Menyw yn pledio'n euog i lofruddiaeth yng Nghei Connah

  • Cyhoeddwyd
Dean BennettFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Dean Michael Bennett yng Nghei Connah ym mis Mai eleni

Mae menyw wedi pledio'n euog i lofruddio dyn 31 oed yng Nghei Connah yn gynharach eleni.

Bu farw Dean Michael Bennett o ganlyniad i ymosodiad arno ar 22 Mai, 2021.

Yn wreiddiol, roedd Emma Berry, 46 oed, wedi gwadu ei lofruddio, ond ar ddiwrnod cynta'r achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Llun, fe newidiodd ei phle i euog.

Ar y diwrnod dan sylw, cafodd yr heddlu eu galw am 17:03 gan y gwasanaeth ambiwlans wedi adroddiadau bod dyn wedi cael ei drywanu yn ardal Ffordd y Doc.

Cafodd Mr Bennett ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Aintree yn Lerpwl ond fe gadarnhawyd ei fod wedi marw yn fuan wedi iddo gyrraedd.

Fe wnaeth y Barnwr Rhys Rowlands ohirio'r achos tan y gwrandawiad dedfrydu ddydd Mawrth, 7 Rhagfyr, ond dywedodd mai dim ond un ddedfryd allai fod mewn achos o'r fath.

Fe gafodd dau berson arall a arestiwyd mewn cysylltiad â'r digwyddiad eu rhyddhau yn ddi-gyhuddiad yn gynharach eleni.

Pynciau cysylltiedig