Cei Connah: Carchar am oes am drywanu dyn drwy ei galon

  • Cyhoeddwyd
emma berryFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Mae dynes a drywanodd dyn i farwolaeth yng Nghei Connah yn gynharach eleni wedi cael ei dedfrydu i garchar am oes gyda lleiafswm o 16 mlynedd dan glo.

Fe wnaeth Emma Berry, 47 oed, drywanu Dean Bennett drwy ei galon wedi iddi ei weld yn dadlau gyda'i gariad ar 22 Mai.

Dywedodd tystion fod Berry wedi dweud "dwi'n mynd i'w drywanu fo" cyn mynd i gegin gymunedol i nôl cyllell. Yna aeth i ystafell Mr Bennett a'i drywanu.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Aintree yn Lerpwl mewn hofrennydd, ond bu farw yno yn fuan wedyn.

'Unigolyn peryglus'

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod Berry, oedd mewn perthynas dreisgar gyda'i phartner, yn ddibynnol ar alcohol a'i bod yn feddw yn aml gan gynnwys diwrnod y llofruddiaeth.

Mewn cyfweliad gyda'r heddlu fe wnaeth gyfaddef iddi yfed hanner litr o fodca a dau dun o gwrw cryf ar y diwrnod, a'i bod wedi cael ofn wrth weld Mr Bennett a'i gariad yn ffraeo gan nad oedd am i'r un peth ddigwydd iddi hi.

Wrth ei dedfrydu i garchar am oes dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands fod Mr Bennett "wedi gwneud dim i chi a ddim yn fygythiad i chi... ar ôl yfed fe aethoch chi i chwilio am gyllell a'i drywanu" yn dilyn dadl oedd "ddim yn cynnwys trais corfforol ac oedd â dim i'w wneud gyda chi".

Ychwanegodd y barnwr fod ei gweithredoedd wedi achosi "trallod" i deulu Mr Bennett a'i bod yn glir fod Berry, oedd ag euogfarnau blaenorol am drais, yn amlwg yn "unigolyn peryglus".

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Dean Michael Bennett yng Nghei Connah ym mis Mai eleni

Mewn datganiad a ddarllenwyd i'r llys dywedodd cyn-bartner Dean Bennett, Lucy Morris - sydd hefyd yn fam i'w blentyn - ei fod yn "dad anhygoel" ac na fyddai bywydau hi na'i merch "fyth yr un peth".

Dywedodd hefyd bod y ferch fach yn cael "hunllefau" ers marwolaeth ei thad a'i bod wedi troi yn blentyn "blin a mewnblyg".

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Chris Bell o Heddlu'r Gogledd: "Mae hwn yn achos trasig a welodd ddyn ifanc yn colli ei fywyd o ganlyniad i un anaf trywanu.

"Mae teulu Dean wedi ei chwalu gan ei farwolaeth. Mae'r achos hwn yn dangos goblygiadau erchyll trosedd gyda chyllyll."