Ymchwiliad Covid: 'Angen ymgynghoriad cylch gorchwyl'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
staff meddygolFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi galw ar brif weinidog y DU i gynnal "ymgynghoriad cyhoeddus ystyrlon" i osod y cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad Covid y DU.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru'n gwrthsefyll pwysau gan wrthbleidiau a theuluoedd sydd wedi colli anwyliaid i gynnal ymchwiliad penodol ar wahân yng Nghymru.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo prif weinidog Cymru o geisio "gwrthdaro â Llywodraeth Prydain i guddio ei wrthwynebiad syfrdanol i ymchwiliad cyhoeddus i'r pandemig yma yng Nghymru".

Dywedodd Plaid Cymru bod "brys i sefydlu ymchwiliad tra bod atgofion yn parhau i fod yn ffres".

Mewn llythyr dywed Mr Drakeford ei bod yn "bwysig iawn dangos" i'r rhai sy'n galw am ymchwiliad Cymreig "y bydd ymchwiliad y DU yn clywed eu pryderon ac yn mynd i'r afael â'r materion y maen nhw'n eu codi".

Mae ymchwiliadau cyhoeddus yn y DU, o bryd i'w gilydd, yn ymgynghori ag aelodau'r cyhoedd ar eu cylch gorchwyl, ond mae hynny'n digwydd fel arfer pan fo'r partïon â diddordeb yn grŵp diffiniedig, ac yn gymharol gyfyngedig o ran niferoedd.

'Colled a chaledi'

Yn y llythyr dywed Mr Drakeford wrth Boris Johnson: "Rwy'n parhau o'r farn mai dim ond trwy eu gweld yng nghyd-destun tirwedd gyfreithiol a pholisi ehangach y DU y gellir sicrhau dealltwriaeth gywir o benderfyniadau llywodraethol sy'n effeithio ar bob un o'r llywodraethau datganoledig."

Dywed y dylai pob teulu sydd "wedi dioddef colled a chaledi o ganlyniad i'r pandemig" fod wrth wraidd y broses gyda "mynediad cyhoeddus llawn a chyfranogiad y cyhoedd".

"Rwy'n gobeithio y gall yr ymchwiliad amlygu'r didwylledd hwn ar y dechrau trwy gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ystyrlon ar y cylch gorchwyl."

Ailadroddodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig eu galwadau am ymchwiliad Cymreig:.

"Rydyn ni wedi bod yn weddol hyderus ers nifer o fisoedd nawr y byddai prif weinidog Cymru, ar ôl sylweddoli nad yw'n unol â barn y cyhoedd, yn ceisio gwrthdaro â Llywodraeth Prydain i guddio ei wrthwynebiad syfrdanol i ymchwiliad cyhoeddus i'r pandemig yma yng Nghymru," meddai.

"Cafodd penderfyniadau a wnaed ym Mae Caerdydd - da a drwg - effaith uniongyrchol ar fywydau ledled Cymru ac ni ellir eu diystyru gan weinyddiaeth Lafur a oedd yn awyddus i bwysleisio ar bob cyfle eu bod wedi gwneud pethau'n wahanol."

'Brys'

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth bod yr amser y mae Mark Drakeford yn treulio ar "barhau i geisio sicrwydd" gan Boris Johnson, yn "amser y gellid bod wedi'i dreulio yn sefydlu ymchwiliad penodol i Gymru".

"Gofynnodd Plaid Cymru am waith rhagarweiniol mor bell yn ôl â haf 2020 yn union oherwydd ein bod yn gweld y brys i sefydlu ymchwiliad tra bod atgofion yn parhau i fod yn ffres.

"Mae'r prif weinidog yn parhau i ymgysylltu ei hun ag ymchwiliad yn y DU, ond yr hyn sy'n amlwg bellach yw nad oes gennym ni eto'r sicrwydd, a geisir gan gynifer o deuluoedd galarus, y bydd eu pryderon yn cael eu clywed."