi. Beth fyddai eich diwrnod perffaith chi?
Bod fyny yn y mynyddoedd mae'n siŵr, rywle yn y Rhinogydd neu'r Moelwynion, efo bivvy bag a siwt nofio.
Fe wnaethoch astudio gwleidyddiaeth yn y Weriniaeth Tsiec, gwlad lle mae llenyddiaeth a'r celfyddydau wedi chwarae rôl bwysig mewn cyfnodau o ormes gwleidyddol. Pa mor bwysig ydi gwleidyddiaeth mewn llenyddiaeth i chi?
Mae'r Weriniaeth Tsiec yn ddifyr - mewn ffordd, nid gwleidyddiaeth mewn llenyddiaeth sydd ganddyn nhw, ond llenyddiaeth mewn gwleidyddiaeth. Hynny ydi, mae 'na hanes cryf o artistiaid a llenorion yn gweithredu yn wleidyddol yn ogystal ag ymdrin â gwleidyddiaeth yn eu gwaith.
Gwyn yw byd y sawl sydd ddim yn gorfod sgwennu am wleidyddiaeth, neu gynnwys elfennau gwleidyddol yn eu gwaith. Mae dewis sgwennu yn y Gymraeg o gwbwl yn medru bod yn weithred wleidyddol, mewn byd lle mae'r Gymraeg wedi ei lleiafrifo, ac o fewn system gyfalafol sy'n gyrru y farchnad i gynhyrchu cynnyrch efo apêl mor eang a phosib er mwyn cynyddu elw.
Mae sgwennu natur yn wleidyddol mewn byd sy'n mynd trwy argyfwng hinsawdd. A dwi'n meddwl fod sgwennu serch yn gallu bod y sgwennu mwyaf gwleidyddol sy'n bod.
Fel gweithiwr yn y maes gweithredu hinsawdd sydd hefyd wedi ysgrifennu am yr amgylchedd, pa newidiadau ydych chi wedi eu gwneud i'ch bywyd bob dydd sydd er lles y blaned?
Mewn bywyd dydd i ddydd, fel unigolyn, dwi'n trio meddwl mwy am faint ydw i'n ei dreulio neu ei gronni. Hynny ydi, y dillad sydd gen i yn fy nghwpwrdd, y bwyd dwi'n ei fwyta, y stwffiach sy'n casglu yn y tŷ. O lle maen nhw'n dod, pwy sydd wedi eu gwneud nhw, o be' maen nhw wedi eu gwneud, a faint ohono fo ydw i wir ei angen?
Ond ar ddiwedd y dydd, cyfalafiaeth sydd wedi achosi newid hinsawdd, ac mae angen i ni ganfod ffyrdd newydd o strwythuro ein bywydau y tu allan i gyfalafiaeth - er budd yr hinsawdd, ond hefyd er mwyn dad-goloneiddio, difa systemau hiliol, cael gwared â phatriarchiaeth, a'r holl systemau gorthrymol 'ma sy'n hambygio'r blaned yn ogystal â bodau dynol.
Ma' rhaid i'r math yma o newid ddigwydd ar y cyd, ond falle 'na'r peth gore all unigolyn ei wneud ydi chwilio am lonyddwch, pendwmpian, breuddwydio, diogi, sgwrsio, a wedyn uno. Dod at ein gilydd.
Pam wnaethoch chi sefydlu Cyhoeddiadau'r Stamp?
Trwy ddamwain mewn ffordd. Roedd cylchgrawn y Stamp wedi datblygu, ond roedden ni yn gweld fod ein diddordeb ni wedi symud at yr ochr gyhoeddi, ac at weithio efo llenorion ac artistiaid ar greu darnau unigol o waith. Felly dyna ddod â'r cylchgrawn i ben i ganolbwyntio ar y cyhoeddi.
Petaech chi'n gallu bod yn unrhyw fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?
Cwestiwn da. Fyswn i'n hoffi gwybod mwy am fywyd Margaret Davies (1700-1783?), Coetgau-du, Trawsfynydd, oedd yn fardd, copïydd ac athro barddol. Mi fasa cael byw diwrnod yn ei hesgidiau hi yn ddifyr iawn.
Ychydig iawn ydan ni'n wybod am feirdd benywaidd y cyfnod, ac os oedd yna fwy ohonyn nhw o gwmpas nag sydd efo gwaith wedi goroesi. Dwi'n ryw amau y bysa Margaret yn un dda i roi rywun ar ben ffordd o ran hynny.
Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?
Rywbeth fel yr anthem, fel mod i'n cael taliad bob tro mae hi'n cael ei chware ar S4C, wedyn allwn i ymddeol yn 28 a threulio fy nyddia' yn pendwmpian a phigo blewiach o 'motwm bol.
Beth sydd ar y gweill ar hyn o bryd?
Dwi newydd gyhoeddi fy ail gyfrol, merch y llyn, felly yn brysur yn hyrwyddo a hwrjo honno ar bawb. Dwi dal i weithio ar fy noethuriaeth, ac yn pasa cyflwyno hwnnw cyn diwedd y flwyddyn - hei lwc!
Wedyn dwi hefyd yn gweithio ar ddyddlyfr taith, ac ar gasgliad o ysgrifau. Dwi hefyd yn cydweithio ar gyfnodolyn barddoniaeth newydd o'r enw ffosfforws, ac mae'r rhifyn cyntaf ar fin ymddangos, dan olygyddiaeth Ciarán Eynon.