Pryder am oedi wrth ddarparu brechlyn atgyfnerthu

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Brechlyn.
Disgrifiad o’r llun,

Fe rybuddiodd meddyg teulu y gallai'r sefyllfa waethygu wrth i fwy o bobl ddod yn gymwys am frechlyn atgyfnerthu.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cadarnhau fod ganddynt 50% yn llai o staff yn darparu brechlynnau Covid-19 erbyn hyn o'i gymharu â'r rhaglen frechu yn gynharach eleni.

Dywedodd Dr Phil White wrth raglen Dros Frecwast ei fod yn poeni am oedi yn y ddarpariaeth o'r brechlynnau hyn.

Yng Ngwynedd, mae hyn yn golygu fod angen i gleifion mewn ardaloedd gwledig deithio ymhellach er mwyn cael eu trydydd brechlyn.

Fe rybuddiodd Dr White y gallai'r sefyllfa waethygu wrth i fwy o bobl ddod yn gymwys am frechlyn atgyfnerthu.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi ddechrau'r wythnos y byddai'r cynnig o frechlyn atgyfnerthu'n cael ei ymestyn i bobl dros 40.

'Llai o staff a chanolfannau'

Yn ôl Dr White, roedd llawer o staff y rhaglen frechu wreiddiol wedi eu trosglwyddo o swyddi eraill yn y gwasanaeth iechyd ac maen nhw bellach wedi mynd yn ôl i'w swyddi "am ein bod ni'n trio cael y gwasanaeth iechyd 'nôl i weithio'n iawn".

Yn ogystal, dywedodd fod nifer o'r lleoliadau gafodd eu defnyddio fel canolfannau brechu bellach wedi eu newid yn ôl i'w pwrpas arferol.

"'Dan ni mewn sefyllfa lle mae mwy a mwy o bobl angen y brechlyn, a llai o bobl a chanolfannau llai yn ei roi o."

Disgrifiad,

Cadeirydd pwyllgor meddygon teulu y BMA, Dr Phil White, oedd yn siarad ar Dros Frecwast

Dywedodd Dr White, cadeirydd pwyllgor meddygon teulu Cymdeithas Feddygol Prydain, ei fod yn poeni gymaint am y sefyllfa bod ei feddygfa wedi darparu brechlyn atgyfnerthu i holl breswyliaid cartref gofal lleol, er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud y dylai meddygon teulu ddychwelyd i'w gwaith o ddarparu gofal sylfaenol.

"Mi fedar meddygon teulu gwneud ychydig lle fedrwn ni, ond 'dan ni dan yr un pwysau o ran gweddill y gwaith ar y foment, a 'di o ddim yn mynd i fod yn hawdd iawn."

Ychwanegodd bod hyn yn dod ar adeg pan mae meddygon teulu dan bwysau i ddarparu brechlynnau ffliw a dal i fyny gyda'u gwaith cyffredinol.

'Sefyllfa ddim yn berffaith'

Yn dilyn y gostyngiad o 50% i'w gweithlu sy'n darparu brechlynnau Covid-19, dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei bod hi'n allweddol eu bod yn defnyddio'r staff sydd gennyn nhw mewn modd effeithiol er mwyn brechu'r rheiny sydd mewn grwpiau blaenoriaeth cyn gynted â phosib.

"Er bod y strategaeth ar sail clystyrau wedi arwain at rai cleifion yn cael eu gwahodd i deithio ymhellach ar gyfer eu hapwyntiad frechu, mae hyn wedi caniatáu rhaglen frechu mwy cyflym yn yr ardaloedd mwy ynysig," meddai'r bwrdd iechyd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl dros 40, staff meddygol rheng flaen a phobl sydd â chyflyrau iechyd penodol yn gallu cael brechlyn atgyfnerthu.

"Rydyn ni'n deall na fydd hi'n bosib i rai deithio'r pellteroedd hyn, ac mae sesiynau ychwanegol yn cael eu trefnu mewn amryw o leoliadau cymunedol er mwyn sicrhau fod modd i bob un o'n dinasyddion gael eu brechu.

"Rydyn ni'n cydnabod nad yw hyn yn sefyllfa berffaith ac rydyn ni wir yn gwerthfawrogi amynedd a dealltwriaeth pobl."

Mae pobl dros 40, staff meddygol rheng flaen a phobl sydd â chyflyrau iechyd penodol yn gallu cael brechlyn atgyfnerthu.

Y disgwyl yw y bydd pobl 40-49 oed naill ai'n cael brechlyn Pfizer neu hanner dos o frechlyn Moderna. Dylai'r brechlyn gael ei gynnig chwe mis wedi'r ail ddos.