I'm a Celeb: Lluniau o Gastell Gwrych yn ei oes aur

  • Cyhoeddwyd
castell
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r set ar gyfer y gyfres wedi ei leoli mewn castell 200 oed

Bydd y gyfres deledu ITV I'm a Celebrity... Get Me Out of Here yn dychwelyd i Gastell Gwrych ger Abergele am yr eildro nos Sul 21 Tachwedd.

Ymysg y sêr fydd yn byw yn y castell sydd wedi mynd â'i ben iddo mae'r cyflwynwyr teledu Richard Madeley a Louise Minchin.

Mae'n debyg mai lle oeraidd ac anghynnes fydd y castell Gothig i selebs y gyfres, ond roedd Castell Gwrych yn gastell ysblennydd yn ei ddydd.

Cymru Fyw aeth i chwilota, er mwyn darganfod sut le oedd Castell Gwrych cyn ei ddirywiad.

Mae darlun gan H Gastineau yn Wales Illustratedyn 1831 yn dangos yr adeilad yn newydd sbon a gwartheg yn pori ar y caeau gwastad o'i flaen yn ymestyn hyd at arfordir gogledd ddwyrain Cymru, lle mae'r A55 yn rhedeg heddiw.

Ffynhonnell y llun, CBHC
Disgrifiad o’r llun,

Ysgythriad o Gastell Gwrych yn 1831. Hawlfraint y goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

"Set theatrig fwriadol ffug" yw'r castell a gafodd ei adeiladu rhwng 1812 a 1825, a'i gynllunio i edrych fel cadarnle canoloesol enfawr. Roedd yn drawiadol iawn gyda thyrau a waliau uchel wedi eu hadeiladu ar hyd y graig a gerddi, coed a pharc ceirw o'i gwmpas.

Mae maint llawn a lleoliad y castell yn cael ei ddangos mewn lluniau a dynnodd y Comisiwn Brenhinol o'r awyr yn 1932.

Ffynhonnell y llun, cbhc
Disgrifiad o’r llun,

Y castell o'r awyr yn 1932. Hawlfraint y goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Lloyd Hesketh Bamford-Hesketh a gododd y castell fel cofeb i deulu ei fam, y Llwydiaid o Blas yn Gwrych a oedd yn deulu o uchelwyr Cymreig amlwg. Roedd hen gartref o gyfnod oes Elizabeth, Y Fron, wedi mynd â'i ben iddo ar y safle pan ddechreuwyd yr adeiladu.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Y castell yn ei oes aur. Llun Prifysgol Bangor

Pasiodd y castell i'r olaf o deulu'r Llwydiaid, Winnifred Bamford-Hesketh, neu Duges Dundonald; siaradwraig Gymraeg fel ei rhieni oedd yn frwd dros ddiwylliant Cymraeg. Cafodd ei derbyn i'r orsedd fel 'Rhiannon'.

Mae dau lun cynnar yn dangos dau ddyn mewn hetiau smart wrth fynedfa'r castell. Maen nhw wedi eu dyddio, yn ôl steil yr hetiau, i tua 1900.

Ffynhonnell y llun, cbhc
Disgrifiad o’r llun,

Hawlfraint y goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Daw'r ail lun, sydd o bosib yn dangos yr un dyn ar y chwith, o sleid stereosgopig a oedd yn boblogaidd tua diwedd oes Fictoria.

Ffynhonnell y llun, cbhc
Disgrifiad o’r llun,

Hawlfraint y goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Pan fu farw Winifred, Duges Dundonald, yn 1924 gadawodd y stad gyfan i'r Eglwys yng Nghymru.

Wedi'r Ail Ryfel Byd roedd y lle yn lloches i 200 o blant Iddewig.

Mae llun gan G B Mason, un o ffotograffwyr pensaernïol mwyaf blaenllaw ei ddydd, yn dangos y castell â baneri'n crogi ar y tu allan yn 1953 ar achlysur coroni brenhines Elizabeth II.

Ffynhonnell y llun, cbhc
Disgrifiad o’r llun,

Y castell yn 1953. Hawlfraint y goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Mae llun o'r awyr a dynnwyd yn 2015 yn dangos nad oes to ar y castell.

Ffynhonnell y llun, cbhc
Disgrifiad o’r llun,

Y castell heb do yn 2015. Hawlfraint y goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Wedi blynyddoedd o ddirywiad pellach, cafodd y castell ei brynu gan Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwyrch, dan arweiniad gŵr lleol, Mark Baker, yn 2018. Eu nod yw adfer y castell a'i gadw i'r blynyddoedd i ddod.

Mae llawer o waith eto i'w wneud i adfer y castell, a heb wydr yn yr hen ffenestri ffug-Gothig bydd y nosweithiau'n oer i'r 10 cystadleuydd dros fis Tachwedd a Rhagfyr!

Ffynhonnell y llun, CBAH
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r ffenestri Gothig. Hawlfraint y goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Cyhoeddwyd rhannau o'r erthygl yma'n wreiddiol ym mis Tachwedd, 2020.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig