Datblygu bas-data o enynnau octopws i atal gor-bysgota
- Cyhoeddwyd
Mae gwyddonwyr o Gymru'n datblygu bas-data byd-eang o enynnau octopws mewn ymdrech i'w diogelu rhag cael eu gor-bysgota.
Ar hyn o bryd mae 'na gwyno nad yw rhywogaethau gwahanol yn cael eu hadnabod na'u cofnodi yn gywir pan maen nhw'n cael eu dal.
Mae angen offer olrhain newydd ar y sawl sydd ynghlwm â'r diwydiant bwyd môr, medd yr ymchwilwyr.
Bydd y gwaith o gynhyrchu'r data-bas yn cael ei arwain gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, gydag arian o Lywodraeth yr Unol Daleithiau.
Mae'n un rhan o brosiect sy'n cynnwys saith gwlad i geisio datblygu technoleg fforddiadwy i adnabod rhywogaethau ar gyfer pysgodfeydd octopws gwyllt oddi ar arfordir yr Unol Daleithiau ac o amgylch y byd.
Y bwriad yw creu ap ffôn fydd yn galluogi pawb sy'n ymwneud â'r gadwyn gyflenwi pysgod i gadw llygad ar o ble mae eu cynnyrch wedi dod a pha mor gynaliadwy ydyw.
Mae faint o bysgota sy'n digwydd am octopysau, sgwid a phenbedogion eraill - sy'n cael eu hadnabod hefyd fel pysgod inc am eu bod i gyd yn gallu chwistrellu'r hylif - wedi cynyddu'n sylweddol dros y chwe degawd diwethaf.
Ond mae prinder data ynglŷn â beth yn union sy'n cael ei ddal ac ym mhle wedi arwain at ofnau bod dyfodol rhai rhywogaethau mewn perygl, yn ogystal â chyflenwad o'r hyn sy'n cael ei ystyried fel ffynhonnell bwysig o fwyd llawn protein mewn rhai cymunedau.
"Mae olrhain a rhannu gwybodaeth ynghylch o ble ddaw ein bwyd môr yn rhan allweddol o'r ymdrechion i atal gor-bysgota," eglurodd Paul Shaw, Athro Geneteg a Genomeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac un o uwch-wyddonwyr prosiect Octopus+.
Fe fydd yn arwain y gwaith o lunio bas-data rhyngwladol o enynnau octopws, sef un o gyfres o "dechnolegau blaengar" sy'n cael eu dylunio gan dimau mewn gwledydd sy'n cynnwys yr Unol Daleithiau, De Affrica, Japan a Mecsico.
Mae rhan gynta'r prosiect wedi derbyn nawdd o $750,000 gan yr Unol Daleithiau.
"Y nod yw darparu prawf o gysyniad y gellir ei gyflwyno i'r diwydiant pysgota yn gyffredinol," meddai'r Athro Shaw.
"Felly, er y bydd y tîm yn canolbwyntio ar benbedogion, neu seffalopodau, y nod tymor hwy yw darparu system gynhwysfawr i alluogi cynaeafu, dosbarthu a phrosesu unrhyw eitem bwyd môr i'r defnyddiwr mewn ffordd a adnabyddir yn glir ac yn gynaliadwy."
Bydd y prosiect hefyd yn sefydlu "rhwydwaith gwyddoniaeth dinasyddion" i gasglu data newydd ar boblogaethau octopws o becynnau DNA amgylcheddol cludadwy.
Mae modd casglu DNA amgylcheddol drwy gymryd samplau o ddŵr môr - gan gynnig syniad o ba organebau sy'n gyffredin yn y cyffiniau.
Bydd y gwaith hwnnw'n cael ei arwain gan Brifysgol Loyola Marymount yn Los Angeles, California.
"Drwy weithio gydag ystod o bartneriaid a thechnoleg flaengar, rydym yn bwriadu cynhyrchu teclyn olrhain a fydd yn caniatáu gwell dealltwriaeth o'r rhywogaethau sy'n cael eu dal, ffynhonnell y cynnyrch, a chadarnhad o'i lwybr cyfreithlon o'r bysgodfa i'r fforc," eglurodd yr athro cynorthwyol Demian Willette.
'Llawer i'w ddysgu'
Bydd 14 o bartneriaid o fyd diwydiant - yn bysgotwyr a phroseswyr bwyd môr - yn helpu i brofi dyluniad yr offeryn olrhain newydd wrth iddo gael ei ddyfeisio.
Daeth croeso i'r cyhoeddiad gan rai o arweinwyr y diwydiant bwyd mor yng Nghymru, gyda Nia Griffith, rheolwr Clwstwr Bwyd Môr Gogledd Cymru yn dweud ei fod yn "wirioneddol gyffrous".
"Dy'n ni ddim yn adnabyddus am ddal octopws oddi ar arfordir Cymru ond dwi yn meddwl bod 'na lawer i'w ddysgu oddi wrth y fethodoleg a'r dechnoleg newydd fydd yn cael ei ddatblygu," meddai.
"Felly yn bendant fedar hwn 'neud dim byd ond lles ac mae'n braf iawn gweld prifysgol o Gymru ar lwyfan fyd-eang hefyd yn gwneud y math yma o ymchwil."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2014