Cyllid o dros £700,000 i astudio barddoniaeth Myrddin

  • Cyhoeddwyd
Myrddin

Mae prosiect a fydd yn astudio barddoniaeth Gymraeg a briodolir i'r bardd chwedlonol Myrddin wedi cael cyllid o £716,013 gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC).

Bydd y prosiect newydd yn archwilio'r berthynas rhwng y cerddi Cymraeg a gysylltir â Myrddin a thraddodiadau Arthuraidd ehangach.

"Er bod llawer o farddoniaeth sy'n gysylltiedig â Myrddin wedi goroesi mewn llawysgrifau, mae llawer ohoni yn anhygyrch - heb ei golygu a hefyd heb ei chyfieithu," meddai Dr Dylan Foster Evans, arweinydd y prosiect tair blynedd.

"Rydym am ymroi i sicrhau bod y gwaith ar gael i bawb mewn fformat digidol. Nod pellach i'r prosiect yw taflu goleuni newydd ar ddatblygiad barddoniaeth gynnar y Gymraeg a tharddiad chwedlau Myrddin ac Arthur."

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

"Rydym am ymroi i sicrhau bod y gwaith ar gael i bawb mewn fformat digidol," medd Dr Dylan Foster Evans

Bydd y prosiect yn sicrhau bod cynulleidfa newydd yn gweld y gwaith am y tro cyntaf.

"Ac o ystyried y diddordeb parhaus yn y chwedl Arthuraidd ym myd ffilm a theledu, bydd y prosiect hefyd yn darparu i'r diwydiannau creadigol fewnwelediad newydd i'r ysbrydoliaeth y tu ôl i'r 'Merlin' chwedlonol," ychwanegodd Dr Foster Evans.

Bydd y prosiect yn cychwyn ym mis Mawrth ac mae'n cynnwys cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, a Phrifysgol Abertawe.

Bydd y tîm yn darllen thua chant o gerddi sy'n cynnwys ymhell dros 4,000 o linellau a byddant yn ymgynghori â channoedd o lawysgrifau, gan gynnwys y llawysgrif farddoniaeth gynharaf yn yr iaith Gymraeg, Llyfr Du Caerfyrddin (tua 1250).

'Propaganda politicaidd'

"Mae yna gorff mawr o farddoniaeth wedi ei briodoli i Fyrddin mewn llawysgrifau sy'n dyddio rhwng tua 1250 a 1800," meddai'r Athro Ann Parry Owen, aelod arall o'r tîm.

"Diogelwyd y cerddi cynharaf, tair ohonynt, yn Llyfr Du Caerfyddin, y llawysgrif Gymraeg gynharaf.

"Mae elfen gref o bropaganda politicaidd yr oes yn y gwaith, ac mae'n amlwg fod Myrddin wedi ei gysylltu â phroffwydoliaeth yn gynnar yn hanes ein llenyddiaeth.

"Dros y canrifoedd dilynol byddai'r beirdd yn aml yn cyfansoddi eu cerddi darogan yn llais Myrddin, wrth iddynt ymateb i gyfres o fygythiadau i'w gwlad gan y Saeson o'r dwyrain.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dalen o Lyfr Du Caerfyrddin a fydd yn cael sylw y tîm

"Yng nghwrs y prosiect byddwn ni'n edrych ar y cerddi diweddarach hynny ac yn gweld sut yr oedd cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o feirdd yn defnyddio llais Myrddin at eu pwrpas eu hunain.

"Mae'r farddoniaeth gynharaf yn astrus iawn - ac mae'n hen bryd ailedrych arni yng ngoleuni gwybodaeth newydd sydd gennym am iaith a barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol o ganlyniad i ymchwil prosiectau mawr fel Prosiect Beirdd y Tywysogion a Phrosiect Beirdd yr Uchelwyr, heb sôn am waith cwbl sylfaenol Geiriadur Prifysgol Cymru.

"Bydd modd edrych hefyd ar bwysigrwydd chwedl Myrddin a gosod y cerddi mewn cyd-destun Ewropeaidd ehangach. Mae'n mynd i fod yn waith cyffrous ac amlweddog iawn."

Wrth i'r gwaith golygu a chyfieithu fynd yn ei flaen, bydd cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal, gan gynnwys gwaith gydag ysgolion ac ystod o sefydliadau treftadaeth.